Adeilad eiconig Tŷ Hyll yn Eryri i gael ei werthu mewn ocsiwn

Ty Hyll
GanElen Wyn
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae un o adeiladau mwyaf adnabyddus Eryri, Tŷ Hyll, ar werth am amcan bris o £199,000.

Wedi'i leoli ar yr A5 rhwng Capel Curig a Betws-y-coed, mae Tŷ Hyll yn un o olygfeydd enwocaf yr ardal, ac er bod sawl chwedl yn gysylltiedig â'r adeilad, nid oes sicrwydd pwy wnaeth ei adeiladu na phryd.

Elusen gadwraeth Cymdeithas Eryri sy'n berchen ar yr adeilad, a dywedon nhw nad ydy'r penderfyniad i werthu wedi bod yn un hawdd.

Ond maen nhw'n dweud fod angen "ailgyfeirio adnoddau" er mwyn "blaenoriaethau eraill", a'u bod felly'n chwilio am berchennog newydd i'r safle.

Bydd y safle yn cael ei werthu mewn ocsiwn ar 26 Medi.

Jane Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Jane Davies ddim am weld y tŷ yn cael ei wneud yn un preifat "dwi isio fo fod ar agor i bawb," meddai

Prynodd Cymdeithas Eryri yr adeilad bron i 40 mlynedd yn ôl.

Ers hynny mae'r adeilad wedi bod yn swyddfa, yn gaffi a chanolfan i wenyn mêl.

Mae rheolwr presennol y caffi, Jane Davies wedi cynnig prynu'r adeilad, ond mae'r gwerthiant yn gorfod mynd drwy ocsiwn gyhoeddus.

"Dwi'n torri 'nghalon," meddai.

"Dwi'm isio fo gau i'r cyhoedd - dyna sy'n poeni fi.

"Dwi isio fo fod ar agor i bawb gael dod i weld y tŷ.

"Dwi ddim isio fo gael ei wneud yn dŷ preifat.

"Tydyn nhw ddim yn stipulatio be' sydd yn digwydd i'r tŷ, a dyna sydd yn poeni fi fwyaf."

Mae Cymdeithas Eryri yn dweud y bydd unrhyw elw o'r gwerthiant yn cael ei ail-fuddsoddi'n lleol.

James Charlton
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n un "trist iawn" meddai James Charlton

Mae cannoedd wedi arwyddo deiseb wedi'i greu gan rai o gefnogwyr y caffi sy'n galw ar reolwyr Cymdeithas Eryri i ailystyried, ac mae staff y caffi yn dweud eu bod yn ddiolchgar am y gefnogaeth.

Dywedodd James Charlton, sy'n gweithio yn y caffi yn achlysurol: "Mae'r lle yn boblogaidd iawn efo pobl leol ac mae lot o dwristiaid yn dod yma hefyd.

"Mae o'n le da ac yn brysur iawn. Mae'n sefyllfa drist iawn."

Wrth ofyn iddo beth sy'n gwneud Tŷ Hyll mor arbennig, mae James yn ateb dan chwerthin: "Dydi o ddim yn hyll o gwbl!

"Mae o'n ciwt. Mae'r lle fel rhywbeth allan o Lord of the Rings!"

Ty Hyll

Dywedodd Cymdeithas Eryri: "Nid oedd y penderfyniad i werthu yn un hawdd, ac nid yw mewn unrhyw ffordd yn bwriadu diystyru'r cyfraniad y mae Tŷ Hyll wedi'i wneud yn flaenorol i waith y Gymdeithas, nac yn fwriadol ddibrisio'r cariad a gwaith dygn sydd wedi mynd i wneud yr adeilad, yr ardd a'r coetiroedd yr hyn ydyn nhw heddiw.

"Yn syml, mae'n cydnabod ein bod ni'n credu y bydd y defnydd gorau o'n hadnoddau, yn y dyfodol, yn fwy priodol mewn mannau eraill – a bod eraill yn debygol o fod mewn gwell sefyllfa i barhau i ofalu am yr adeilad a'r tir."

Ychwanegon nhw na fydd yr arian o'r gwerthiant "yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrannu at gostau rhedeg dyddiol y Gymdeithas, gan nad ydym yn credu y byddai hyn yn waddol priodol i'r safle a'i bobl".

"Bydd yr holl arian, maes o law, yn cael ei ail-fuddsoddi'n uniongyrchol yn nhirwedd, bywyd gwyllt a phobl Eryri."

Mae'r gymdeithas yn cydnabod nad oes ganddyn nhw reolaeth o be' ddaw nesa' i'r tŷ, ond maen nhw'n awyddus i annog darpar brynwyr i gynnig profiadau i ymwelwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.