Ffermwyr yn cael eu bygwth gan gangiau sy'n hela sgwarnogod

Mae Chris Edwards yn dweud bod pobl yn tresmasu ar ei dir "yn rheolaidd" wrth hela sgwarnogod yn anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Yng nghefn gwlad Bro Morgannwg mae gan ffermwyr lleol grŵp WhatsApp i rybuddio'i gilydd am gerbydau amheus, tra bod rhai wedi gosod boncyffion neu rwystrau concrit o flaen gatiau eu caeau.
"Mae'n nhw'n ein gwylio ni - dyna sy'n annifyr am y peth," eglurodd ffermwr o Dregolwyn, Chris Edwards - "ry'n ni'n cynaeafu cae ac yna o fewn oriau maen nhw yno".
Mae wedi gweld gatiau'n cael eu chwalu, a chnydau'n cael eu dinistrio wrth i dresmaswyr a'u cŵn hela sgwarnogod yn anghyfreithlon ar ei dir. Mae'i gymdogion wedi wynebu bygythiadau, meddai - rhai "geiriol a chorfforol" - ar ôl trio ymyrryd.
Rhybuddiodd Heddlu De Cymru bod yna gynnydd wedi bod mewn adroddiadau o gwrso sgwarnogod ym Mro Morgannwg, gan ddweud bod y llu yn gweithredu.
'Gwthio'u ffordd i mewn'
"Mae'n broblem enfawr," meddai Mr Edwards sy'n ffermio bîff a defaid.
"Ry'n ni'n agos i Gaerdydd, Pen-y-bont, Abertawe - mae 'na gysylltiadau da a'r draffordd a'r prif-ffyrdd felly mae pobl yn gallu teithio'n hawdd yma."
Bellach, cyn gallu cael mynediad i'w gaeau ei hun mae'n rhaid iddo ddefnyddio tryc i symud y boncyffion mawr y mae wedi'u gosod o flaen y gatiau.
"Ni wedi cyrraedd y pwynt nawr lle os nad y'n ni'n rhoi coeden fel hyn o flaen y gat maen nhw'n gwthio'u ffordd i mewn.
"Dwi wedi cael cerbydau yn taro i mewn i gatiau ac yn eu chwalu nhw. Ac yna pan eu bod nhw'n gadael mae gyda ni anifeiliaid mas ar yr hewl.
"Unwaith ni'n cyrraedd yr Hydref a ry'n ni'n plannu at y flwyddyn nesaf, maen nhw'n gadael rhychau yn y tir ac yn distrywio'r cnwd," meddai.

"Mae'n teimlo fel s'dim cymorth 'da ni - ni'n edrych ar ôl ein gilydd drwy'r WhatsApp group," meddai Dafi Davies
Dweud bod y sefyllfa'n destun pryder i ffermwyr drwy'r sir mae Dafi Davies, o Lanilltud Fawr.
"Yn amlwg mae'r caeau 'ma yn fflat iawn felly mae'n berffeth really i bobl allu gyrru ceir drwy'r caeau," meddai.
"Mae'n bryder achos ni'n tyfu cropiau sydd â lot o value iddyn nhw a mae'n gallu 'neud lot o niwed.
"'Mae WhatsApp group i gal le ni'n gweud wrth ein gilydd os mae car yn gyrru o gwmpas a byddwch yn wyliadwrus.
"Mae pawb yn trio buddsoddi mewn mwy o security i edrych ar ôl y crop, prynu blociau concrit a padlocks a chains."
Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi'n "gallu teimlo fel s'dim cymorth 'da ni".
"Mwy o sylw a chymorth o'r heddlu sydd isie," meddai.

Cafodd hela sgwarnogod gyda chŵn ei wahardd o dan y Ddeddf Hela 2004
Beth yw cwrso sgwarnogod?
Mae'n golygu defnyddio cŵn yn anghyfreithlon i hela sgwarnogod ar dir agored, gyda'r cŵn yn cael eu beirniadu am ba mor agos y maen nhw'n dilyn yr anifail wrth iddo geisio dianc.
Cafodd cwrso sgwarnogod ei wahardd o dan Ddeddf Hela 2004.
Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o heddluoedd wedi rhybuddio bod y gweithgaredd ar gynnydd, gyda rhai'n dweud bod cysylltiad rhwng betio ar-lein a throseddu cyfundrefnol neu organised crime.
Fe gyflwynodd Heddlu Gorllewin Mercia hysbysiad frys am "gynnydd sylweddol" mewn cwrso sgwarnogod yn Sir Amwythig ym mis Awst 2005, gyda Heddlu Swydd Warwick yn gwneud yr un fath ym mis Tachwedd.
Fe sefydlodd heddluoedd Cymru fenter o'r enw Operation Galileo Cymru yn ddiweddar, gan weithio gyda'r undebau amaeth ac asiantaethau eraill i rannu gwybodaeth a chydlynu eu gweithrediadau ar atal cwrso sgwarnogod a throseddau tebyg yng nghefn gwlad.

