Y môr wrth galon taith Baton y Brenin o amgylch Cymru

- Cyhoeddwyd
 Gemau'r Gymanwlad yn dechrau'n Glasgow ymhen mis, mae Baton y Brenin wedi bod yn teithio drwy 74 tiriogaeth y Gymanwlad ers mis Mawrth 2025, gan obeithio uno'r gwledydd.
Mae'r baton wedi bod yng Nghymru ers 19 Mehefin, ac wedi crwydro o'r Barri i Sir Gâr i Gwm Elan, ac newydd orffen ei thaith ym Mae Trearddur, Ynys Môn.
'Y Môr' yw thema'r daith eleni; y thema perffaith i wlad lle mae dros 60% o'r boblogaeth yn byw ger y môr!
Mae Reece Halstead yn gweithio fel Cydlynydd Llythrennedd Cefnfor Cymru gyda sefydliad Y Môr a Ni, a fu'n cydweithio gyda Thîm Cymru a phartneriaid eraill i arddangos pwysigrwydd y môr ym mywydau pobl Cymru.
"Dwi'n meddwl fod gan bawb yng Nghymru berthynas efo'r môr; o fynd am dro ar y traeth, i fyw a gweithio ar y môr, i geisio diogelu'r bywyd gwyllt.
"Ein bwriad ni yn Y Môr a Ni yw dathlu'r berthynas honno, a sicrhau fod gan bawb berthynas iach gyda'r môr.
"Roedd y digwyddiadau yma'n gyfle gwych i ddathlu ein moroedd, arfordir, bywyd gwyllt a'r bobl a'r cymunedau lleol sy'n gweithio i ddiogelu'r môr a hynny efo Tîm Cymru."

Y baton yn cael ei gludo i Ynys y Barri ar gwch yr RNLI

Gethin Jones, Chef de Mission Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad eleni, oedd cludwr cyntaf y baton ar y daith - yma gyda Reece Halstead o griw Y Môr a Ni

Casglu sbwriel ar brom a thraeth Ynys y Barri

Ym Mhorthdinllaen, taith o dan y dŵr gyda Isobel Lomax, a fu'n snorclo dros fôrwellt gyda'r baton

Roedd llawer o bartneriaid yn rhan o'r digwyddiadau, fel yr un yma ym Mhorthdinllaen

Cafodd y baton ei gludo allan i'r môr ar un o gychod British Sub-Aqua Club

Roedd hefyd cyfle i chwilota ar y traeth am gasys wyau siarcod a chathod môr (skate)

Ar Draeth Aberfan ger Port Talbot roedd Emma Lamport o Beach Academy Wales yn cynnal saffari traeth

Cyfle i ddysgu am yr holl fathau o greaduriaid gwhanol sydd i'w canfod at draethau Cymru

Rhaid i griw RNLI allu symud yn sydyn ar y traeth hefyd, yn ogystal ag yn y môr

Yna draw i Borthaethwy... Eleni, mae gan bob un o'r 74 gwlad sy'n cynnal Taith Baton y Brenin, eu baton unigryw eu hunain sy'n cynrychioli eu diwylliant unigryw. Cafodd baton Cymru ei ddylunio gan yr artist Nathan Wyburn

Y baton yn rhuthro ar gwch cyflym ar afon Menai

Actor Rownd a Rownd, Gethin Bickerton, gyda'r baton sydd wedi bod ar hyd a lled Cymru!

Plant Ysgol Henblas yn chwilio am grancod a chreaduriaid eraill yn y pyllau yn y creigiau ym Mae Trearddur

O Ynys y Barri i Fae Trearddur: Y baton yn cael ei basio yn ôl i griw cwch yr RNLI, a oedd yn cynghori am ddiogelwch ar y môr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd11 Ebrill

- Cyhoeddwyd1 Medi 2023
