Y Cymro a gafodd goffi gyda Hitler

T.P Conwell-Evans (ar y chwith) oedd cyfieithydd David Lloyd George (blaen, chwith) pan aeth y cyn-Brif Weinidog i gyfarfod Adolf Hitler (blaen, dde) yn Yr Almaen yn 1936
- Cyhoeddwyd
Pan aeth David Lloyd George i gyfarfod Adolf Hitler yn 1936, roedd Cymro yn gweithio fel cyfieithydd i'r ddau wleidydd.
Mawr oedd parch T.P. Conwell-Evans tuag at yr Almaenwr bryd hynny, ond ymhen hir a hwyr, pylodd ei edmygedd, a bu'n rhan o gynllwynion i'w ddisodli.
Yr Athro Peredur Lynch sy'n adrodd stori'r gŵr a newidiodd ei feddwl am Hitler.
Te parti gyda'r Führer
Un o'r penodau mwyaf dadleuol yn hanes David Lloyd George wedi i'w gyfnod fel prif weinidog ddod i ben yn 1922, oedd ei ymweliad yn 1936 ag Adolf Hitler.
Erbyn hynny, roedd Lloyd George yn y diffeithwch gwleidyddol ym Mhrydain, ond ar y llwyfan rhyngwladol, roedd ei fri a'i enwogrwydd yn parhau.
Ar 4 Medi 1936, bu Lloyd George yng nghwmni Adolf Hitler am dair awr yn y Berghof, encilfan ysblennydd y Führer yn yr Alpau.
Bu cryn drafod ar y sefyllfa wleidyddol ryngwladol, ond yr hyn sy'n gwbl amlwg o'r cofnodion yw bod Lloyd George a Hitler wedi ffoli ar ei gilydd. 'A mutual admiration society' – dyna ddisgrifiad un hanesydd o'r ddau.
Ar ôl dychwelyd i Brydain, cyhoeddodd Lloyd George erthygl am ei ymweliad. Ynddi fe ddisgrifiodd Hitler fel 'the George Washington of Germany'; flwyddyn yn ddiweddarach, dywedodd 'I have never doubted the fundamental greatness of Herr Hitler'.
Mae'n bwysig nodi nad oedd Lloyd George yn cael ei ddenu gan ideoleg wleidyddol y Natsïaid, ond ni allai beidio ag edmygu llwyddiant ymddangosiadol Hitler yn taclo problemau diweithdra drwy fuddsoddi mewn gwaith cyhoeddus fel ffyrdd.

Roedd Lloyd George a Hitler 'wedi ffoli ar ei gilydd' ar ôl cyfarfod ym mis Medi 1936
Cymaint oedd gorfoledd Hitler yn dilyn y cyfarfod ar 4 Medi fel y gwahoddodd Lloyd George – a'i holl gymdeithion y tro hwn – yn ôl i'r Berghof y diwrnod canlynol am de parti (ham oer ac wyau wedi'u berwi'n galed fyddai'r prif ddanteithion).
Roedd wyth yn rhan o entourage Lloyd George yn ystod ei ymweliad pythefnos â'r Almaen y Medi hwnnw. Saeson oedd dau, sef yr Arglwydd Dawson, meddyg y teulu brenhinol, ac A.J. Sylvester, ysgrifennydd personol Lloyd George.
Cymry oedd y chwech arall ar y daith, sef Megan Lloyd George a'i brawd Gwilym Lloyd George, Thomas Jones, Is-ysgrifennydd y Cabinet gynt, a'r cyfieithydd Dr T.P. Conwell-Evans.
Yr heddychwr a'r cynllwyniwr
Erbyn 1939, fe fyddai gan un o'r criw fu ar y daith yn 1936 fewnwelediad dyfnach nag unrhyw un arall ym Mhrydain i feddylfryd yr elît Natsïaidd.
Roedd wedi cyfarfod Hitler a'r prif Natsïaid droeon, wedi bod yn edmygydd anfeirniadol ohonynt hyd at 1938, gan fynychu ralïau Nuremburg a chymdeithasu'n helaeth gyda Joachim Ribbentrop a'i wraig Annelies.
