Dewi Llwyd i ymddeol ar ôl 46 mlynedd o ddarlledu

- Cyhoeddwyd
Mae Dewi Llwyd - un o newyddiadurwyr a chyflwynwyr amlycaf darlledu Cymraeg - wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ôl bron i 50 mlynedd gyda'r BBC.
Mae wedi bod â rhan amlwg yn narlledu 20 o etholiadau ac wedi cyhoeddi mai rhaglen ganlyniadau etholiad y Senedd ar BBC Radio Cymru fydd ei olaf.
Yna, bydd yn cyflwyno Dros Ginio am y tro olaf ar 22 Mai.
'Dydy'r ymddeoliad ddim ar y gorwel bellach. Mae ar garreg y drws' - darllenwch argraffiadau Dewi Llwyd cyn ei raglen etholiad olaf.
Dewi Llwyd: "Mae hi wedi bod yn fraint a dwi wedi mwynhau'n aruthrol"
Ymunodd Dewi Llwyd â'r BBC yn 1979.
Ar ôl cyfnod fel gohebydd seneddol cyntaf y BBC ar gyfer S4C, aeth ymlaen i gyflwyno rhai o raglenni teledu a radio mwyaf adnabyddus y BBC ac S4C, gan gynnwys Newyddion, Pawb a'i Farn, Taro Naw, Post Prynhawn a Dros Ginio.
Fel rhan o'i yrfa bu yn bresennol mewn sawl digwyddiad hanesyddol pwysig.
Ef gyhoeddodd ganlyniad 'Ie' i ddatganoli i bobl Cymru yn 1997, yn ogystal â chanlyniad Brexit yn 2016.
Roedd yno i weld Nelson Mandela yn cael ei ethol yn arlywydd De Affrica yn 1994, ac mae wedi sylwebu ar sawl etholiad arlywyddol yn America.
Yn fwy diweddar mae Dewi wedi bod yn llais cyfarwydd ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, a bydd ei raglen olaf yn cael ei darlledu o'r stiwdio ym Mangor ddydd Gwener, 22 Mai.

"Rydw i wedi mwynhau pob munud, a'r fraint fwyaf efallai oedd cael gwneud y cyfan yn Gymraeg"
Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa, dywedodd Dewi: "Wrth adael y BBC ar ôl 46 o flynyddoedd mae rhywun yn teimlo mor ddiolchgar am bob cyfle a gafwyd wrth gyflwyno llu o raglenni gwahanol, wrth ohebu o bedwar ban byd, ac wrth gael darlledu ar radio a theledu.
"Fyddai hyn oll ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth cenedlaethau o gydweithwyr ardderchog.
"Ond mae dwy garfan arall y mae'n rhaid diolch iddyn nhw hefyd.
"Mi fydda i'n sicr o weld colli'r holl bobl huawdl a gwybodus yr ydw i wedi cael y fraint o'u holi ar hyd y degawdau.
"Heb eu cyfraniadau gloyw fyddai ein rhaglenni ni ddim yn werth gwrando arnyn nhw."
Gwleidydda: Cofio'r Cyfri gyda Dewi Llwyd
Dewi Llwyd yn hel atgofion am ei yrfa darlledu mewn pennod arbennig gyda Vaughan Roderick
Ychwanegodd: "Ond fyddai yna ddim rhaglenni o gwbl heb y gynulleidfa sydd wedi aros mor deyrngar, yn wylwyr ac yn wrandawyr, ynghyd â'r miloedd o bobl y bûm mor ffodus o'u cyfarfod wrth baratoi rhaglenni fel Newyddion, Pawb a'i Farn, Hawl i Holi a Bore Sul.
"Diolch o galon i chi gyd. Rydw i wedi mwynhau pob munud, a'r fraint fwyaf efallai oedd cael gwneud y cyfan yn Gymraeg."
'Un o leisiau gorau ei genhedlaeth'
Dywedodd golygydd BBC Radio Cymru, Dafydd Meredydd: "Ar ran BBC Cymru, hoffwn longyfarch Dewi yn gynnes wrth iddo gyhoeddi ei ymddeoliad ar ddiwedd gyrfa eithriadol.
"Bu'n angor cadarn ar raglenni newyddion, gwleidyddiaeth, etholiad, eisteddfod a llawer iawn mwy.
"Dros y degawdau bu'n gwmni cynnes ac yn bresenoldeb awdurdodol ar sgrin S4C ac ar donfeddi BBC Radio Cymru – gydag un o leisiau gorau ei genhedlaeth!
"Dymunwn bob hapusrwydd iddo ar gyfer y bennod nesaf."

Bydd Dewi Llwyd yn cyflwyno ei raglen olaf ar 22 Mai
Ychwanegodd Delyth Isaac, pennaeth newyddion a materion cyfoes BBC Cymru y bu hi'n "fraint enfawr gweithio ochr yn ochr â Dewi Llwyd dros gynifer o ddegawdau".
"Trwy gyfnodau tyngedfennol yn hanes gwleidyddol Cymru a thu hwnt, bu'n arwain cynulleidfaoedd gyda'r awdurdod a'r gofal sydd wedi nodweddu ei yrfa, gan helpu'r genedl i lywio newidiadau mawr a deall eu harwyddocâd.
"Mae'n teimlo'n gwbl briodol ei fod, ar drothwy ei ymddeoliad, yn cyflwyno rhaglen ganlyniadau Etholiad Senedd 2026 ar BBC Radio Cymru a BBC Sounds, pan mae Cymru'n wynebu un o'i hetholiadau mwyaf cyffrous ers datganoli.
"Trwy gydol ei yrfa mae Dewi wedi bod yn angerddol am wasanaethu cynulleidfaoedd Cymraeg ac adlewyrchu yr hyn sy'n bwysig i gymunedau ledled Cymru.
"Yn fwy na dim, bu'n gydweithiwr caredig, yn fentor hael ac yn ffrind da. Diolch o galon am gyfraniad arbennig iawn i newyddiaduraeth a darlledu yng Nghymru, a dymuniadau gorau i'r dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2019

- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