Mae' sefyllfa'n gwaethygu meddai Grug Evans o NFU Cymru
Yn ôl Grug Evans, sy'n ymgynghorydd sirol i NFU Cymru mae'r sefyllfa'n rhoi straen ar ffermwyr yn yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio.
"Mae'n mynd yn waeth - yn y gaeaf ac yn yr haf yn fwy na oedd o byth o'r blaen," meddai.
"Mae 'na gymaint o waith trefnu yn mynd mewn iddyn nhw wneud y fath weithgaredd - maen nhw'n planio pethe o flaen llaw fel y cerbydau, y betio - mae popeth wedi mynd yn fwy o beth erbyn heddiw."
Roedd sawl ffermwr ym Mro Morgannwg wedi wynebu bygythiadau ar ôl ceisio ymyrryd, ychwanegodd.
"Maen nhw wedi cael bygythiadau i losgi tŷ nhw lawr, saethu nhw - maen nhw just yn bethe fyse ti byth yn credu," meddai.
"Mae mor drist bod ffarmwr yn methu teimlo yn saff yn ei ardal ei hun."
Tra'n cydnabod bod yr heddlu yn lleol wedi bod yn gefnogol, dywedodd bod yr undeb am weld mwy o bresenoldeb gan heddweision yn yr ardal.
"Mae mwy all gael ei wneud yn enwedig gan yr heddlu fel bod nhw yma fwy i'r ffermwyr... fel bo' ni'n gallu rheoli'r gangiau yma lot yn well."
Mae'r undeb yn galw ar Heddlu De Cymru i sefydlu tîm materion gwledig penodol, gyda heddweision sy'n arbenigo ar droseddau cefn gwlad - fel sydd eisoes yn bodoli gyda lluoedd eraill Cymru.

Olion car oedd yn cwrso sgwarnogod yn un o gaeau Chris Edwards
Annog ffermwyr i gysylltu â'r heddlu
Mae Bro Morgannwg "yn bendant wedi gweld cynnydd o ran cwrso sgwarnogod," meddai'r Arolygydd, Huw Tyler o Heddlu De Cymru.
"A chyda hynny mae yna gynnydd hefyd mewn bygythion a digwyddiadau o drais," ychwanegodd.
"Ry'n ni'n weithgar wrth geisio taclo hyn," meddai - gan nodi cyllid newydd ar gyfer technoleg adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig, a defnydd peilotiaid drôn.
Roedd cyflwyno swyddogion penodol ar gyfer troseddau cefn gwlad hefyd dan ystyriaeth, yn ogystal â secondiad posib â Chyfoeth Naturiol Cymru.
"Ry'n ni wedi adeiladu perthynas dda gyda'r gymuned amaethyddol a ry'n ni'n eu hannog nhw i adrodd gymaint â phosib fel ein bod ni'n medru datblygu darlun da o ran gwybodaeth a dangos faint o broblem yw hyn yn yr ardal.
"Ar draws y wlad ry'n ni'n ymwybodol bod cwrso sgwarnogod yn gallu cael ei gysylltu â grwpiau troseddol a gamblo ar-lein - ond does gennyn ni ddim y wybodaeth yna yn lleol ar hyn o bryd," meddai.
"Fy neges i'r gymuned amaethyddol fyddai i barhau i adrodd, parhau i ddweud wrthon ni beth sy'n digwydd - y mymryn lleia' o wybodaeth y maen nhw'n meddwl sy'n berthnasol mae angen i ni wybod am hynny."

Stephen Davies, swyddog cymorth cymunedol gyda Heddlu De Cymru
Mae Stephen Davies yn gweithio fel swyddog cymorth cymunedol gyda Heddlu De Cymru ym Mro Morgannwg gan weithio'n agos â ffermydd sy'n cael eu heffeithio gan gwrso sgwarnogod.
"Mae'n beth mawr ar y funud... a'r math o bobl sy'n dod mas yn hollol wahanol," meddai.
Lle byddai pobl yn y gorffennol wedi parcio ar hewlydd a cherdded ar y caeau gyda'u cŵn, bellach roedden nhw'n gyrru'n uniongyrchol drwy gatiau gan greu difrod, meddai.
"Maen nhw'n distrywio bywydau pobl."
Dywedodd bod mynd i'r afael â'r sefyllfa "yn bwysig iawn i'r heddlu".
Roedd heddweision ar batrôl yn amlach ger ffermydd oedd yn cael eu targedu, meddai.
"Ni'n defnyddio'r offer adnabod rhifau cerbydau awtomatig, ry'n ni'n defnyddio'r drones a ry'n ni'n ffodus iawn yn y Fro bod helicopter yr heddlu yn Sain Tathan a ni'n defnyddio nhw hefyd yn y nos," meddai.
"Ni'n datblygu'r berthynas gyda'r ffermwyr a blwyddyn diwetha' fel welon ni lot mwy o bobl yn hala reports mewn ato ni o'i gymharu â'r flwyddyn cyn 'ny."
Bydd heddweision yn ymweld â sioeau amaethyddol gydol yr haf, ychwanegodd - gan gynnwys y Sioe Fawr a Sioe Bro Morgannwg - i siarad â'r diwydiant ynglŷn â'r broblem ac annog pobl i adrodd achosion a chynnig gwybodaeth.
Mae'r llu'n annog ffermwyr i gofrestru ar gyfer gwasanaeth De Cymru yn Gwrando, dolen allanol - sy'n eu galluogi i gael cyswllt â thimau heddlu yn y gymdogaeth, hefyd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.