Y Gweilch yn arwyddo cytundeb newydd gydag URC hyd at 2028

Bydd y cytundeb newydd yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2027-28
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch wedi arwyddo cytundeb newydd gydag Undeb Rygbi Cymru (URC), gan ddod y trydydd tîm rygbi i arwyddo cytundeb proffesiynol newydd.
Mae'n rhoi terfyn ar yr anghytuno, ond mae ansicrwydd yn parhau ynglŷn â dyfodol hirdymor y rhanbarth gan fod y cytundeb yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2027-28.
Roedd y pedwar rhanbarth ar y trywydd i arwyddo cytundebau newydd, cyn i URC gymryd rheolaeth o Gaerdydd yn 2025 a'u hachub rhag mynd yn fethdalwyr.
Yna, fe wnaeth y Dreigiau gytuno ar y cytundeb newydd, tra bo'r Gweilch a'r Scarlets wedi ymgyrchu dros geisio cael sicrwydd na fyddai Caerdydd yn cael ei ffafrio ymysg y rhanbarthau.
Daw'r cytundeb newydd yr un wythnos â'r Gweilch yn cyhoeddi colled o £1.8m ar gyfer eu blwyddyn ariannol ddiwethaf.
Dywedodd y Gweilch fod y cytundeb yn "arwydd o gyfnod sefydlog i'r rhanbarth".
'Rhan allweddol o rygbi Cymru'
Dywedodd y Gweilch mai "elfen allweddol" o'r cytundeb newydd yw ei fod yn galluogi mwy o gydweithio ag URC.
"Gyda gwaith pellach ar y gweill yn stadiwm newydd y Gweilch yn Sain Helen a llofnodi'r PRA nawr, mae'r rhanbarth yn edrych ymlaen at barhau â'i hanes balch fel rhan allweddol o rygbi Cymru," meddai llefarydd
Term am gytundeb rygbi proffesiynol ydy PRA.

Mae'r Gweilch yn gobeithio chwarae eu gêm gyntaf yn Sain Helen yn erbyn y Dreigiau ar 24 Hydref
Fe wnaeth URC gyhoeddi fis Hydref 2025 eu bwriad o dorri nifer y timau proffesiynol dynion yng Nghymru o bedwar i dri.
Creodd hynny ofnau ymhlith cefnogwyr a chwaraewyr y Gweilch eu bod yn cael eu targedu, yn enwedig ar ôl i URC gyhoeddi ym mis Ionawr 2026 mai perchnogion y Gweilch oedd yn cael eu ffafrio i brynu Caerdydd.
Ond fe wnaeth y cytundeb hwnnw ddymchwel fis Ebrill, gydag URC yn cyhoeddi y bydd y pedwar rhanbarth yn parhau fel y maen nhw tan o leiaf diwedd 2027-28.
Trafodaethau URC a pherchnogion y Gweilch i brynu Caerdydd wedi dymchwel
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
Cadeirydd URC i gamu lawr ar ddiwedd ei gytundeb yn yr haf
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
Cafodd y Gweilch a'r Scarlets eu gwahodd i arwyddo'r cytundeb newydd, tra bod URC yn parhau â'u bwriad i dorri un tîm proffesiynol erbyn 2028.
Mae'r undeb wedi addo amlinellu sut y mae'n bwriadu cyflawni hynny erbyn diwedd Mehefin.
Ar ôl chwarae gemau cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr y tymor diwethaf, mae'r gwaith wedi dechrau ar gartref newydd y Gweilch yn Sain Helen, Abertawe.
Mae'r rhanbarth yn gobeithio chwarae eu gêm gyntaf yn Abertawe yn erbyn y Dreigiau ar 24 Hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.