Brechu moch daear rhag TB: 'Bylchau sylweddol' o ran tystiolaeth

Nid yw pawb yn y gorffennol wedi cytuno mai brechu moch daear ydy'r ateb yn erbyn twbercwlosis buchol
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o ymchwilwyr yn dweud bod "bylchau sylweddol" yn y wybodaeth a'r dystiolaeth wrth frechu moch daear yng Nghymru yn erbyn twbercwlosis buchol (bTB).
Eu dadl ydy bod y bylchau hynny'n lleihau effeithiolrwydd y dull.
Mae brechu yn rhan o raglen i ddileu bTB yng Nghymru, ond mae'n bwnc dadleuol gan fod eraill yn y gorffennol wedi dadlau dros ddulliau eraill o geisio'r rheoli'r haint ymysg gwartheg - fel difa moch daear.
Mae moch daear yn medru cario'r afiechyd a'i drosglwyddo i fuchod.
Mae gwartheg yn cael eu profi'n gyson am bresenoldeb yr haint ac yn cael eu difa os ydyn nhw'n ei gario.
Galw mae'r gwyddonwyr yn yr achos yma am fwy o fonitro effaith brechu, edrych ar dystiolaeth a gweithio gyda ffermwyr "i sicrhau'r effaith fwyaf posib" gan y rhaglenni.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "adnewyddu ein dull o ddileu TB buchol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar dair brif elfen: gwartheg, pobl a bywyd gwyllt".
"Bydd y gwaith hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei arwain gan wyddoniaeth, gan ystyried cyngor y Bwrdd Rhaglen a'r Grŵp Cynghori Technegol, wrth sicrhau bod gwerth am arian yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau."

Mae gwartheg yn gallu marw o effaith y diciâu
Daw'r ddadl ddiweddaraf o bolisi briffio newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a Grŵp Polisi Cymru Cymdeithas Ecolegol Prydain.
Ynddo, maen nhw'n dweud bod "cwestiynau mawr yn parhau ynglŷn â faint o foch daear sy'n cael eu brechu, pa effaith y mae brechu moch daear yn ei chael ar lefelau clefydau mewn gwartheg a sut y gellir gwella hyder mewn brechu ymhlith ffermwyr a gweithwyr proffesiynol milfeddygol".
Dywedodd Dr Niall McKeown, darlithydd yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac is-gadeirydd Grŵp Polisi Cymru Cymdeithas Ecolegol Prydain, fod yr haint yn "parhau i fod yn un o'r heriau iechyd anifeiliaid mwyaf sy'n wynebu Cymru".
Daw'r afiechyd â "chanlyniadau difrifol i ffermwyr, da byw a chymunedau gwledig", meddai.
'Ystod o atebion'
Fis diwethaf dywedodd Llyr Gruffydd, y gweinidog sy'n gyfrifol am amaeth, fod angen "edrych ar ystod o atebion".
Dywedodd ar y pryd fod y "darlun yn amrywio o fferm i fferm" a bod "ystod eang o opsiynau" yn cael eu hystyried.
Daeth ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod yn ymestyn dau brosiect sy'n ceisio dileu'r diciâu (TB) mewn gwartheg.
Dechreuodd y prosiect fel cynllun peilot a gafodd ei gyflwyno mewn dwy ardal - Sir Benfro, lle mae nifer uchel iawn o achosion TB, a rhannau o'r gogledd - ond doedd dim bwriad ehangu hyn i ardaloedd eraill.
Ym mis Awst 2024, cafodd bwrdd newydd ei sefydlu gan y llywodraeth i drio cael gwared ar y diciâu mewn gwartheg.
Daeth y datblygiad hwnnw wrth i'r llywodraeth Lafur ar y pryd, weithio at y nod o Gymru heb TB erbyn 2041.

Daw'r polisi briffio newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a Grŵp Polisi Cymru Cymdeithas Ecolegol Prydain
"Ni ddylid cyflwyno brechu moch daear fel llwybr unigol i ddileu twbercwlosis buchol," meddai Dr McKeown.
"Mae tystiolaeth gref bod brechiad BCG yn amddiffyn moch daear, ond mae'r dystiolaeth bod rhaglenni brechu gweithredol yn lleihau clefyd mewn gwartheg yn parhau i fod yn gyfyngedig.
"Mae unrhyw fudd ar lefel gwartheg yn debygol o ddibynnu ar frechu parhaus a digon helaeth ochr yn ochr â rheolaethau gwartheg effeithiol."
'Dim un ateb' yn unig i ddelio â TB mewn gwartheg - gweinidog
- Cyhoeddwyd11 Awst
Enwi aelodau Bwrdd newydd sydd i gael gwared ar TB mewn gwartheg
- Cyhoeddwyd18 Medi 2024
Pwysleisiodd Dr McKeown nad mwy o frechu yn unig sydd ei angen, "ond yn hytrach, brechu sy'n cael ei dargedu, ei fesur a'i werthuso'n well".
"Trwy gyfuno monitro genetig anfewnwthiol gydag arolygon setiau, trapiau camera a data symudiad, gallwn amcangyfrif nifer y moch daear lleol, gwirio faint o'r boblogaeth a gyrhaeddir a nodi bylchau pwysig.
"Dylai'r data hwnnw wedyn gael ei gysylltu â mesurau aml-flwyddyn o ganlyniadau gwartheg, gan gynnwys nifer yr achosion mewn buches, hyd dadansoddiad a dychweliad.
"Ynghyd â chyd-gynllunio gwirioneddol sy'n cynnwys ffermwyr a milfeddygon, byddai hyn yn caniatáu i Gymru wahaniaethu rhwng cyflenwad annigonol ac effaith ymyrraeth wirioneddol gyfyngedig a dangos, yn hytrach na chymryd yn ganiataol, y cyfraniad y gall brechu moch daear ei wneud i'r rhaglen ddileu bTB yn ehangach."
'Gwella dealltwriaeth o boblogaethau'
Mae'r polisi briffio wedi nodi tair blaenoriaeth ar gyfer gweithredu.
Y flaenoriaeth gyntaf ydy "gwella dealltwriaeth o boblogaethau moch daear a chwmpas brechu trwy gyfuno technegau fel arolygon setiau, trapio camera, olrhain GPS a dadansoddiad genetig".
Mesur yr effaith ar ganlyniadau clefydau gwartheg ydy'r ail, "trwy astudiaethau hirdymor sy'n cymharu ardaloedd â chwmpas brechu uchel ag ardaloedd tebyg heb eu brechu".
Y drydedd flaenoriaeth ydy cryfhau ymgysylltiad â ffermwyr a gweithwyr proffesiynol milfeddygol, "trwy gyfathrebu clir, tystiolaeth berthnasol leol a mwy o gyfleoedd i gyfrannu at gyflwyno'r rhaglen".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.