Sut mae cadw pobl ifanc rhag gadael Ynys Môn?

Yn Ysgol Gyfun Llangefni mae criw o bobl ifanc yn pwyso a mesur eu cyfleoedd ac opsiynau ar gyfer y dyfodol
- Cyhoeddwyd
Wrth i filoedd o bobl ifanc heidio am Ynys Môn yr wythnos hon, sut mae cadw'r ifanc rhag gadael?
Yn ôl Prif Weinidog newydd Cymru mae 'na angen i greu "bwrlwm a hyder" yn economi Cymru a chreu swyddi yng nghefn gwlad.
Wrth siarad yn Eisteddfod yr Urdd ym Môn, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod creu swyddi i bobl ifanc allu aros yn eu cymunedau yn flaenoriaeth i'w lywodraeth.
Ond mae 'na bryder gan rai pobl ifanc fod yn dal rhaid croesi'r bont a gadael cymunedau Cymreig os am gael swyddi o ansawdd, gydag un economegydd yn dweud fod 'na storm berffaith, wrth i'r ifanc adael a phobl hŷn ymddeol yma.

Mae angen creu "bwrlwm a hyder" yn yr economi, yn ôl Rhun ap Iorwerth
Yn ôl ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru, yn y 18 mis hyd at 2024 mi wnaeth 650 o bobl ifanc rhwng 16-24 adael Ynys Môn.
Yn yr un cyfnod mi wnaeth 421 ddychwelyd, a hynny'n golygu fod colled net o 229 i gyd.
Yn Ysgol Gyfun Llangefni mae criw o bobl ifanc yn pwyso a mesur eu cyfleoedd ac opsiynau ar gyfer y dyfodol.
Yn ôl Elan sydd ym mlwyddyn 13, mae 'na bryder a oes 'na ddigon o gyfleoedd i ddenu pobl fel hi yn ôl i'r ynys ar ôl gadael.
"I bobl ifanc dwi'n credu fod yr ardal yn un braf iawn i fyw yn, ond mae'n anodd cadw ni o gwmpas oherwydd does dim digon o gyfleoedd dwi'n teimlo.
"Yn enwedig os 'da chi isio mynd i faes hynod unigryw, dydi Ynys Môn ddim yn rhywle sy'n cynnig hyn."

Mae 'na bryder a oes 'na ddigon o gyfleoedd i ddenu pobl fel hi yn ôl i'r ynys, meddai Elan
Yn ôl Elan, mae nifer o'i ffrindiau a'i chyfoedion yn teimlo'n debyg - bod rhaid gadael os am ganfod swyddi sgiliau uchel a chyflogau tebyg.
Ond gydag addewid y bydd swyddi yn cael eu creu yn sgil cynllun atomfa Wylfa yng ngogledd yr ynys a hefyd cynlluniau ynni fel Morlais, mae Gruff sydd hefyd ym mlwyddyn 13 yn teimlo'n fwy gobeithiol.
"I fi fel rhywun sy'n meddwl mynd mewn i beirianneg, mae'n gyffrous clywed am y cynlluniau yn Wylfa."
Ychwanegodd fod gan Fôn lot fawr i gynnig i bobl ifanc.

Mae datblygiadau sydd i ddod ar Ynys Môn yn gyffrous, meddai Gruff
Dros y ddegawd diwethaf mi brofodd Ynys Môn un o'r cwympoedd mwyaf o ran cyfraddau geni.
Mae ystadegau hefyd yn dangos fod y boblogaeth ifanc yn gostwng ar gyfartaledd, ond bod mwy o bobl hyn yn symud i'r ardal.
Mae hynny'n creu storm berffaith medd yr economegydd Dr Edward Jones.
"O ran pobl hŷn yn symud yma, maen nhw'n rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn anffodus, fel y gwasanaeth iechyd.
"A dy' nhw ddim yn talu'r un math o drethi a be' fasa pobl ifanc yn 'neud.
"Pan mae pobl ifanc yn gadael, mae'n golygu fod 'na lai hefyd i gefnogi'r economi gan fod ni'n gwybod fod pobl ifanc yn dueddol o wario."

"Pan mae pobl ifanc yn gadael, mae'n golygu fod 'na lai hefyd i gefnogi'r economi," medd Dr Edward Jones
Ar faes yr Eisteddfod dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth fod creu swyddi mewn llefydd fel Môn a chymunedau gwledig tebyg yn flaenoriaeth.
"Mae creu bwrlwm economaidd yn allweddol wrth greu cyfleoedd i bobl ifanc aros neu ddychwelyd i'w milltir sgwâr", meddai.
"Pan 'da ni'n ystyried yr Asiantaeth Ddatblygu y bydd y llywodraeth yma'n ei sefydlu, un o hanfodion creiddiol hwnnw ydi bod bwrlwm a llewyrch economaidd yn ymestyn i bob rhan o'r wlad ac nid dim ond y llefydd sydd wedi gweld bwrlwm economaidd o blaen.
"Mae 'na heriau gwirioneddol 'da ni wedi etifeddu.
"Yr hyn mae'n llywodraeth i yn benderfynol o'i neud ydi creu momentwm ac impetus tu ôl i dŵf economaidd fel da ni erioed wedi gweld o blaen."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
