Paneli solar Stadiwm Principality yn ddigon i bweru 50 diwrnod gêm

Stadiwm Principality o'r awyr, gyda phaneli solar yn gorchuddio'r toFfynhonnell y llun, URC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r paneli yn gorchuddio ochrau gorllewinol a dwyreiniol y stadiwm

GanDavid Grundy
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae paneli solar wedi dechrau cynhyrchu digon o drydan i bweru mwy na 50 o ddiwrnodau gêm yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Mae'n garreg filltir bwysig yn ymdrechion Undeb Rygbi Cymru i leihau eu hôl troed carbon, wrth iddyn nhw baratoi i gyhoeddi eu strategaeth gynaliadwyedd gyntaf.

Mae dros 3,250 o baneli wedi'u gosod ar do'r stadiwm fel rhan o'r prosiect mwyaf o'i fath mewn unrhyw stadiwm chwaraeon yn y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl iddyn nhw gynhyrchu tua 1.25 miliwn awr-cilowat o drydan y flwyddyn - digon i gynnal diwrnod gêm llawn bob diwrnod am saith wythnos.

Paneli solar ar do Stadiwm Principality
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 3,250 o baneli wedi'u gosod ar do'r stadiwm

Bydd y cynllun yn lleihau allbwn carbon y stadiwm tua 219,791kg bob blwyddyn, tra hefyd yn dod â chostau ynni'r undeb i lawr.

Mae'n rhan o becyn ehangach o fesurau i wneud gweithrediadau'r stadiwm yn fwy cynaliadwy.

Maen nhw hefyd yn casglu dŵr glaw ar gyfer toiledau'r stadiwm a gosod goleuadau LED ledled y safle.

"Mae hwn yn eitha' unigryw achos mae gennym ni baneli solar ar y ddwy ochr a'r nifer fwyaf [ar stadiwm] unrhyw le ym Mhrydain," medd Ashok Ahir, cyfarwyddwr materion corfforaethol Undeb Rygbi Cymru.

Ashok Ahir
Disgrifiad o’r llun,

Mae Undeb Rygbi Cymru "eisiau bod yn lot mwy cynaliadwy fel sefydliad", yn ôl Ashok Ahir

Dechreuodd y gwaith o osod y paneli ar ôl cyngerdd olaf haf y llynedd gan Catfish and the Bottlemen.

Fe gymerodd ddeufis i gwblhau'r gwaith o'u gosod, gyda lleoliad y stadiwm ar lan Afon Taf yn achosi cur pen i beirianwyr.

Bu'n rhaid defnyddio dau graen anferth i godi'r paneli fesul un o gae'r stadiwm drwy'r agoriad yn y to.

Wedi hynny bu'n rhaid i'r gweithwyr osod pob un panel solar, yn eu tro, ar ochrau gorllewinol a dwyreiniol y stadiwm.

Craen yn codi paneli solar o gae Stadiwm Principality drwy'r agoriad yn y toFfynhonnell y llun, URC
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dau graen anferth eu defnyddio i godi'r paneli o gae'r stadiwm drwy'r agoriad yn y to

Mae 'na ymrwymiad hefyd i gaffael bwyd yn gynaliadwy, a gweithio gydag elusennau lleol er mwyn sicrhau bod bwyd dros ben yn cael ei ddosbarthu i gymunedau bregus.

"Un rheswm, wrth gwrs, yw i arbed arian," meddai Mr Ahir.

"Yr ail ydi i ddefnyddio'r cyfle sydd gyda ni, a hefyd ni eisiau bod yn lot mwy cynaliadwy fel sefydliad, ac ma' hwnna'n rhan o'r broses i gyrraedd strategaeth newydd i ni helpu'r amgylchedd yn y dyfodol."

Y nod ydi buddsoddi mewn atebion ynni cynaliadwy er mwyn helpu i ddiogelu dyfodol y stadiwm a chreu arbedion ariannol i'w hailfuddsoddi yn y gêm ar lawr gwlad ledled Cymru.

Mae'r undeb yn datblygu strategaeth gynaliadwyedd lawn ar hyn o bryd, a fydd yn gosod sut y gall prosiectau tebyg gyfrannu at gynllun hirdymor i wneud rygbi Cymru yn fwy gwydn ac ecogyfeillgar.

Mae disgwyl i strategaeth gynaliadwyedd lawn yr undeb gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.