Prynu hen fws er mwyn adnewyddu 'rhan o fy mhlentyndod'

Siôn a'i fwsFfynhonnell y llun, Siôn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Siôn gyda'i fws 1992 Revee Burgess Dennis Dart

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mae hwn yn fy atgoffa o fy mhlentyndod ac yn golygu lot i bobl leol hefyd."

Dyna eiriau Siôn Jones o bentref Bontnewydd ger Caernarfon, neu Siôn Bysus i'w ffrindiau, wrth gyfeirio at hen fws y mae wedi'i adnewyddu.

Wrth i ni symud fewn i gyfnod o wyliau lleol yng Nghymru, mae siawns i bobl weld Siôn gyda'i hen fws, gan ddechrau yn sioe Fictoraidd Llandudno'r penwythnos yma.

Fe ddechreuodd diddordeb Siôn gyda bysus yn ifanc iawn. Tra fod ei ffrindiau yn mynd allan i gicio pêl rownd y pentref, bysus oedd yn mynd â'i sylw o.

Pan yn blentyn, roedd Siôn wrth ei fodd gyda bysus cwmni Seren Arian a oedd yn gwasanaethu ardaloedd cefn gwlad sir Gaernarfon.

Ar un cyfnod roedd yn gallu adnabod pob un o'r bysus oedd yn rhan o'u fflyd drwy adrodd rhif cofrestredig y bws.

Modelau bysusFfynhonnell y llun, Siôn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad bysus Siôn y mae wedi'i gasglu dros y blynyddoedd

Daeth y cwmni i ben yn 2010 ond roedd Siôn yn benderfynol fod y cwmni yn cael ei gofio'n lleol.

"Dwi wastad wedi bod efo diddordeb mewn bysus a rhai clasurol. Roedd Mam yn ffrindiau gydag aeloda' o deulu cwmni Seren Arian ac ro'n i'n cael mynd am y diwrnod am dripiau ar y bysus," meddai.

I brofi ei diddordeb mewn bysus, mae gan Siôn gasgliad o dros 200 o fodelau bychain ac un yn benodol y mae'n ei drysori'n fawr.

"Roedd 'na ddyn mewn marchnad yn Birkenhead oedd yn paentio modelau bysus bach. 'Nath Mam un flwyddyn anfon llun iddo o fws Seren Arian a dyma fi'n cael y model bach yn ôl wedi'i baentio'n union fel hen fws y cwmni," meddai.

BwsFfynhonnell y llun, Siôn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bws Siôn yn cael ei baentio i liwiau gwreiddiol y cwmni

Yn 22 oed wedi fe wnaeth Siôn wireddu breuddwyd a phasio ei brawf gyrru bysiau a chael gyrru bws Seren Arian ei hun.

"Roeddwn yn gyrru'r bws yn lleol ac yn ddiweddarach ar dripiau penwythnos i bob rhan o'r wlad, i lefydd fel Caeredin, Manceinion a Lerpwl.

"Dim ond 22 oed oeddwn i ar y pryd a byddai pobl yn cael dipyn o fraw fy ngweld ac yn gofyn pethau fel "wyt ti ddigon hen i fod yn dreifio hwn?"!

"Cefais gyfle yn 2019 i brynu'r hen fws ac roedd y perchennog blaenorol wedi gwneud rhywfaint o waith adfer, ond yn anffodus roedd cyflwr y bws wedi dirywio," meddai Siôn.

Llwyddodd Siôn i hel digon o arian i brynu'r bws 1992 Revee Burgess Dennis Dart oedd unwaith yn rhan o fflyd y Seren Arian.

BysusFfynhonnell y llun, Siôn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bws Siôn yn rhan o sioeau hen beiriannau

Wedyn daeth y gwaith caled o adfer y bws i'w gyflwr gwreiddiol.

Ar ôl oriau o lafur cariad mae Siôn nawr i'w weld mewn sioeau hen beiriannau gyda'i fws ac yn ennyn ymateb anhygoel.

"Mae'n brofiad hyfryd mynd i'r sioeau 'ma a chael pobl yn dod atoch chi gyda'u hatgofion o fod ar y bws pan oedd o mewn gwasanaeth.

"Dwi'n cael lot o bobl hŷn yn cofio defnyddio'r bws yn ddyddiol ac mae plant wrth eu boddau hefyd yn camu ar y bws i gael hwyl.

"Mae'r bws hefyd wedi cael ei ddefnyddio mewn angladdau rhai pobl oedd wrth eu boddau gyda hen fysiau; dyna mor arbennig yw'r bws i rai pobl," meddai.

Roedd dewis Siôn i adfer y bws nid yn unig yn gwireddu breuddwyd bersonol iddo ond roedd hefyd yn cadw darn o hanes pwysig i bobl leol ardal sir Gaernarfon, ynghyd â chadw enw'r cwmni'n fyw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: