Cofrestru pleidleiswyr Cymru yn awtomatig ar gyfer etholiadau'r cyngor

- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn cyflwyno system o gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau'r cyngor y flwyddyn nesaf, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth Plaid Cymru wedi cymeradwyo cynllun a gafodd ei ddechrau gan weinidogion Llafur gyda'r nod o leihau'r 400,000 o bobl sydd heb gofrestru i bleidleisio, ar ôl iddo gael ei brofi mewn pedwar ardal cyngor.
Fe wnaeth adolygiad gan y Comisiwn Etholiadol ddweud y gallai'r cynllun - sy'n cynnwys uno gwahanol setiau o ddata i ddod o hyd i gyfeiriadau - roi hwb i gofrestrau etholiadol ond bydd yn cymryd amser staff y cyngor.
Bydd y cynllun yn costio dros £2 filiwn yn y flwyddyn gyntaf, a byddai'n cofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiadau'r cyngor a'r Senedd ond nid ar gyfer etholiadau San Steffan.
Pryder bod agweddau gwrth-Gymraeg ymhlith cynghorwyr Sir Benfro
- Cyhoeddwyd3 awr yn ôl
Beth sydd yng nghyllideb atodol Llywodraeth newydd Cymru?
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
'Degawd ers Brexit mae'r effeithiau'n dal i gael eu gweld o hyd'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae etholiadau'r cyngor i fod i gael eu cynnal ym mis Mai 2027, tra bod etholiad nesaf y Senedd i fod i gael ei gynnal yn 2030.
Dywedodd Siân Gwenllian, gweinidog llywodraeth leol: "Mae Cymru ar flaen y gad o ran cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn y DU.
"Bydd y rheoliadau yma'n helpu i wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestr etholiadol llywodraeth leol ac maen nhw'n gam pwysig tuag at gryfhau ein democratiaeth."
Roedd y llywodraeth Lafur flaenorol eisiau i gofrestru awtomatig fod ar waith erbyn etholiad y Senedd, ond nad oedden nhw'n gallu ei gael yn barod mewn pryd.
Ychwanegodd cynlluniau peilot yn Sir Gaerfyrddin, Casnewydd, Gwynedd a Phowys 14,500 o bleidleiswyr newydd at y gofrestr leol.
Gallai'r system ddefnyddio cofnodion treth y cyngor, data llyfrgell, neu wybodaeth am dai i gofrestru pleidleiswyr.
Bydd pobl yn cael cyfle i optio allan os nad ydyn nhw eisiau cael eu hychwanegu at y gofrestr.

Dywedodd Siân Gwenllian bydd y rheoliadau yn dod i rym yn yr hydref os bydden nhw'n cael eu cymeradwyo yn y Senedd
Dywedodd yr adolygiad bod y cynlluniau peilot yn dangos y gallai system cofrestru awtomatig "gael effaith gadarnhaol ar gyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol".
Ond ychwanegodd y gall y broses paru data "gymryd llawer o amser" a gall y broses o wirio'r gwaith fod yn "llafurus".
Mae'r amcangyfrifon cost yn y flwyddyn gyntaf o gwmpas £2.5m, gyda £1.5m yn mynd ar uwchraddio'r feddalwedd sydd ei hangen, £965,000 ar gyllid i gynghorau a £100,000 i'r Comisiwn Etholiadol.
Mae costau'r cyngor yn cynnwys £748,000 ar gyfer staffio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau sydd angen cymeradwyaeth y Senedd ac wedi dweud eu bod yn disgwyl i gostau leihau wrth i gywirdeb y gofrestr wella o flwyddyn i flwyddyn.
Dywedodd Siân Gwenllian bydd y rheoliadau yn dod i rym yn yr hydref os bydden nhw'n cael eu cymeradwyo yn y Senedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.