Pryder bod agweddau gwrth-Gymraeg ymhlith cynghorwyr Sir Benfro

Cynghorydd Llafur Maureen BowenFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Llafur Maureen Bowen y "dylai pobl dalu am ddysgu Cymraeg eu hunain"

GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae un o gynghorwyr Sir Benfro wedi dweud ei fod yn pryderu am agweddau negyddol rhai o'i gyd-gynghorwyr at y Gymraeg, ar drothwy Eisteddfod y Garreg Las.

Fe ddaw sylwadau Huw Murphy ar ôl i'r Cynghorydd Llafur Maureen Bowen ddweud y "dylai pobl dalu am ddysgu Cymraeg eu hunain" a'i bod hi'n poeni am y gost o hyrwyddo'r Gymraeg a chyfieithu.

Mewn e-bost at raglen Newyddion S4C, dywedodd Maureen Bowen bod ganddi hawl i'w barn a bod "symiau enfawr" yn cael eu gwario ar y Gymraeg.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro nad oedd sylw'r cyn-gadeirydd yn adlewyrchu barn yr awdurdod.

'Dwi byth yn clywed Cymraeg'

Yn ystod trafodaeth yn un o bwyllgorau craffu'r cyngor yr wythnos diwethaf, dywedodd Maureen Bowen "ei bod hi'n falch nad oedd hi yn swyddfeydd y cyngor" fel "na fyddai cynghorwyr yn medru cael gafael arni" cyn mynd ymlaen i godi cwestiynau am gostau yn ymwneud â'r Gymraeg.

Roedd y pwyllgor craffu polisi yn trafod strategaeth ddrafft yr awdurdod ar gyfer y Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Bowen, sy'n cynrychioli ward yn Noc Penfro: "Mae'n sgil wych i fod yn ddwyieithog, ond dysgwch y Gymraeg ar eich cost eich hun.

"Dwi'n poeni am y gost o hyrwyddo'r Gymraeg a chyfieithu, er enghraifft i heddiw, pan mae gyda ni blant yn gadael ysgolion heb sgiliau sylfaenol, ac yna canmol yr ysgolion Cymraeg.

"Mae gan rieni plant sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg ddiddordeb mawr yn eu haddysg.

"Yn fy ward i, dwi byth yn clywed Cymraeg.

"Mae'r ysgol cyfrwng Saesneg yn brin o arian. Ydyn ni yn mynd ag arian bant o bethau sydd gwir eu hangen er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg?

"Onid yw hyn yn ffordd gyflym o arbed arian, trwy edrych ar gost y Gymraeg a chyfieithu?"

'Oll ni'n gofyn amdano yw parch'

Maureen Bowen oedd cadeirydd y cyngor sir tan fis Mai.

Fe atgoffwyd hi gan gadeirydd y pwyllgor, Aled Thomas, bod yna reidrwydd cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, ac nad oedd e'n cytuno gyda llawer o'i dadleuon.

Cadarnhaodd y cyfarwyddwyr addysg, Stephen Richards-Downes, nad oedd "gwahaniaeth mewn gwirionedd" yn y modd yr ariannwyd ysgolion Cymraeg a chyfrwng Saesneg.

Y Cynghorydd Huw Murphy
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Huw Murphy mai "nid dyma'r tro cyntaf" mae'r Cynghorydd Bowen wedi gwneud sylwadau am y Gymraeg

Yn ôl y Cynghorydd Huw Murphy o'r grŵp annibynnol, sydd yn aelod o'r pwyllgor, mae sylwadau'r Cynghorydd Bowen yn "mynd 'nôl â ni hanner canrif" a bod hi'n siom clywed fod "pobl a'r fath syniadau dal yn y cyngor, â digon o ffydd i ddweud y sylwadau".

Dywedodd mai "nid dyma'r tro cyntaf" mae'r Cynghorydd Bowen wedi gwneud sylwadau am y Gymraeg, ac fe gwestiynodd a oedd y Blaid Lafur yn fodlon gyda "phobl yn gwneud sylwadau fel hyn yn gyhoeddus?"

"Mae'r gyfraith yn glir. Mae'r iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg yn gyfartal. S'dim y gost yn dod mewn i'r ffaith," meddai.

"Dwi yn rhoi parch i'r iaith Saesneg a dwi yn disgwyl i bobl sydd ddim yn deall Cymraeg i roi parch i fy iaith i.

"Dyna i gyd ni'n gofyn amdano yw parch. Fod pobl yn rhoi parch ac yn deall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg i'r gymuned sydd yn siarad yr iaith."

'Dim un Cymro Cymraeg yn y cabinet'

Dywedodd y Cynghorydd Murphy ei fod yn bryderus am agweddau "negyddol" rhai cynghorwyr tuag at y Gymraeg, ar drothwy ymweliad y Brifwyl, ac yn dilyn ffrae arall am addysg Gymraeg y llynedd.

