Gostyngiad 19,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru

Roedd plant a phobl ifanc tair i 15 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru wedi gostwng 19,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl arolwg blynyddol o'r boblogaeth.
Roedd 843,700 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026, yn ôl yr ystadegau a gafodd eu cyhoeddi yr wythnos hon.
Mae hynny'n ostyngiad o'r 862,700 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.
Er gwaethaf y gostyngiad diweddar, mae'r niferoedd wedi cynyddu'n gyffredinol ers mis Mawrth 2010 (731,000), ar ôl gostyngiad graddol rhwng 2001 a 2007.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "y gostyngiad diweddar yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl yr Arolwg Blynyddol yn siomedig".
Ychwanegodd bod angen "trin y newidiadau diweddar â gofal" oherwydd maint y sampl ond "mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn".
Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai 17,000 o bobl oedd y sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg.
46,000 'byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu'
Yn ôl yr arolwg blynyddol, yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2026 roedd 27.3% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg - sy'n cyfateb i thua 843,700 o bobl.
Mae'r amcangyfrif diweddaraf tua 0.4% yn uwch na'r flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025 pan roedd amcangyfrif fod 26.9% o bobl yn gallu siarad Cymraeg.
Dydy'r cynnydd hwn ddim yn arwyddocaol yn ystadegol, meddai'r llywodraeth.
Roedd plant a phobl ifanc tair i 15 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg (47.7%) nag unrhyw grŵp oedran arall.
Mae hyn yn gyson dros amser, ond mae canran y plant a phobl ifanc tair i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos:
Yng Nghaerdydd (94,900), Gwynedd (93,800) a Sir Gaerfyrddin (89,500) mae'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg;
Ym Mlaenau Gwent (8,100) a Merthyr Tudful (8,400) mae'r niferoedd isaf;
Yng Ngwynedd (76.9%) ac Ynys Môn (63.4%) mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
Ym Mlaenau Gwent (11.9%) a Phen-y-bont ar Ogwr (13.8%) mae'r canrannau isaf.
Fe wnaeth 14.5% (446,800) o bobl tair oed neu hŷn adrodd eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 4.9% (151,900) yn wythnosol a 6.4% (198,600) yn llai aml.
Dywedodd 1.5% (46,000) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 72.7% yn gallu siarad Cymraeg.
Dywedodd 31.5% (971,600) eu bod yn gallu deall Cymraeg llafar, 25% (772,300) eu bod yn gallu darllen yn Gymraeg, a 22.4% (692,600) eu bod yn gallu ysgrifennu'n Gymraeg.
'Sicrhau'r dyfodol cryfaf posibl i'r Gymraeg'
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydym yn cymryd camau i sicrhau'r dyfodol cryfaf posibl i'r Gymraeg yn ein hysgolion, ein cymunedau a'n gweithleoedd.
"Rydym am sicrhau cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddysgu a mwynhau'r Gymraeg drwy wireddu potensial llawn Deddf y Gymraeg ac Addysg.
"Byddwn yn gosod y sylfeini i sicrhau bod o leiaf 50% o'n plant yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, sef y targed mwyaf uchelgeisiol gan unrhyw lywodraeth o ran twf y Gymraeg."
Mae targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi'i seilio ar ddata'r Cyfrifiad.
Roedd Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8% - tua 538,000 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001 yn 582,400, a 562,000 oedd y ffigwr yn 2011.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf
