Lluniau: Dydd Mawrth yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae blas gwerinol i ddydd Mawrth ar Faes yr Eisteddfod - gan gynnwys Brwydr y Bandiau Gwerin, Hergest yn perfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd a Pedair yn cloi Llwyfan y Maes.

Roedd hi hefyd yn ddiwrnod gwobrau coffa TH Parry-Williams a Daniel Owen. Dyma rai o luniau'r dydd o'r Maes.

Storm Troopers
Disgrifiad o’r llun,

Na, nid gwisg newydd i aelodau'r orsedd ond Storm Troopers yn cyhoeddi bod y ffilm ffantasi eiconig o 1977 Star Wars: A New Hope yn mynd i gael ei dybio'n Gymraeg a'i darlledu ar S4C

Hergest
Disgrifiad o’r llun,

'Doedden nhw'n ddyddiau da...' - y band Hergest, sydd wedi dod yn ôl at ei gilydd ar gyfer yr Eisteddfod i berfformio am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd

Mantach yn perfformio yn y Ty Gwerin
Disgrifiad o’r llun,

Y Tŷ Gwerin dan ei sang ar gyfer cystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Roedd pedwar grŵp yn cystadlu, gan gynnwys y band buddugol yma - Mantach

Lo-fi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Lo-fi Jones yn ei morio hi ym mhabell Maes D

Dawnswyr gwerin
Disgrifiad o’r llun,

Eich tro chi... Dawnswyr Talog yn rhoi gwersi dawnsio gwerin i'r gynulleidfa

Canu o gwmpas y piano
Disgrifiad o’r llun,

Does dim rhaid cael gwahoddiad i ganu ar rai o brif lwyfannau'r Eisteddfod eleni. Mae'r Tebot Hud yn ofod newydd - rhywle i gyd-ganu o gwmpas y piano a'r tân, efo paned o de wrth gwrs

Ani a Heti
Disgrifiad o’r llun,

Ond bisged, nid panad, oedd Ani, o Aberaeron, eisiau wrth ymweld â'r Maes efo'i chwaer Heti

Cara gyda colur
Disgrifiad o’r llun,

Cara, o Fethel, yn barod fel Medusa ar gyfer y gystadleuaeth dawnsio disgo gyda Chlwb Dawnsio Lowri

Rhys Michael efo'i diwba
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Michael, sy'n chwarae i fand Tredegar ar y Maes er mwyn bod yn rhan o'r ffanfer yn seremoni Medal Goffa TH Parry-Williams

Islwyn EvansFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Enillydd Medal Goffa TH Parry-Williams eleni oedd Islwyn Evans, sydd wedi arwain corau yng Nghymru ers dros 40 mlynedd. Daeth 130 o gyn-ddisgyblion i'w weld yn cael ei anrhydeddu yn Y Pafiliwn brynhawn Mawrth

Gruff a Stephanie
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Gruff a'i fam Stephanie o Gaerdydd, fargen yng ngwlad y Cardis er mwyn cadw'n sych yn ystod y cawodydd. "Nes i brynu'r cotiau yn Aberteifi am £3 - i lawr o £5," meddai Stephanie

Mam a'i dau o blant ar sedd
Disgrifiad o’r llun,

Ond roedd digon o gyfnodau o heulwen drwy'r dydd, a chyfle i Naomi, Gronw a Modlen o ardal Pwllheli ymlacio

Telyn, Guto a Gwen
Disgrifiad o’r llun,

Telyn yn cael reid gyda'i chefnder a'i chyfnither Guto a Gwen - a digon teg, a hwythau wedi dod drosodd yr holl ffordd o'u cartref yn Copenhagen i'w gweld hi ac ymweld â'r Eisteddfod

Jona Milone
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl pum mlynedd o Panad o Gê, mae'r stondin i'r gymuned LHDTC+ yn gallu cynnig llawer mwy yn eu gofod newydd. "Mae pobl o bob oed ac o bob cefndir yn dod i fwynhau'r gofod newydd - ni mor bles gyda'r ffordd mae wedi datblygu," meddai Jona Milone

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.