Arestio un ar amheuaeth o lofruddio wedi i ddyn farw yn y Trallwng

Police officers standing next to a cordoned-off area in Church Street, Welshpool
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd heddlu a pharafeddygon eu galw i Stryd yr Eglwys yn gynnar fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn farw yn Y Trallwng.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi derbyn adroddiad am ddyn oedd wedi cael ei anafu ar Stryd yr Eglwys am 01:16 fore Sul.

Ond er gwaethaf ymdrechion swyddogion a'r gwasanaeth ambiwlans, bu farw'r dyn.

Bu ambiwlans awyr yn bresennol yno hefyd.

Mae'r dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae'r llu yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd yr heddlu bod dyn arall yn parhau yn y ddalfa hefyd.

Ychwanegodd y llu bod y ffyrdd wedi cau ar hyd Stryd yr Eglwys a bydd mwy o bresenoldeb heddlu yno tra bod yr ymchwiliad yn parhau.