Ceidwadwyr a Reform yn galw am ddiswyddo prif weithredwr Betsi Cadwaladr

Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

"Yr hyn sydd wir angen ei newid ydy prif weithredwr y sefydliad," medd Darren Millar

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Does gan brif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr "ddim y gallu" i fynd i'r afael â'r methiannau yn ysbytai'r gogledd ac mae'n rhaid iddi "gael ei diswyddo", medd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn ôl Darren Millar, aelod o'r Senedd dros etholaeth Clwyd, dyw'r sefyllfa bresennol ddim yn "deg nac yn dderbyniol", gan ddweud fod cleifion mewn "perygl".

Daw ei alwad yn dilyn adroddiad damniol i safon y gofal yn uned frys Ysbyty Glan Clwyd, wnaeth ganfod pryderon am arweinyddiaeth, trefniadaeth, diogelwch a hyfforddiant staff.

Mewn datganiad dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Carol Shillabeer, ei bod yn "ymddiheuro'n ddiamod i'r cleifion" a bod y bwrdd iechyd yn gweithredu.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Reform UK eu bod yn cefnogi galwad y Ceidwadwyr Cymreig, ac nad oes ganddyn nhw hyder yn yr arweinwyr presennol.

Dywedodd y gweinidog iechyd ei fod yn "disgwyl gweithredu parhaus gan y bwrdd iechyd... i ddangos gwelliannau i bobl gogledd Cymru".

Carol Shillabeer yn 2024
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carol Shillabeer wedi "ymddiheuro'n ddiamod i'r cleifion"

Cafodd yr arolwg gwreiddiol i uned frys Glan Clwyd ei gynnal dros dri diwrnod ym mis Mai eleni, gyda phryderon am ddiogelwch, arweinyddiaeth, urddas, preifatrwydd cleifion a rheolaeth yn cael eu codi.

Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ailymweld â'r adran ym mis Awst.

Yn ôl yr arolygwyr, roedd gwelliannau o ran llesiant ac ymgysylltiad staff, llif cleifion, trefniadau llywodraethu pediatrig, a rheoli meddyginiaethau ac offer.

Ond dywedodd yr arolygwyr fod heriau'n parhau o ran goruchwylio'r ystafell aros, lleihau oedi wrth gael mewnbwn arbenigol, a sicrhau bod modd cynnal y gwelliannau diweddar.

'Cwbl annerbyniol'

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, fod yn rhaid i'r sefyllfa newid.

"Mae'n gwbl annerbyniol, 'di o ddim yn deg i staff a 'di o ddim yn deg i gleifion - nifer sydd mewn perygl.

"'Da ni wedi laru ar adroddiadau fel yr un yma am ein hysbyty lleol ym Modelwyddan.

"Yr hyn sydd wir angen ei newid ydy prif weithredwr y sefydliad yma.

"Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ymddangos fel ei fod yn methu â gwella'r sefyllfa o dan yr arweinyddiaeth bresennol, felly mae'n rhaid iddi fynd."

Helen JennerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Jenner o Reform yn cytuno gyda Darren Millar bod angen i arweinyddiaeth Betsi Cadwaladr newid

Cafodd y prif weithredwr Carol Shillabeer ei phenodi dros dro yn 2023, ac yna'n barhaol yn 2024.

Mae dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, Helen Jenner yn dweud ei bod yn cytuno â galwadau'r blaid Geidwadol.

"'Da ni angen edrych ar yr atebolrwydd a rheolaeth - mae'n broblem ledled Betsi Cadwaladr ac mae'n rhywbeth sy'n codi pryder gwirioneddol, oherwydd mae'n wasanaeth mor bwysig," meddai.

"Mae hyn [diswyddo'r prif weithredwr] yn rhywbeth fasa' ni yn cysidro.

"Da' ni yn cytuno 'efo hynna oherwydd ar ddiwedd y dydd -y bobl sy'n rheoli o'r top - nhw sy'n gorfod cael eu dwyn i gyfri'."

Ychwanegodd Ms Jenner nad oedd ganddi hyder yn yr unigolion sy'n arwain y bwrdd iechyd.

"Mae'r problemau yn parhau a pharhau," meddai.

Wrth ymateb dywedodd Ms Shillabeer mewn datganiad bod y bwrdd yn "ymddiheuro'n ddiamod i'r cleifion hynny na chawsant y gofal maent yn ei haeddu".

Ychwanegodd: "Mae gwella gofal cleifion ym maes gofal brys a gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd ac mae'r holl gamau gweithredu sy'n ofynnol gan yr adroddiad arolygu bellach ar y gweill yn yr adran ac mewn mannau eraill yn yr ysbyty.

"Mae cydweithwyr yn yr adran achosion brys yn gweithio'n galed o dan bwysau uchel cyson ac rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod gwerthfawrogiad y cyhoedd o'r gofal y maent yn ei gynnig.

"Gwyddom fod materion systemig sylweddol a hir sefydledig sy'n cymhlethu'r pwysau mewn adran sy'n brysur yn gyson ac mae'n galonogol gweld bod AGIC wedi cydnabod y gwaith sydd wedi cael ei wneud o ran cynorthwyo staff a mynd i'r afael â'r materion hynny, yn eu harolygiad dilynol.

"Rydym yn ymrwymedig i roi sicrwydd i AGIC a'r cyhoedd ein bod o ddifri' am wella profiadau pobl yn ein hadrannau achosion brys trwy ymgorffori cynnydd i newid hirdymor a chynaliadwy."

Mabon ap Gwynfor
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n disgwyl gweithredu parhaus gan y bwrdd iechyd... i ddangos gwelliannau i bobl gogledd Cymru," medd Mabon ap Gwynfor

Dywedodd y gweinidog iechyd a gofal, Mabon ap Gwynfor, ei fod yn cydnabod difrifoldeb yr adroddiad diweddaraf.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi gosod mesurau tymor byr a hir... a dwi'n croesawu arwyddion cynnar o gynnydd," meddai.

"Dwi'n disgwyl gweithredu parhaus gan y bwrdd iechyd... i ddangos gwelliannau i bobl gogledd Cymru."

Bydd adolygiad annibynnol i arweinyddiaeth, llywodraethant a diwylliant yn adrodd yn ôl i'r gweinidog fis nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.