Dyn ifanc wedi marw trwy anffawd ar ôl dianc o uned seiciatryddol - cwest

Cafodd Anthony Whittle ei ddarganfod yn farw yn 1994 ar ôl dianc o uned iechyd meddwl ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae gwelliannau diogelwch wedi cael eu gwneud mewn uned iechyd meddwl ers marwolaeth myfyriwr 30 oed wnaeth ddianc drwy ffenestr a thros do yn 1994.
Roedd Anthony Whittle â sgitsoffrenia paranoaidd, ac wedi ei gludo i uned seiciatryddol Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Fe wnaeth ddianc o ystafell cyfweliad ar ôl cael ei adael ar ben ei hun am gyfnod byr, a daethpwyd o hyd iddo'n farw maes o law ger ffordd gyflym yr A55.
Cafodd cwest newydd ei gynnal wedi i'r Uchel Lys ddyfarnu, ar gais ei deulu, bod y cwest gwreiddiol yn 1995 yn annigonol.
Wedi diwrnod llawn o drafod ddydd Mercher, daeth rheithgor yn Llys Crwner Caernarfon i'r casgliad mai anffawd oedd ei farwolaeth, ac nad oedd bwriad ganddo i niweidio ei hun.
Cwest newydd yn achos dyn wnaeth ddianc o uned iechyd meddwl yn 1994
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Roedd Mr Whittle - myfyriwr coedwigaeth blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor - wedi ffonio ei rieni yn Burnley ar 24 Tachwedd 1994 yn dweud ei fod eisiau mynd adref.
Aeth ei dad a'i frawd i'w gwrdd yng ngorsaf drenau Caer ond doedd dim golwg ohono.
Daeth i'r amlwg bod rhywun wedi dod o hyd iddo'n crwydro yn ardal traeth Prestatyn, yn wlyb ac wedi colli un esgid.
Trefnodd yr heddlu iddo gael ei gludo i Uned Hergest ac fe aeth ei dad a'i frawd yno hefyd.
Dywedodd ei frawd Christopher wrth y gwrandawiad ei fod "wedi ein cofleidio a dweud ei fod yn ein caru, ond ei fod wedi newid.
"Aethom yn ôl i'r dderbynfa, ond daeth y meddyg yn ôl atom a dweud bod Anthony wedi dianc trwy'r ffenestr ac i lawr to."
Daethpwyd o hyd i'w gorff drannoeth ger yr A55 yn ardal Llandygai.

Roedd Christopher Whittle a'i dad yn nerbynfa Uned Hergest pan wnaeth ei frawd ddianc trwy ffenestr
Ddydd Mawrth fe dywedodd Dr Tom McMonagle, seiciatrydd dan hyfforddiant oedd ar ddyletswydd ar y pryd, ei fod wedi cael sgwrs hir gyda Mr Whittle ynghylch ei iechyd meddwl, cyn gadael yr ystafell i siarad gyda'i berthnasau.
"Fy marn ar y pryd oedd ei fod mewn ystafell heb unrhyw ffordd allan heblaw drwy'r drws, ac roeddwn i'n sefyll yn y coridor.
"Roedd dyfais ar y ffenest i'w hatal rhag agor yn rhy bell.
"Roeddwn i'n synnu ei fod wedi llwyddo i fynd allan drwy'r ffenest heb ei thorri."
Daeth y rheithgor 11 aelod - pedwar dyn a saith dynes - i'r casgliad fod Mr Whittle wedi marw trwy anffawd ar ôl dioddef pwl iechyd meddwl a ddaeth drosto'n gyflym, cael asesiad a gadael trwy'r hyn a gredai oedd yn ffenestr nad oedd modd ei hagor.
'Cryfder ac urddas anhygoel'
Cafodd yr ail gwest ei gynnal wedi i'r Uchel Lys ddiddymu'r un cyntaf, yn 1995, ar gais ei deulu.
Dyfarnodd barnwyr bod y gwrandawiad gwreiddiol yn annigonol.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod Mr Whittle yn hoffi bod yn yr awyr agored a physgota môr, yn chwaraewr rygbi talentog ac yn focsiwr amatur.
Dywedodd aelodau staff cyfredol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n rhedeg Uned Hergest erbyn hyn, wrth y cwest bod sawl newid wedi dod i rym ers marwolaeth Mr Whittle, gan gynnwys diogelwch ffenestri.
Mae offer i atal pobl rhag dringo i'r to hefyd wedi eu gosod, ac mae'r system o ran asesu cleifion sy'n cael eu cludo i'r uned gan yr heddlu hefyd wedi newid.
Wedi i'r rheithgor rannu eu casgliad, dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson wrth Christopher Whittle bod ei gryfder a'r urddas drwy'r gwrandawiad a'r blynyddoedd o weithredu wedi bod yn anhygoel.
Ychwanegodd byddai ei frawd Anthony a'i rhieni yn falch iawn ohono.
'Gwneud hyn dros fy rhieni ac Anthony'
Yn dilyn y cwest dywedodd Christopher Whittle ei fod e'n "falch o allu sicrhau'r cwest newydd i farwolaeth ei frawd" oedd wedi ei alluogi i ofyn cwestiynau am yr hyn y mae e'n teimlo "aeth yn anghywir wrth ofalu am Anthony".
"Dw i'n falch bod y cwestiynau pwysig oedd gen i ers yr ymchwiliad gwreiddiol yn 1995 wedi cael eu gofyn a'u hateb o'r diwedd," meddai.
"Er ei bod hi wedi cymryd amser hir iawn i gyrraedd y pwynt yma, mae'n teimlo'n dda fy mod i wedi gallu gwneud hyn dros fy rhieni ac Anthony."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.