Canfod dyn yn farw mewn eiddo yn y Barri

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei ganfod yn farw mewn eiddo yn y Barri, yn ôl Heddlu'r De.

Yn dilyn adroddiadau am dân am 09:05 fore Sadwrn, fe gafodd yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, a pharafeddygon eu galw i gyfeiriad ar Stryd Main.

Cafodd y dyn ei ganfod yn farw tu mewn i'r eiddo ac mae ymchwiliad ar y cyd rhwng yr heddlu a'r gwasanaeth tân ac achub yn cael ei gynnal.

Ychwanegodd yr heddlu y bydd y ffordd wedi'u chau am gyfnod, tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig