Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026

  • Cyhoeddwyd

Dydd Llun oedd diwrnod seremoni urddo aelodau newydd Yr Orsedd a'r Coroni yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las yn Llantwd. Dyma rai o luniau'r dydd o'r Maes.

Dau berson yn cael 'cwtch'
Disgrifiad o’r llun,

Mae diwrnod urddo aelodau newydd Gorsedd Cymru yn ddiwrnod o ddathlu a chyfarfod ffrindiau a theulu

Dynes yn ei gwisg las yn cyrraedd seremoni'r orsedd ar fygi
Disgrifiad o’r llun,

Ac mae'n rhaid cyrraedd mewn pryd

Plentyn ifanc ar ysgwyddau oedolyn yn gwylio seremoni
Disgrifiad o’r llun,

Y sedd orau i weld y seremoni

Pobl yn sefyll yn y cysgod o flaen arwydd yr Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r haul yn tywynnu roedd rhai yn falch o gael cysgod gan arwydd yr Eisteddfod

Aelodau'r Orsedd yn dathlu
Disgrifiad o’r llun,

Ymlacio wedi'r seremoni

Plant ar gerbyd dwr yr RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Lara, Sholto a Toula-fern o Drefdraeth yn mwynhau stondin y bad achub

Huw Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Croeso i Wrecsam... gan Huw Gwyn o Goleg Cambria

Mari Grug yn edrych ar fideo o'i hun yn canu pan yn blentyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 'Steddfod yn lle i gyfarfod hen ffrindiau... Mari Grug yn edrych ar fideo o'i hun yn canu pan oedd hi'n blentyn. Roedd Llywydd yr Ŵyl yn cael ei holi gan Elin Fflur yn Y Sinemaes, oedd yn llawn dop

Tamara, Lee, Finley, Robyn ac Emily
Disgrifiad o’r llun,

Tamara, Lee, Finley, Robyn ac Emily o Sir Benfro

 Côr Bytholwyrdd
Disgrifiad o’r llun,

Dydd Llun ydy diwrnod cystadleuaeth y corau i rai 60 oed a throsodd, ac mae Côr Bytholwyrdd dal yn fytholwyrdd

Pedair aelod o gôr Hen Nodiant
Disgrifiad o’r llun,

Côr Hen Nodiant, Caerdydd, yn disgwyl i fynd ar y llwyfan

Tair dynes yn edrych ar gor yn cystadlu ar y teledu
Disgrifiad o’r llun,

A'r beirniaid answyddogol yn rhoi eu marciau...

Dau hogyn efo sbectolau haul
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r traddodiad o fynd o gwmpas y maes yn chwilio am bethau am ddim - y freebies 'Steddfod - dal yn iach. Fe gafodd Gruffydd a'i frawd mawr Osian, o Gaerdydd, dair sbectol haul

Lefi Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Lefi Dafydd, o'r band Dewin, ar ei ffordd i berfformio ar ei glarinet yn yr Encore. Fe fydd y band o Sir Benfro ar Lwyfan y Maes am 17:50 dydd Mawrth

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.