Mam wedi marw o ganser ar ôl aros naw mis am ganlyniadau profion

Sarah Catherine Daniels
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Sarah Catherine Daniels yn ei chartref wedi'i hamgylchynu gan anwyliaid, clywodd ei chwest

  • Cyhoeddwyd

Bu farw mam i dri o ganser yn dilyn oedi o naw mis cyn derbyn canlyniadau profion patholeg.

Clywodd cwest i farwolaeth Sarah Catherine Daniels fod yr oedi yn golygu na chafodd driniaeth yn ddigon cyflym, a fyddai o bosib wedi ymestyn ei bywyd.

Bu farw yn ei chartref yn nhref Porth yn Rhondda Cynon Taf, yn 43 oed ym mis Ebrill 2025.

Dywedodd ei gŵr ei bod hi "byth wedi rhoi'r gorau i frwydro" yn erbyn ei chanser ymosodol, prin.

Fe ddywedodd y Crwner Rachel Knight fod yr adran batholeg, lle'r oedd darn o ofari Sarah wedi cael ei anfon i'w brofi, wedi'i "llorio'n llwyr gan y galw" ar y pryd yn dilyn y pandemig.

Clywodd y cwest yn Llys Crwner Pontypridd fod yr oedi yn "annerbyniol" ac wedi lleihau'r siawns o gael cemotherapi llwyddiannus.

Lwmp wedi'i dynnu yn 2022

Aeth Sarah at ei meddyg teulu yn 39 oed ym mis Hydref 2021 gyda "symptomau gynaecolegol o bryder", clywodd y cwest.

Cafodd y mater ei uwchgyfeirio gan ei doctor, ac o ganlyniad fe gafodd sgan uwchsain (ultrasound) ar 21 Hydref 2021, oedd yn dangos lwmp ar un o'i hofarïau.

Cafodd Sarah ei chyfeirio at adran gynecoleg yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac fe benderfynodd dynnu'r lwmp yn hytrach na'r opsiwn o gael hysterectomi llawn.

Ym mis Chwefror 2022, cafodd y lwmp ei dynnu.

Clywodd y cwest nad oedd y lwmp yn edrych fel canser, ond fe gafodd samplau eu hanfon i'r adran batholeg i'w profi.

Llys Crwner Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwest ei gynnal yn Llys Crwner Pontypridd

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Martin Ludlam, gwyddonydd oedd yn rheoli'r gwasanaeth patholeg o fewn y bwrdd iechyd, fod y sefyllfa yn anodd ar y pryd.

Dywedodd fod y llwyth gwaith wedi cynyddu'n sylweddol yn niwedd 2021 a 2022, gan fod nifer o apwyntiadau wedi cael eu gohirio yn ystod y pandemig Covid-19.

Ychwanegodd nad oedd ganddyn nhw'r capasiti i reoli'r galw ar y pryd, yn ogystal â'r rhestr aros.

Dywedodd Ludlam wrth y cwest nad oedd y bwrdd iechyd yn delio â rhestr aros erbyn diwedd 2022, yn rhannol oherwydd eu bod yn defnyddio ffynonellau allanol - dull y maen nhw'n parhau i ddefnyddio hyd heddiw, meddai.

"Mae'r achos yma wedi amlygu na allwn ni ddychwelyd i sefyllfa lle mae gennym restr aros gyson, fyth eto," meddai.

Iechyd wedi gwaethygu erbyn 2025

Rhoddodd Ben Daniels, gŵr Sarah, dystiolaeth ysgrifenedig gan ddweud bod Sarah, pan y cafodd hi ei chanlyniadau, wedi cael gwybod bod ei chyflwr yn derfynol ac roedd ei disgwyliad oes yn 12 mis.

Disgrifiodd pa mor benderfynol o wella oedd ei wraig, a'u bod wedi cael triniaeth breifat yng nghanolfan ganser The Christie ym Manceinion, oedd yn cynnwys tynnu ei phendics.

Yna, cafodd Sarah driniaeth arall yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, oedd yn cynnwys 10 rownd o gemotherapi a sganiau.

Cafodd gadarnhad bod y canser wedi diflannu, ond fisoedd yn ddiweddarach datgelodd sganiau fod y canser wedi dychwelyd.

Y tro hwnnw, cafodd Sarah drafferth cynnal lefelau gwaed o fewn yr ystod ddiogel ar gyfer cael cemotherapi rheolaidd, ac oherwydd hynny roedd y driniaeth yn "achlysurol".

Dywedodd Ben fod ei hiechyd wedi gwaethygu erbyn mis Ionawr 2025.

Oedi 'annerbyniol'

Dywedodd Dr Kein Yim, ymgynghorydd mewn oncoleg glinigol yn Felindre, ei bod hi'n amlwg ym mis Mawrth 2025 bod cyflwr Sarah yn dirywio a bod penderfyniad wedi'i wneud ei bod yn rhy fregus ar gyfer rhagor o gemotherapi.

Bu farw yn ei chartref ar 15 Ebrill 2025.

Rhoddodd Mohamed Khalifa, ymgynghorydd mewn obstetreg a gynaecoleg ac sy'n arwain cyfarfodydd y tîm amlddisgyblaethol (MDT) canser gynaecolegol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, dystiolaeth ynghylch arwyddocâd y naw mis o oedi.

Dywedodd fod Sarah wedi colli amser yn ei thriniaeth canser oherwydd yr oedi rhwng y llawdriniaeth a'r broses histoleg.

"Gallai pryd y bu hi farw fod wedi bod yn wahanol pe bai'r cemotherapi neu driniaeth arall wedi dechrau'n gynt," meddai.

"Roedd yr oedi o fisoedd rhwng y llawdriniaeth a'r histoleg yn annerbyniol."

Dywedodd y Crwner Knight fod agweddau cychwynnol gofal Sarah wedi cael eu rhoi o fewn amser priodol, gan gynnwys ei hatgyfeiriad cychwynnol at y meddyg teulu a'i sgan MRI ar 10 Tachwedd 2021.

Ond dywedodd bod yr oedi o naw mis rhwng llawdriniaeth Sarah a chanlyniad y profion ar y lwmp yn "annerbyniol", a bod y bwrdd iechyd yn derbyn hynny.

Dywedodd fod Sarah wedi bod yn byw gyda chanser cam pedwar ers mis Hydref 2021, a bod yr oedi yn debygol o fod wedi cael effaith ar ei thriniaeth yn ogystal ag ansawdd a hyd ei bywyd.

Dywedodd hi fod yr oedi wedi lleihau'r siawns o lwyddo i reoli'r canser drwy gemotherapi.

Er ei bod wedi nodi bod achos meddygol marwolaeth Sarah yn "naturiol", penderfynodd gofnodi casgliad naratif er mwyn adlewyrchu'r amgylchiadau llawn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.