Wrecsam yn y pedwar olaf yn y ras i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029

Cyrhaeddodd Wrecsam restr fer cystadleuaeth Dinas Diwylliant 2025 hefyd, ond Bradford gafodd yr anrhydedd y tro hwnnw
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer bod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU yn 2029.
Tair dinas arall sydd ar y rhestr, Blackpool, Milton Keynes a Sheffield, ac mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ddechrau'r flwyddyn.
Bydd yr enillydd yn derbyn £10m ar gyfer darparu blwyddyn o weithgareddau diwylliannol, a bydd y tri lleoliad arall ar y rhestr fer yn derbyn £125,000 yr un i fwrw ymlaen gyda rhai elfennau o'u ceisiadau.
Dywedodd cadeirydd cais Wrecsam, Joanna Knight, fod y foment yn un "anhygoel i Wrecsam", ac yn rhywbeth i'r gymuned gyfan fod yn falch ohono.
Cynigiodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei longyfarchiadau i'r ddinas, gan ddweud bod gan yr ardal "gymaint i'w gynnig".

Cyrhaeddodd Wrecsam y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant 2025, ond Bradford gafodd yr anrhydedd y tro hwnnw.
Wrecsam oedd yr unig leoliad yng Nghymru i ymgeisio am y teitl yn 2029.
Cafodd y ddinas ei chynnwys ar restr hir ym mis Mawrth, gan sicrhau £60,000 ar gyfer llunio cais llawn.
Mewn diweddariad, dywedodd yr adran o fewn Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y prosiect fod "cystadleuaeth yn rhan allweddol o ymdrech y llywodraeth i hybu balchder a thwf economaidd ledled y wlad".
'Stori mor anhygoel i'w hadrodd'
Ychwanegodd Joanna Knight bod y datblygiad yn "newyddion gwych" ac yn rhywbeth i'r gymuned gyfan fod yn falch ohono.
"Mae gennym stori mor anhygoel i'w hadrodd, ynghyd â'r uchelgais, y creadigrwydd a'r angerdd i wneud 2029 yn rhywbeth gwirioneddol ysblennydd.
"Mae'r gefnogaeth yr ydym ni wedi'i chael gan bobl a sefydliadau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi bod yn rhyfeddol, ac mae teimlad gwirioneddol bod rhywbeth arbennig iawn yn digwydd yma."

"Dychmygwch beth fyddai'n golygu i ddod y ddinas gyntaf yng Nghymru i ennill y teitl," meddai Ms Knight.
"Nid yn unig i Wrecsam, ond i ogledd Cymru a Chymru gyfan. Mae'r cyfleoedd yn enfawr ac rydym yn benderfynol o wneud y gorau ohonyn nhw."
Ychwanegodd hi fod angen i "bawb" gefnogi'r ymgyrch rŵan, "dathlu popeth sy'n gwneud y lle yma mor arbennig", a hawlio'r teitl.
Wrecsam yn y ras i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
5 ffordd mae Wrecsam wedi elwa o ddyfodiad sêr Hollywood
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Ychwanegodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod gan Wrecsam lawer i'w gynnig "o ran treftadaeth, diwylliant a chwaraeon".
"Mae gan Wrecsam gyfle gwirioneddol bellach i ddod yn Ddinas Diwylliant gyntaf Cymru, gan ddenu buddsoddiad a mwy o ymwelwyr, a hybu balchder yn y gymuned."
"Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda cham nesaf eu cais."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant yn Llywodraeth y DU fod gan "bob lle stori sydd werth ei hadrodd am ei hanes, ei hunaniaeth a'i chyfraniad unigryw ei hun".
Mae hi wedi bod yn "anhygoel" gweld y dinasoedd yn dangos yr hyn sy'n gwneud eu cymunedau "mor arbennig yn ein stori genedlaethol", meddai Lisa Nandy.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.