Lluniau: Bywyd gwyllt Caerdydd a'r Fro yn yr haf
- Cyhoeddwyd
 ninnau ynghanol gwyliau'r haf, a phob cwr o'r wlad yn denu ymwelwyr boed i'r traethau neu i'r trefi, mae bywyd gwyllt hefyd yn ffynnu.
Y ffotograffydd Gildas Griffiths sydd wedi dogfennu bywyd gwyllt yng Nghaerdydd a'r fro dros yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd Gildas: "Mae tynnu lluniau o fywyd gwyllt yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i ffotograffiaeth.
"Mae'r oriau hir o olau dydd yn ystod tymor yr haf gyda'r nosweithiau cynnes, y golau gwell a'r gweithgarwch ar ei anterth yn rhoi'r cyfle imi ddal eiliadau na fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn eu gweld.
"Ar adeg pan fo anifeiliaid ac adar yn brysur yn bridio, yn bwydo ac yn magu eu cywion, mae deall ychydig am eu hymddygiad, symud yn dawel a rhoi eu lles yn gyntaf yn fy ngalluogi i'ch dod yn nes at eiliadau naturiol."

Cyw llwynog hardd, ond ychydig wythnosau oed, yn ymddangos o'r isdyfiant, gyda'r fam ddim yn bell i ffwrdd. Tynnwyd y llun hwn yn y goedwig ger yr Eglwys Newydd

Gwyach yn llithro'n osgeiddig ar draws Bae Caerdydd, gan adael crych ysgafn yn ei hôl

Glas y dorlan yn gorffwys ar gangen gyda'i ddalfa, wedi'i goleuo gan heulwen odidog ger Llwybr Taf, Caerdydd

Nico (Llinos Aur) yn gorffwys yn ein gardd ym Mro Morgannwg

Tynnwyd y llun hwn o wenynen yn casglu paill gan ddefnyddio lens macro ym Mharc Gwledig Porthceri

Pili pala (Glöyn byw) ym Mharc Gwledig Porthceri, Bro Morgannwg

'Dewi', ein draenog gardd sy'n ymwelydd cyson, yn gwneud ymddangosiad ym mis Gorffennaf wrth chwilio am fwyd a dŵr

Mae wedi bod yn bleser dogfennu tyfiant a hedfan cyntaf y dylluan frech ifanc hardd hon yn y goedwig ger Penarth. Cafodd fy llun cyntaf o'r cyw ei gynnwys yn oriel flaenorol BBC Cymru Fyw, yn edrych allan o'i nyth

Bellach yn chwe mis oed, mae'r cyw llwynog rydw i wedi bod yn ei ddogfennu yn edrych yn wych ymhlith dail gwyrdd yr haf

Cwningen yn crwydro caeau Parc Cosmeston yng ngolau euraidd codiad yr haul

Tynnwyd y llun hwn o alarch yn llithro ar hyd morglawdd Bae Caerdydd adeg codiad haul

Un o'n cywion gwylan swnllyd yn gwneud ei bresenoldeb yn hysbys ar do ein cymydog

Siglen felen yn chwilio am bryd o fwyd ger Afon Taf

Cnocell werdd yn archwilio ei hamgylchedd ym Mharc Gwledig Porthceri

Glas y dorlan yn gorffwys uwchben Afon Taf
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Mai

- Cyhoeddwyd10 Hydref 2025
