Bron i 400 o raddedigion nyrsio a bydwreigiaeth heb swyddi yn y GIG

Mae undebau'n dweud bod cannoedd o raddedigion nyrsio a bydwreigiaeth yn dal i fod heb swyddi yn y GIG yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 400 o raddedigion nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru yn dal heb swyddi yn y GIG ar ôl i'r broses gychwynnol o'u paru â swyddi ddod i ben.
Dywedodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) fod 703 o raddedigion wedi cael eu paru â swyddi Band 5 ledled byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru.
Ond mae 383 o raddedigion, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd ac ymarferwyr adran lawdriniaethau, heb sicrhau swydd hyd yma.
Mae'r newyddion yn dilyn pryderon diweddar am raddedigion iechyd eraill, gan gynnwys parafeddygon, sydd hefyd wedi wynebu anawsterau wrth sicrhau swyddi yn y GIG yng Nghymru.
Diffyg swyddi i fyfyrwyr parafeddygol 'fel slap i'r wyneb'
- Cyhoeddwyd6 Ebrill
Dywedodd AaGIC fod "gwelliant mewn recriwtio a chadw staff yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â newidiadau i gostau byw, wedi golygu bod llai o staff wedi gadael eu swyddi ac felly bod llai o swyddi gwag nag oedd wedi'u rhagweld pan gafodd cynlluniau'r gweithlu eu llunio bedair blynedd yn ôl."
Ychwanegodd y corff fod cyfyngiadau ariannol hefyd wedi "cyfrannu at y ffaith bod llai o swyddi Band 5 addas ar gael eleni."
Yn gynharach y mis hwn cynhaliodd y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, uwchgynhadledd gyda phenaethiaid iechyd, prifysgolion a chyrff proffesiynol i drafod y sefyllfa.
O'r 383 sydd heb swydd, mae'r mwyafrif yn nyrsys, gyda 70 yn fydwragedd a saith yn ymarferwyr adran lawdriniaethau.
Dywedodd AaGIC y bydd ail gam o'r broses baru yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Gorffennaf, pan fydd 131 o swyddi nyrsio pellach yn cael eu dyrannu.

Dywedodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru fod llai o swyddi gwag ar gael eleni oherwydd gwell recriwtio a chadw staff, "ynghyd â newidiadau i gostau byw"
Dywedodd prif weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Alex Howells, eu bod yn "cydnabod y byddai'r canlyniad yn siomedig i'r graddedigion nad oedd wedi sicrhau swydd yn ystod y cam cyntaf".
Ychwanegodd y bydd partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi'r graddedigion hynny, "yn ogystal â chryfhau'r ffordd y mae'r gweithlu'n cael ei gynllunio a gwella cyfleoedd i garfannau'r dyfodol."
Deallir y bydd y rhai sydd heb gael swydd yn ystod y cam cyntaf yn derbyn "hyblygrwydd" ynghylch bwrsariaeth y GIG Cymru, a dalodd eu ffioedd dysgu ar yr amod eu bod yn gweithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio.
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol nyrsio Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Nicola Williams, fod angen i Lywodraeth Cymru "ymyrryd ar frys gan fod nifer o atebion posibl a allai sicrhau swydd i bob graddedig".
Ychwanegodd ei bod yn anodd "cyfiawnhau sefyllfa lle nad yw nyrsys newydd gymhwyso yn gallu sicrhau gwaith" ar adeg pan fo'r gwasanaeth iechyd yn "gwario symiau sylweddol ar staff dros dro tra bod aelodau'n parhau i adrodd am bwysau cynyddol" oherwydd prinder staff.
'Ddim yn gwneud synnwyr'
Dywedodd cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd Cymru, Julie Richards, ei bod yn peri pryder bod bydwragedd newydd gymhwyso yn wynebu ansicrwydd ynghylch eu dyfodol tra bod gwasanaethau mamolaeth yn "parhau i wynebu prinder staff".
"Mae'n siomedig nad oes digon o swyddi i bob bydwraig newydd gymhwyso ar adeg pan fo angen mwy o staff i leddfu'r argyfwng gweithlu mewn gwasanaethau mamolaeth."
Yn gynharach eleni, canfu asesiad o ofal mamolaeth a newyddenedigol fod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â lefelau staffio, nad oedd wedi cadw i fyny â chymhlethdod gofal.
"Ar y naill law mae gennym adolygiadau ac asesiadau cenedlaethol sy'n tynnu sylw at yr angen brys i wella lefelau staffio er mwyn sicrhau gofal diogel a chyfartal," meddai Julie Richards.
"Ar y llaw arall, rydym yn gweld bydwragedd newydd gymhwyso yn wynebu ansicrwydd ynghylch eu cyflogaeth yn y dyfodol.
"Dyw hynny ddim yn gwneud synnwyr."