Ffermwyr tatws Sir Benfro yn wynebu'r 'haf mwyaf heriol ers cyn cof'

Mae ffermwyr yn poeni y byddan nhw'n cynhaeafu llai o datws na'r arfer yn sgil y tywydd poeth
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr tatws Sir Benfro yn dweud mai dyma'r haf mwyaf heriol iddyn nhw ei wynebu "ers cyn cof".
Mae'r tywydd twym a sych dros y misoedd diwethaf wedi cael effaith ddifrifol ar y cnwd tatws a chnydau maes eraill yn yr ardal.
Ar ddiwrnod cyntaf sioe amaethyddol Sir Benfro yn Hwlffordd, mae ffermwyr yn rhybuddio ei bod hi'n bosib y bydd prinder erbyn yr Hydref ac y gallai prisiau bwyd godi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud gweithredu ar yr hinsawdd a natur "yn gyfrifoldeb ar lefel y cabinet sy'n ymestyn ar draws pob portffolio".
Ydy diwydiant gwin Cymru yn elwa o'r tywydd poeth?
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Galw am newid cynllun ffermio, sydd ag ond traean o ffermwyr Môn
- Cyhoeddwyd11 Awst
Sioeau amaethyddol angen datblygu er mwyn goroesi - Llywydd Sioe Môn
- Cyhoeddwyd10 Awst
Mae tatws Sir Benfro yn boblogaidd iawn, ond eleni mae ansicrwydd ynglŷn â faint o datws fydd yn y siopau, a hefyd pa fath o datws fydd ar y silffoedd wrth i dyfwyr ar draws y sir geisio achub eu cnydau.
Mae angen lot fawr o ddŵr ar datws i dyfu, ond mae'r haf eleni wedi bod yn rhy sych o lawer - gan arafu tyfiant.
Wrth bwyso a mesur y sefyllfa mae ffermwyr yn poeni y byddan nhw'n cynhaeafu llai o datws na'r arfer.
Pryder arall yw y gallai'r tywydd twym effeithio ar faint y tatws hefyd.
Mae'n ofid mawr i ffermwyr oherwydd mae'n bosib y bydd y cynnyrch yn llai na'r hyn mae archfarchnadoedd yn fodlon ei brynu.

Mae Meredith George yn dweud bod nifer o'i blanhigion eisoes wedi gwywo yn y tywydd poeth
Dywedodd Meredith George, sy'n codi tatws yn fferm Penwernddu ger Boncath:
"Mae dau wahanol fath o datws gyda ni ar y fferm... Wilja a Cara. Mae un math yn tyfu yn well na'i gilydd ond mae'r tir yn hollol sych a dim moisture o gwbl ar hyn o bryd."
Mae Mr George yn dweud bod dim adnoddau ar y fferm i ddyfrhau'r tatws felly "yr unig beth allwn ni 'neud yw aros am ychydig o law".
"Ma' ishe tipyn o law. Ond ma' rhai o'r planhigion hyn wedi mynd rhy bell a gwywo a newn nhw ddim ail dyfu."
"Mae'n bosib bydd rhaid i archfarchnadoedd ail ystyried pa datws ma' nhw'n fodlon prynu a gwerthu, ond hefyd mae'n bosib y bydd rhaid i gwsmeriaid ddod yn gyfarwydd â bwyta tatws pob neu sglodion sy'n dipyn yn llai na'r arfer.
"Canol mis Awst ma'r tato fel arfer wedi tyfu i dri chwarter ei maint arferol ond eleni ma' nhw ond hanner y maint... felly ni'n siarad am be ni'n alw yn dato salad yn fan 'na."

Mae Tom Rees yn galw am "leihau'r biwrocratiaeth ar y defnydd o ddŵr sydd wedi ei storio"
Mae gan nifer o ffermwyr byllau dŵr, neu gronfeydd ar eu tir, ac mewn ardaloedd gwledig iawn mae nifer o ffermydd yn ddibynnol ar ffynonellau preifat fel ffynhonnau yn hytrach na dŵr tap.
Ond eleni mae'r ffynhonnau yn sychu a does dim digon o ddŵr ar gyfer tyfu'r cnydau.
Nid tatws yn unig sydd wedi eu heffeithio, mae'r sychder hefyd yn cael effaith ar lysiau eraill fel moron, bresych, letys a chiwcymbr hyd yn oed.
Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, mae nifer o ffermwyr fel Tom Rees, sy'n llefarydd ar gnydau gydag undeb NFU Cymru ac yn codi tatws yn ardal Hwlffordd, yn galw am "leihau'r biwrocratiaeth ar y defnydd o ddŵr sydd wedi ei storio".
"Mae hynny'n gam syml allai gael ei gymryd bron dros nos. Mae ishe cynhaeafu peth o'r dŵr glaw yma. Mae'n bwysig i ffermwyr allu tyfu cnydau ond hefyd yn bwysig i fioamrywiaeth," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol gan wneud gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn gyfrifoldeb ar lefel y cabinet sy'n ymestyn ar draws pob portffolio".
"Rydym wedi cyhoeddi mwy na £1 biliwn dros dymor y Senedd i gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy i roi sicrwydd hirdymor i'r sector gynllunio a buddsoddi yn hyderus.
"Drwy ein Rhaglen Diwygio Dŵr, byddwn yn cymryd rheolaeth lawn dros ddŵr yng Nghymru, a gwneud defnydd gwell o'r dŵr sydd eisoes ar gael i ni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.