Gyrrwr rali o Sir Gâr yn paratoi ar gyfer un o rasys mwyaf heriol Ewrop

Llun o gar rali melyn oedd Rhys Lloyd yn ei yrru yn y ras 24 awr yn Dubai fis IonawrFfynhonnell y llun, dbpublicrelations
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Lloyd yn gyrru'r car yn y ras 24 awr arall yn Dubai fis Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn busnes o Sir Gaerfyrddin yn paratoi i gystadlu mewn rali yn Sbaen sy'n cael ei ystyried yn un o'r mwyaf heriol yn Ewrop.

Bydd Rhys Lloyd yn rhan o dîm o Ffrainc fydd yn cystadlu yn ras 24 awr Michelin yn Barcelona ar 18 -20 Medi.

Fe fydd Rhys yn gyrru Porsche 911 GT3 Cup ar drac Circuit de Barcelona-Catalunya a hynny fel rhan o dîm SebLajoux Racing.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y digwyddiad, ond ei fod yn deall y bydd "yn her fawr i'r car a'r gyrwyr oherwydd y gwres a hyd y ras".

Dyma ail ras 24 awr Rhys y tymor yma ar ôl llwyddo i orffen yn drydydd mewn cystadleuaeth yn Dubai (categori GT4) fis Ionawr.

"Fi wedi cael season eithaf da so far, fi jyst yn paratoi fitness fwy na dim byd, jyst cael e lan i lefel fi moyn a bod yn barod am wythnos nesaf achos mae'r gwres yn eithaf twym ac yn eithaf caled ar y corff," meddai ar raglen Dros Frecwast.

Roedd Rhys wedi methu a gorffen y ras ar ddau achlysur yn y gorffennol, felly roedd cyrraedd y trydydd safle yn Dubai yn "dipyn o gamp," meddai.

Llun o 3 tim yn sefyll ar podiwm yn y ras 24 awr yn Dubai fis Ionawr. Mae Rhys Lloyd a'r tim yn gafael mewn tlws ar y trydydd safle Ffynhonnell y llun, dbpublicrelations
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Lloyd a'i dîm yn gwireddu breuddwyd wrth gyrraedd y trydydd safle yn ras 24 awr Dubai fis Ionawr

Mae'r Circuit de Barcelona-Catalunya yn un o leoliadau rasio mwyaf prysur ac adnabyddus yn Ewrop.

Dyma'r trac rasio ar gyfer rasys Fformiwla 1 a MotoGP yn ogystal â digwyddiadau eraill yn y calendr rasio.

Mae'r trac yn mesur 4.657 cilometr ac yn cynnwys 14 troad, ac mae'r cyfuniad o ffyrdd hir a syth gyda rhannau technegol heriol yn golygu bod y trac yn profi pob agwedd ar allu gyrrwr a pherfformiad y car.

"Mae'n eithaf caled, ma' unrhyw ras sy'n para diwrnod cyfan yn galed. Mae'r gwres yn mynd i fod yn ffactor mawr .

"Ma' fe'n seicolegol yn eithaf caled hefyd. Mae'r ras yn gallu newid, popeth yn mynd yn grêt ac wedyn rhywbeth yn digwydd a ma' popeth lan yn yr awyr, ma' rhaid i ti gadw'n positif a thrio cadw i fynd."

'Fi'n licio dreifio yn y nos'

Mewn ras 24 awr mae pedwar gyrrwr yn rhannu car a bob un yn gwneud gwahanol shifftiau. Rhai yn gyrru am ddwy awr a rhai yn gwneud mwy.

"Fi'n licio dreifio yn y nos, so wedyn fi'n cael y stints hir," meddai Rhys

Mae Rhys a'r gyrwyr eraill yn ceisio cael awr neu ddwy o gwsg yn y garej yn ystod y ras.

"Mae'n eithaf caled cael bach o gwsg ond mae'n bwysig achos ma' strategy yn gallu newid."

Ychwanegodd mai'r gyrru, o bosib, ydi'r rhan hawsaf o'r holl broses.

"Dyna be dwi'n joio, ac unwaith ti mas ar y trac a ti'n dreifio mae o'n oreit. Popeth arall rownd e fi'n gweithio eithaf caled arno!"

"Pan ti'n edrych ar faint o amser ti'n neud, faint o betrol ti'n iwsio, faint o deiars sy'n mynd yn bald a faint o amser ti'n treulio yn y car, ma' fe'n dipyn o gamp."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig