Cynllun £1m i achub rhan o Eryri sydd 'wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol'

Nant FfranconFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nant Ffrancon yn wynebu dirywiad ecolegol difrifol, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

GanNia Cerys Gwynn
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd dyffryn yn Eryri sy'n wynebu "dirywiad ecolegol difrifol" yn gweld cynllun £1m i geisio achub y sefyllfa.

Mae rhybudd bod Nant Ffrancon "wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol", ac yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mae rhai rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl o'r ardal.

O gopaon Cwm Idwal i waelod Dyffryn Ogwen, mae Nant Ffrancon yn un o dirweddau mwyaf arbennig ac unigryw Cymru, ond mae'n wynebu heriau bioamrywiaeth sylweddol.

Mae'r cynefinoedd wedi dirywio a rhai o rywogaethau Cymru sydd dan y bygythiad mwyaf - gan gynnwys mwyalchen y mynydd a llinos y mynydd - mewn perygl o ddiflannu, yn ôl arbenigwyr.

Bele'r coedFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd monitro rhywogaethau fel bele'r coed yn rhoi syniad o iechyd y dyffryn, meddai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Gan weithio ar y cyd â chymunedau lleol, ffermwyr tenant a gwirfoddolwyr, bydd dros 1,635 hectar (4,040 erw) o gynefinoedd, ardal sydd dros 51 gwaith maint Llyn Ogwen, yn cael eu hadfer a'u diogelu.

Dywedodd Simon Rogers, Rheolwr Prosiect Natur i Bobl Nant Ffrancon, ein bod "wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol, ac mae angen i ni weithredu nawr".

"Un o'r pethau 'da ni'n poeni am fwya' ydy'r rhywogaethau sydd ar y rhestr goch... pethau fel mwyalchen y mynydd, llinos y mynydd - dau aderyn bach a 'da ni ar fin eu colli nhw.

"Hefyd eleni, yn sychder yr haf yma, roeddan ni'n edrych ar un math o flodyn yn benodol.

"Y llynedd roedd 'na saith ohonyn nhw, ond erbyn diwedd yr haf doedd 'na ond tri ar ôl.

"Felly mae 'na beryg go iawn y byddwn ni'n gweld extinction o rai pethau yng Nghymru yn y blynyddoedd nesa' - dyna 'da ni'n trio troi'r gornel arno fo."

Ychwanegodd bod y prosiect yn rhoi "cyfle cyffrous i ni weithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, ffermwyr a phartneriaid, i adfer ac uno cynefinoedd sy'n well i fyd natur, cefnogi rhywogaethau dan fygythiad a chreu dyfodol mwy gwydn i'r dyffryn".

"Wrth adeiladu ar waith adfer byd natur blaenorol a pharhaus yn yr ardal, a rhoi pobl wrth wraidd yr adferiad byd natur, rydym yn gobeithio creu gwaddol parhaol lle gall bywyd gwyllt, ffermio a chymunedau ffynnu gyda'i gilydd a lle gall bywyd gwyllt ffynnu am genedlaethau."

Bydd rheoli pori gan wartheg, drwy ddefnyddio coleri GPS, yn rhan bwysig o'r gwaithFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rheoli pori gan wartheg, drwy ddefnyddio coleri GPS, yn rhan bwysig o'r gwaith

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n arwain ar y gwaith, ac un o'r prosiectau fydd yn elwa o'r cynllun ydy Tlysau Mynydd Eryri, gwaith i ddiogelu rhai o'r planhigion alpaidd mwyaf prin yng Nghymru.

Bydd arolygon ecolegol a monitro rheolaidd yn mapio effaith y gwaith ar adfer Nant Ffrancon, gan ddefnyddio rhywogaethau fel bele'r coed a dyfrgwn, a phlanhigion gan gynnwys aethnen a meryw i roi syniad o iechyd y dyffryn dros gyfnod.

Bydd y prosiect hefyd yn adeiladu ar y defnydd arloesol o goleri da byw GPS i reoli pori yn fwy manwl.

Er bod y dechnoleg eisoes ar waith ym Mlaen y Nant, fferm draddodiadol yr ucheldir dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'r elusen yn awyddus i'w hail-osod y flwyddyn nesa'.

Mae pori gan anifeiliaid yn "rhan allweddol o reoli tir fel hyn" meddai Rhys Wheldon-Roberts, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal, ond mae angen "y pori iawn, yn y dwysder iawn, yn y llefydd iawn ar yr adeg iawn.

Nant Ffrancon

"Mae'r coleri yma'n gwneud hynny'n bosib mewn tir mor arw a hyn.

"Mae'n bosib symud y gwartheg efo'r coler o un lle i'r llall.

"Os ydy'r lle wedi cael gormod o bori ar un adeg, mae'n bosib eu symud nhw i ffwrdd.

"Mae hynny'n gallu digwydd yn fyw wrth i'r ffarmwr fedru edrych ar ei ap a gweld lle mae'r gwartheg a monitro nhw'n symud ymlaen.

"Mae'n gallu gwneud pori'n rhywbeth llawer mwy effeithiol i'r gwartheg ac i natur."

Nant FfranconFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiect yn anelu at adfer a diogelu dros 1,635 hectar o gynefinoedd yn Nant Ffrancon

Yn ogystal ag amaethwyr lleol, bydd pwyslais ar gynnwys y gymuned a gwirfoddolwyr yn rhan o'r gwaith, meddai Wheldon-Roberts.

"Mae prosiect fel hyn yn rhoi marc ar y natur mewn ffordd a chodi ymwybyddiaeth o'r peth.

"Y gobaith drwy hynny ydy bod y bobl sy'n byw yn lleol a'r bobl sy'n dod i ymweld â'r lle yn dysgu ychydig bach mwy am y natur, yr hanes a'r cynefinoedd sydd yma.

"Yn rhan o hynny wedyn, gobeithio bod nhw eisiau parchu fo ac edrych ar ei ôl o."

Bydd cyfle i rai sydd eisiau dysgu mwy am y gwaith i fynychu Diwrnod Cymunedol Nant Ffrancon ar 3 Hydref ar fferm Blaen y Nant.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.