"Mae rhai aelodau o'r cyngor ddim yn deall pa mor bwysig yw'r iaith Gymraeg i gymunedau Cymraeg yn Sir Benfro, a ni dan anfantais, achos does dim un Cymro Cymraeg yn y cabinet," meddai.

"S'neb yna i roi gair iddyn nhw a dweud 'gwrandewch 'ma, mae'r gogledd tipyn bach yn unigryw i'r de, ac mae angen i chi sylweddoli hynny'.

"Mae'n rhaid i ni roi'r sialens mewn a gwneud hi'n glir bod y sylwadau hyn yn perthyn i'r hen ddyddiau.

"Mae'r gyfraith yn glir - mae'r iaith Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae beth mae hi yn dweud yn rhoi'r iaith Gymraeg yn ail i'r Saesneg."

Bethan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bethan Williams bod hi'n drueni nad oedd siaradwr Cymraeg nac unrhyw un o ogledd y sir yn y cabinet

Yn ôl Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith, mae'r "sylwadau yn anffodus" ac yn groes i "ddatblygiadau sydd wedi bod mewn addysg Gymraeg".

Roedd hi'n cyfaddef bod "hi'n syndod ac yn siom" bod "agweddau gwrth-Gymraeg" ar y cyngor.

"Bydden ni yn hoffi gweld bod y cynghorwyr yn gweld bod y Gymraeg yn gallu bod yn iaith gymunedol ar draws y sir," meddai.

"Mewn gwirionedd, mae'r cyngor yn datblygu a buddsoddi mewn darpariaeth addysg Gymraeg yn ne'r sir."

Dywedodd hefyd bod "hi'n drueni" nad oedd siaradwr Cymraeg nac unrhyw un o ogledd y sir yn y cabinet.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro nad oedd sylwadau Maureen Bowen yn "cynrychioli safbwynt yr awdurdod" a bod "Cyngor Sir Penfro yn llwyr gefnogi'r Gymraeg a gofynion llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r iaith".

"Mae fformiwla benodol i ariannu bob ysgol, boed nhw yn rhai cyfrwng Cymraeg neu Saesneg," meddai llefarydd.

"Mae'r cyngor, a nifer o bobl yn Sir Benfro, yn edrych ymlaen at groesawu'r Eisteddfod ym mis Awst."

Doedd Maureen Bowen ddim am wneud cyfweliad, ond mewn e-bost dywedodd ei bod hi'n "teimlo bellach bod hi'n amhosib cwestiynu gwariant ar yr iaith Gymraeg", a bod lle i gwestiynu'r ffaith bod y llywodraeth yn taflu arian at y Gymraeg, yn ei geiriau hi, "heb fawr o effaith" wrth i nifer y siaradwyr Cymraeg barhau i ostwng.

Yn ôl y Cynghorydd Bowen, doedd hi "ddim yn gwrthwynebu pobl yn dewis dysgu Cymraeg", a'i bod hi'n "ddysgwr fy hun".

Dywedodd hefyd bod y llywodraeth yn "mynd ag arian i ffwrdd o wasanaethau cyhoeddus" drwy "ddargyfeirio symiau mawr tuag at yr iaith Gymraeg" oddi wrth wasanaethau byddai rhai etholwyr yn ystyried "yn fwy pwysig".

Roedd hi hefyd yn dweud bod ganddi "hawl i fynegi barn am hynny".

'Gwaith da yn digwydd ym Mhenfro'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, waeth o le ydyn ni'n dod neu ble bynnag ydyn ni'n byw.

"Mae siarad mwy nag un iaith yn norm ar draws y rhan fwyaf o'r byd, ac rydyn ni'n falch o'n sgiliau a'n diwylliant dwyieithog ac amlieithog yma yng Nghymru.

"Mae gan y Gymraeg statws swyddogol, ac fel llywodraeth rydyn ni am ddiogelu a chryfhau'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru - drwy ein system addysg ac yn ein cymunedau.

"Un o'n prif flaenoriaethau yw rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus drwy weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg."

Dywedodd llefarydd ran Comisiynydd y Gymraeg bod "gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru ac, o ganlyniad i hynny, mae gan y cyngor ddyletswyddau penodol o dan safonau'r Gymraeg i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg".

"Yn dilyn cyflwyno Deddf y Gymraeg ac Addysg sydd yn ategu'r angen i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn rhagweithiol, mae disgwyliadau clir o ran hybu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg," meddai.

"Mae gwaith da a chadarnhaol yn digwydd ym Mhenfro yng nghyd-destun y Gymraeg a gobeithio y gellir adeiladu ar hynny yn y dyfodol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.