Lluniau: Dydd Sadwrn yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026

  • Cyhoeddwyd

Wedi'r holl baratoi, codi arian a gwaith caled, roedd yr haul yn gwenu ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las yn Llantwd. Dyma rai o luniau'r dydd.

Jem 'Tynrhos' a Jane Blank o Lanrhystud yn astudio'r map yn y brif fynedfa ben bore
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cefnogwyr ifanc iawn i Cath a Buddug fu'n cystadlu gyda Seindorf Arian Crwbin. Diolch Efan, Steffan a Dewi

disgyblion Ysgol Glannau Gwaun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n ddiwrnod llawn dop i ddisgyblion Ysgol Glannau Gwaun o Abergwaun a fu'n perfformio o amgylch y maes gyda'u hofferynnau drwy'r dydd i groesawu Eisteddfodwyr i'w bro

Fe gyrhaeddodd Arglwydd Rhys y maes o gwmpas hanner dydd ar ddydd Sadwrn
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyrhaeddodd Arglwydd Rhys y maes o gwmpas hanner dydd ar ddydd Sadwrn

Fe aeth am daith o amgylch y maes gyfan nes cyrraedd Cylch yr Orsedd
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth am daith o amgylch y maes gyfan nes cyrraedd Cylch yr Orsedd

Roedd Teifi, milgi ffyddlon Yr Arglwydd Rhys ar y maes hefyd. Ac roedd pawb eisiau llun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Teifi, milgi ffyddlon Yr Arglwydd Rhys ar y maes hefyd. Ac roedd pawb eisiau llun

Band pres bwrdeisdref Casnewydd yn ymlacio ar ôl cystadlu
Disgrifiad o’r llun,

Band Pres Bwrdeistref Casnewydd yn ymlacio ar ôl cystadlu

Gwyneth Glyn a Twm Morys yn dod â thelyn Twm i'w gadw'n ddiogel yn y Tŷ Gwerin cyn gig Bob Delyn a'r Ebillion yno yn hwyrach yn y prynhawn. Mae'r delyn yma'n un arbennig i Twm gan ei bod yn dod o fferm nid nepell o faes Llantwd a gafodd yn anrheg pen-blwydd gan ei fam yn ddeunaw oed

Brass@Bont o ardal Pontarddulais yn dathlu ar ôl cyrraedd y brig yng nghystadleuaeth Bandiau pres Dosbarth 4

Gruff a Mabli o'r Gŵyr yn mwynhau'n Y Lle Celf gyda Mam a Dad-cu. Tybed ai Gruff a Mabli fydd artistiaid y dyfodol?

Margarette Hughes, Llywydd Anrhydeddus Merched y Wawr o Hendy-gwyn ar Daf a Tegwen Morris, cyfarwyddwr y mudiad yn llawn positifrwydd pinc ar eu stondin

A wes heddwch? Wes! Meilyr Tomos o Abergwaun yn eistedd yn hedd yr Eisteddfod

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig