Dyn sy'n cael ei gyhuddo o lofruddio ei dad yn ymddangos yn y llys

Heddlu
GanRob ThomasaLlion HighamBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sy'n cael ei gyhuddo o lofruddio ei dad mewn fflat yng Nghaergybi wedi ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon.

Cafodd Martin Joseph Ward, o Ffordd Kingsland, ei arestio ar ôl i gorff ei dad, Michael Ward, gael ei ddarganfod yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.

Cafodd Michael Ward ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.

Mewn ymddangosiad byr dros ddolen fideo ni ddywedodd Martin Ward unrhyw beth.

Cafodd wybod mai 5 Ebrill y flwyddyn nesaf yw'r dyddiad dros dro ar gyfer yr achos, ac mae disgwyl iddo bara tua phythefnos yn Llys y Goron Caernarfon.

Mae Martin Ward yn parhau yn y ddalfa ac bydd yn dychwelyd i'r llys ar gyfer gwrandawiad ple ar 25 Ionawr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig