Y Barbariaid, Cymru a'r gwesty ym Mhenarth

- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n wynebu'r Barbariaid yn Twickenham brynhawn Sadwrn, 27 Mehefin, gyda charfan Steve Tandy'n paratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd yr haf yma.
Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Fiji yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 4 Gorffennaf 2026, cyn teithio i'r Ariannin a De Affrica.
Mae'r Barbariaid yn enw adnabyddus iawn yn y byd rygbi, ac yn dîm sy'n gysylltiedig â steil agored o chwarae, gyda'r cyfle yn cael ei roi i chwaraewyr fynegi ei hunain a chael hwyl.
Ond wyddoch chi fod y 'Baa-Baas', fel maen nhw'n cael eu 'nabod, yn ystyried Penarth ym Mro Morgannwg fel eu 'cartref ysbrydol'? Mae yna berthynas agos wedi bod rhwng y tîm a'r dref ers 1901.
Pwy yw'r Barbariaid?
Cafodd y tîm ei ffurfio gan ŵr o Lundain, William Percy Carpmael, yn 1890. Roedd Carpmael yn chwarae dros glwb Prifysgol Caergrawnt ar y pryd, ac fe benderfynodd wahodd criw o chwaraewyr i ymuno ag ef ar daith i ogledd Lloegr.
Gwelodd hyn fel cyfle i chwarae gyda ffrindiau o wahanol glybiau a oedd fel arfer yn wrthwynebwyr.
Dechreuodd y syniad am dîm oedd yn teithio, ac maen nhw wedi bod yn chwarae gemau ledled y byd ers hynny yn eu crysau cylchoedd du a gwyn enwog. Er, mae'r chwaraewyr yn gwisgo'r sanau o'u stribed clwb eu hunain.

Carfan y Barbariaid y tro diwethaf iddynt chwarae yn erbyn Cymru (Tachwedd 2023)
Dim ond trwy wahoddiad yn unig mae'n bosib chwarae i'r clwb, nid oes gan y clwb stadiwm na chlwb cartref, ac mae traddodiad o ddewis chwaraewr ar gyfer pob gêm sydd heb eto ennill cap rhyngwladol.
Mae chwaraewyr o dros 30 o wledydd bellach wedi cynrychioli'r Barbariaid ac maen nhw wedi chwarae yn erbyn timau rygbi mawr y byd - Seland Newydd, De Affrica, Awstralia, Lloegr, Cymru, Iwerddon a'r Alban yn eu plith.
Ond mae'r Barbariaid hefyd wedi chwarae yn erbyn gwledydd fel Yr Almaen, Rwsia, Tiwnisia, Georgia a Brasil.
Cymru oedd y tîm rhyngwladol cyntaf i wynebu'r Barbariaid, a hynny ar Barc yr Arfau ar 17 Ebrill, 1915.

Y dorf ar gyfer y gêm rhwng Caerdydd a'r Barbariaid yn 1911
Mae Cymru wedi chwarae yn erbyn y Barbariaid 11 gwaith, gyda Chymru'n ennill pum gêm a'r Barbariaid yn ennill chwe gêm.
Gwesty'r Esplanade, Penarth
Mae Penarth wedi bod yn fan ble mae'r Barbariaid wedi perthyn iddo erioed, neu'n fwy penodol, Gwesty'r Esplanade.
Byddai'r tîm yn aros yn 'Yr Esp' ar eu teithiau Pasg o amgylch Cymru.

Gwesty'r Esplanade fel yr oedd ym Mhenarth
Roedd y Barbariaid yn arfer dechrau eu taith o amgylch de Cymru ym Mhenarth, gan chwarae gêm flynyddol ar Ddydd Gwener y Groglith. Yn aml roedd gemau i'w ddilyn yn erbyn Clwb Rygbi Caerdydd ar y dydd Sadwrn, Clwb Rygbi Abertawe ar ddydd Llun y Pasg, ac yna Clwb Rygbi Casnewydd ar y dydd Mawrth.
Chwaraewyd 75 gêm rhwng y Barbariaid a Phenarth rhwng 1901 ac 1986 - enillodd Penarth 11 gêm, y Barbariaid 60 gêm, ac roedd pedair gêm gyfartal.
Yn 1977 fe ddinistriwyd Gwesty'r Esplanade gan dân, bron i ganrif wedi iddo gael ei adeiladu. Ond fe safodd yr adeilad yn deilchion am rai blynyddoedd nes ei ddymchwel ar ddiwedd y 1980au.

Dinistrwyd y gwesty yn dilyn tân ac yn diwedd bu rhaid dymchwel yr adeilad
Roedd Ralph Bond Sweet-Escott yn chwarae dros Gaerdydd a Chymru ac yn un o sefydlwyr Clwb y Barbariaid. Roedd yn dod o Benarth ac yn fab i'r Parchedig William Sweet-Escott.
Mae sôn mai Sweet-Escott oedd tu ôl y penderfyniad i gartrefu'r Barbariaid yn y dref.
Cymru a'r Barbariaid
Fel nodwyd yn barod mae Cymru a'r Barbariaid wedi chwarae yn erbyn ei gilydd 11 gwaith, ond dim ond pedair gêm brawf swyddogol sydd wedi bod rhyngddynt - gyda dwy fuddugoliaeth i Gymru, a dwy i'r ymwelwyr.

Alun Wyn Jones a Justin Tipuric yn chwarae dros y Barbariaid yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd - 4 Tachwedd, 2023
Ac er mai yn erbyn Seland Newydd oedd y gêm, mae cais Gareth Edwards dros y Barbariaid yn 1973 yng Nghaerdydd yn cael ei ystyried fel un o'r goreuon yn hanes rygbi.
Mae gemau ble mae'r Barbariaid yn chwarae yn aml yn rhai â sgorau uchel gan fod y timau yn cael eu hannog i redeg gyda'r bêl yn hytrach na chicio, gyda'r bwriad o ddiddanu'r dorf a'r gynulleidfa sy'n gwylio gartref.

Gareth Edwards, a sgoriodd y cais eiconig dros y Barbariaid yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd ar 27 Ionawr, 1973
Yng ngharfan y Barbariaid ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru ar 27 Mehefin mae chwaraewyr o 12 gwlad, gan gynnwys Yr Ariannin, Seland Newydd, Wrwgwái, Awstralia, De Affrica, UDA, Fiji, Ffrainc, Lloegr a Samoa.
Bydd un Cymro'n dechrau dros y Barbariaid yn erbyn Cymru - y bachwr Elliot Dee, sydd wedi chwarae 55 gwaith dros Gymru ers ei gap cyntaf yn 2017.
Ond ar y fainc bydd wyneb hynod gyfarwydd arall, George North.
Hon fydd y gêm olaf o rygbi yng ngyrfa ddisglair North, wedi iddo ennill 121 cap dros Gymru a thri dros y Llewod, gan sgorio 49 cais rhyngwladol.
Enillodd y chwaraewr o Fôn Bencampwriaeth y Chwe Gwlad bedair gwaith, ac mae'n cael ei ystyried fel un o'r goreuon erioed i wisgo crys coch Cymru.
Yn 34 mlwydd oed mae North yn ymddeol o'r gêm gan wybod ei fod yn sicr wedi gadael ei farc ar chwaraeon Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf.

Elliot Dee a George North yng nghrys y Barbariaid
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Mai

- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2023
