'Argyfwng' tlodi plant yng Nghymru yn costio '£2.2b y flwyddyn'

meithrinfa
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, mae tlodi plant yn costio £2.2biliwn y flwyddyn i'r economi leol

GanRuth Roberts
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol yn dweud bod tlodi plant yng Nghymru yn "argyfwng difrifol".

Daw sylwadau Ben Lake wrth i sefydliadau roi tystiolaeth o flaen pwyllgor o ASau Cymreig ar ddechrau eu hymchwiliad i ddod â thlodi plant yng Nghymru i ben.

Mae'r Adran Waith a Phensiynau yn dweud bod 32% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, sy'n uwch na'r cyfartaledd ar draws y DU. Mae'r ffigwr wedi aros yn gyson ers tua chwarter canrif.

Yn ôl y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG), mae'r sefyllfa'n costio'r economi leol £2.2biliwn y flwyddyn o ystyried sgil-effeithiau fel y risg uwch o ddiweithdra, cyflogau is, a'r gwariant ychwanegol sydd ei angen gan y llywodraeth.

Ben Lake
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid dechrau gweithredu," meddai Ben Lake

Yn ôl Sefydliad Bevan, mae bron i hanner y plant sy'n byw mewn tlodi erbyn hyn yn byw mewn sefyllfaoedd "dwfn iawn".

Dywedodd Ben Lake, sy'n AS Plaid Cymru dros Geredigion Penfro, wrth raglen Newyddion S4C fod y sefyllfa yn "argyfwng difrifol".

Mae hefyd yn aelod o'r Pwyllgor ar Faterion Cymreig fu'n gwrando ar y dystiolaeth.

"Mae'r sefyllfa yn un wael ar nifer o deuluoedd a phlant," meddai.

"Mae'n rhaid dechrau gweithredu. Ma 'na ambell i gynllun sydd yn gallu helpu, er enghraifft ma' prydau ysgol am ddim yn fesur sydd wedi bod yn weddol effeithiol mewn rhai mannau.

"Mae hefyd unrhyw gefnogaeth pellach i ofal plant yn gallu helpu'r sefyllfa."

Gwennan Bryant
Disgrifiad o’r llun,

"I fi, doedd gweithio ddim yn opsiwn, doeddwn i methu mynd nôl i'r gwaith ar ôl yr ail achos fyddai costau i edrych ar ôl nhw yn ormod," meddai Gwennan Bryant

Mae Gwennan Bryant yn fam i ddau o blant sy'n byw yn ardal Grangetown yn y brifddinas, ac mae'n dweud bod sawl her i deuluoedd ifanc.

"Heriau o ran costau byw, gofal plant yn benodol," meddai.

Dydi Gwennan heb ddychwelyd i'w gwaith arferol ar ôl genedigaeth ei hail blentyn.

"I fi, doedd gweithio ddim yn opsiwn, doeddwn i methu mynd nôl i'r gwaith ar ôl yr ail achos fyddai costau i edrych ar ôl nhw yn ormod, yn fwy na be' fyddwn i'n cael fel cyflog," meddai.

"Dwi wedi ffeindio gwaith le fi'n gallu gweithio yn hyblyg o adre' so ma' hwnna'n gwneud pethe'n haws ond wedyn o'n i ddim yn gallu mynd nôl i'r gwaith oeddwn i'n neud cynt."

Mabli Siriol Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Y prif bethau sy'n achosi tlodi ydi diffyg incwm i allu cwrdd â'r costau sy'n wynebu teulu," meddai Mabli Siriol Jones

Bu Mabli Siriol Jones, sy'n Bennaeth Polisi Sefydliad Bevan, yn rhoi tystiolaeth o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan brynhawn Mercher.

Mae'n dweud bod 47% o'r plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru erbyn hyn yn byw mewn tlodi dwfn.

"Y prif bethau sy'n achosi tlodi ydi diffyg incwm i allu cwrdd â'r costau sy'n wynebu teulu. 'Dan ni'n gwybod bod yna gyswllt gyda faint o rieni yn y teulu sy'n gweithio sy'n gallu cael effaith ar dlodi," meddai.

"Mae costau fel ynni a bwyd i gyd wedi codi a dyna be sy'n gyrru'r tlodi 'dan ni'n ei weld ar hyn o bryd."

"Mae'r tlodi yn dyfnhau. 'Dan ni'n gwybod nawr bod hanner y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn byw mewn tlodi dwfn iawn a ma'r bobl yna wir yn mynd heb rai o'r hanfodion yna 'dan ni wir ei angen."

Mae Mabli yn pwysleisio ei fod yn broblem ar draws Cymru.

"Dwi'n meddwl yn anffodus mae pawb wedi dod i arfer hefo'r ystadegyn bod un ymhob tri o blant Cymru yn byw mewn tlodi a dydi hyn ddim yn dderbyniol," meddai.

"'Dan ni rili isio gweld Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth ma'n nhw'n gallu i dynnu mwy o blant allan o dlodi."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynnig newydd "ar gyfer gofal plant, ar ôl ei ehangu'n llawn, yn fwy hael nag unrhyw gynnig arall yn y Deyrnas Unedig, gan wneud gofal plant yn fwy hygyrch a fforddiadwy i deuluoedd".

Fe ddywedodd llefarydd fod "pob un o'r 22 awdurdod lleol bellach ar y trywydd iawn i gyflwyno cam cyntaf yr ehangu, sef 12.5 awr yr wythnos o ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â dim ond tri awdurdod lleol ar ddechrau tymor y llywodraeth ym mis Mai".

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn benderfynol o droi'r llanw ar dlodi a bod eu strategaeth "am godi dros hanner miliwn o blant allan o dlodi erbyn blwyddyn olaf y tymor presennol".

Maen nhw hefyd yn nodi y bydd cael gwared â'r cap budd-dal dau blentyn o fudd i tua 69,000 o blant yng Nghymru.

Er yn cydnabod bod datblygiadau o ran cymorth gyda gofal i blant, dywedodd Gwennan ei bod am weld mwy o newid.

"Help ar ôl ysgol, gwneud siŵr bod clybiau ar gael i blant. 'So jobs yn beni am 15:00 fel ma'r ysgol yn gorffen so dyw e ddim wastad yn gneud sens o ran casglu a phethe. Fydde' help gyda gofal er mwyn gwneud siŵr bo' ni'n gallu mynd nôl i'r gwaith yn iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.