Cwpl oedrannus wedi marw yn dilyn ffrwydrad nwy a thân yn eu cartref

William John Mumford a'i wraig Marlene yn gwenu tua'r amser yn ystod achlysurol teuluolFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y crwner bod marwolaethau damweiniol William a Marlene Mumford yn ganlyniad "gweithred anfwriadol gyda chanlyniad annisgwyl" ac yn "eithriadol o drist"

GanOwain EvansGohebydd BBC CymruaRhian PriceBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed sut y gwnaeth tân ledu yn gyflym wedi i ddyn oedrannus geisio symud potel nwy a oedd yn wenfflam o'i gartref.

Cafwyd hyd i gyrff William a Marlene Mumford yn eu cartref yn Heol Fawr ym mhentref Nelson, yn Sir Caerffili, yn dilyn adroddiadau o ffrwydrad tua 18:00 ar 12 Rhagfyr y llynedd.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghasnewydd mai achos mwyaf tebygol y tân oedd nam ar wresogydd nwy cludadwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw gan gymydog a welodd fwg a fflamau dros chwe throedfedd o uchder pan adawodd dŷ tafarn lleol i gael sigarét y tu allan.

Rhedodd gyda dyn arall i'r tŷ er mwyn helpu ond fe welodd potel nwy'n ffrwydro ger cyntedd y tŷ a roedd y fflamau'n uwch na'r tŷ ei hun.

Cafodd tair injan dân eu hanfon i'r cyfeiriad ac aeth pedwar swyddog ag offer anadlu i mewn i ddiffodd y fflamau.

Fe gadarnhaodd staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru tua 18:20 bod Mr a Mrs Mumford, oedd yn 90 ac 84 oed, wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd o Heddlu Gwent, Neil Blythe, nad oedd tystiolaeth bod y tân wedi ei gynnau'n fwriadol na bod wnelo'r digwyddiad ag unrhyw un arall.

Ym marn Rheolwr Gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr, Melvyn Robert Laidler, achos mwyaf tebygol y tân oedd nam mecanyddol neu nam cysylltu gwresogydd nwy cludadwy, a bod y nwy wedi tanio wedi i'r botel gael ei roi ymlaen.

Roedd patrymau llosg a lleoliad y botel yn awgrymu bod Mr Mumford heb allu cau'r botel ac wedi ceisio ei symud o'r tŷ.

Ychwanegodd taw dyma'r unig dân o'r fath iddo ddod ar ei draws mewn degawdau o wasanaeth.

Diffoddwyr tân yn archwilio'r difrod wedi'r tân - mae ffenestri wedi torri ac mae ôl llosgi ar y wal
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y fflamau wedi'r ffrwydra yn uwch na'r tŷ, yn ôl tystiolaeth cymydog i'r cwest

Ym marn patholegydd dod i gysylltiad ag ymlosgiad wnaeth achosi'r marwolaethau.

Nododd yr adroddiad hefyd bod canlyniadau gwaed yn awgrymu gwenwyn carbon monocsid.

Daeth Crwner Cynorthwyol Gwent, Sarah Le Fevre i'r casgliad ei fod yn debygol i'r tân gychwyn wrth gysylltu'r botel â'r gwresogydd nwy.

Bu farw Mr a Mrs Mumford, meddai, o ganlyniad i dân a gafodd ei gynnau'n ddamweiniol o ganlyniad nam mecanyddol neu nam cysylltiad, a arweiniodd at ryddhau nwy a gafodd ei danio gan fflam.

Ychwanegodd bod y marwolaethau'n ddamweiniol, yn ganlyniad "gweithred anfwriadol gyda chanlyniad annisgwyl" ac yn "ddigwyddiad unigol eithriadol o drist."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig