Lluniau: Dydd Mercher yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026

  • Cyhoeddwyd

Daeth yr haul allan eto ar ddydd Mercher yr Eisteddfod ar ddiwrnod Dysgwr y Flwyddyn, Tlws Sbardun, Y Fedal Ryddiaith a chystadleuaeth i gŵn…

Miri a Catrin a'u ci Anni Twts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digon o gŵn ar y Maes heddiw ar gyfer sesiwn hwyliog Teach Your Dog Welsh: Eisteddfod y Cŵn. Dyma Miri a Catrin o Hen Golwyn - gydag Anni Twts

Ci
Disgrifiad o’r llun,

Dydi Maes yr Eisteddfod ddim yn le gwych pan mae'ch perchnogion yn stopio bob dau funud i sgwrsio...

Ci pyped
Disgrifiad o’r llun,

Ond dyma'r ci mwyaf ar y Maes - gyda'i feistr Yr Arglwydd Rhys, oedd yn ei ôl yn yr Eisteddfod heddiw

Dilys Jones, Elfan Dan a Glesni James
Disgrifiad o’r llun,

Elfan Dan wedi ymuno efo Dilys Jones a Glesni James am baned yn stondin Merched y Wawr

Nic Parry
Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-farnwr Nic Parry yn ceisio cadw trefn yn y Babell Lên wrth i awduron ddadlau'r achos dros eu llyfr Cymraeg gorau...

Bethan Gwanas, Bethan Mair a Dafydd Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

... ond doedd y rheithgor o Bethan Gwanas, Bethan Mair a Dafydd Llewelyn ddim bob tro'n cymryd yr achos o ddifrif. Yn ffodus y gynulleidfa oedd yn rhoi'r ddyfarniad!

Eddie Ladd
Disgrifiad o’r llun,

Eddie Ladd, Llywydd Anrhydeddus eleni, yn cael seibiant cyn gwneud perfformiad yn Y Lle Celf

Bryn a Heddwyn, o Lanilltyd Fawr, yn dawnsio yn y Disgo Tawel ym mhabell S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bryn (ar y dde) a Heddwyn, o Lanilltyd Fawr, yn dawnsio yn y Disgo Tawel ym mhabell S4C

Tri bachgen yn edrych ar ffrind yn stepio
Disgrifiad o’r llun,

Gofyn i ffrindiau am farn ar ambell i symudiad cyn newid a chamu i'r llwyfan i gystadlu yn y ddawns stepio unigol

Daniel Rees yn arwain
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Daniel Rees hwyl ar arwain y Gymanfa Ganu nos Sul, ac roedd yn ôl ar y maes heddiw yn arwain Côr Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn

Elis James
Disgrifiad o’r llun,

Elis James yn barod am ei berfformiad stand-yp yn y pafiliwn

Ruth Lloyd, Lili Hunter, Lily Chandler, Laura Davies a Katie Chandler
Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau cyfarfod yn Syched yn yr haul: Ruth Lloyd, Lili Hunter, Lily Chandler, Laura Davies a Katie Chandler

Y pedwar ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: Jonathan Davies, oedd yn fuddugol, Caroline Jones, Kierion Lloyd a Paige Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: Jonathan Davies, oedd yn fuddugol, Caroline Jones, Kierion Lloyd a Paige Morgan

 Dylan, Callum a Llion
Disgrifiad o’r llun,

Nos Fercher yw noson agoriadol Maes B - ac mae Dylan (ar y dde) yn mynd am y tro cyntaf eleni. Yma efo fo mae ei ffrindiau o Grymych, Callum a Llion

Ceri Owen-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ceri Owen-Jones, o Ganada yn wreiddiol, ond yn byw yng Nghei Newydd ers 15 mlynedd ar ei ffordd efo'i delyn i gyfeilio i Ddawnswyr Talog

Llinos a Lotti
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r Eisteddfodwyr ieuengaf ar y Maes - Llinos a'i ffrind Lotti yn y Pentref Plant

Elidyr Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Elidyr Glyn yn canu yn y Tŷ Gwerin ar gyfer perfformiadau i ddathlu 10 mlynedd o Dlws Sbardun

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.