Ond yn rhyfeddol iawn, roedd o hefyd wedi bod ar gyrion cynllwyn yn 1938 i ddisodli'r Führer.
Cymaint ei wybodaeth am fyd mewnol y Natsïaid fel y'i galwyd yn ystod dyddiau olaf argyfyngus mis Awst 1939 i gyfarfod cyfrinachol yn swyddfa Lloyd George yn y Senedd gyda Winston Churchill ac Anthony Eden.
A oedd unrhyw fodd bellach o gymodi gyda'r Natsïaid? Dyna oedd ymholiad taer y tri, ac ateb negyddol a gawsant.
Yr atebwr oedd Dr T.P. Conwell-Evans, cyfieithydd Lloyd George yn 1936.
Cafodd ymweliad Lloyd George ei gofnodi gan A.J. Sylvester, ysgrifennydd personol Lloyd George, gyda chamera Ciné-Kodak. T.P. Conwell-Evans yw'r dyn mewn sbectol sy'n dod i mewn i'r sgrin o'r dde, tua diwedd y clip
Hyd at yn ddiweddar, perthyn i droednodiadau hanes a wnâi Conwell-Evans. Ond yn 2022 cyhoeddodd yr hanesydd Charles Spicer y gyfrol Coffee with Hitler, am ymdrechion criw bychan o ddelfrydwyr i osgoi rhyfel arall yn ystod y 1930au.
Eu nod aruchel, os naïf, oedd ceisio gwareiddio'r Natsïaid drwy gyfeillgarwch a dwyn yr Almaen unwaith eto yn rhan o gymdeithas y cenhedloedd gwâr. Mae gan Conwell-Evans ran ganolog yn y stori.
Un o Gaerfyrddin oedd Thomas Philip Conwell-Evans. Brodor o Gynwil Elfed, a dilledydd gyda'i siop yn 44 Heol y Brenin, oedd ei dad Thomas Conwil Evans, oedd hefyd yn godwr canu a diacon yng nghapel Penuel y Bedyddwyr.
Ar ôl cyfnodau byr o astudio yn Ffrainc a'r Almaen, aeth Conwell-Evans i Goleg yr Iesu Rhydychen yn 1912 gan raddio mewn Iaith a Llenyddiaeth Fodern a Chanoloesol yn 1915. Roedd yn heddychwr digymrodedd ac ar y chwith yn wleidyddol. Yn 1924, fe'i penodwyd yn ysgrifennydd gwleidyddol i'r aelod seneddol Llafur Noel Buxton.
Yn ystod y 1920au, daeth Conwell-Evans yn gryn arbenigwr ar faterion rhyngwladol, ac yn 1929 cyhoeddodd lyfr o'r enw The League Council in Action: a study in the methods employed by the council of the League of Nations to prevent war and to settle international disputes.
Yn amlwg, roedd wedi ei ysbrydoli gan ddelfrydiaeth yr 1920au a'r gobaith o osgoi rhyfel drwy drefn ryngwladol newydd o dan awdurdod Cynghrair y Cenhedloedd.
Yn 1930 fe'i noddwyd gan Buxton i ymweld â Dwyrain Prwsia a threuliodd y blynyddoedd 1932-4 – y cyfnod a welodd Hitler yn dod i rym – yn darlithio ym Mhrifysgol Königsberg.
Dyfnhaodd y profiad hwnnw ei gariad dwfn tuag at ddiwylliant yr Almaen a chadarnhaodd ei farn fod y wlad wedi'i thrin yn llawdrwm yng Nghytundeb Versailles.
Penderfynodd i ymroi â'i holl egni i rwystro rhyfel arall rhwng Prydain a'r Almaen.
'Cerdded llwybr moesol amwys'
Dros y blynyddoedd nesaf byddai Conwell-Evans yn dod i gysylltiad ag Ernest Tennant, banciwr a diwydiannwr a fu'n aelod o'r Corfflu Cudd-wybodaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r Grŵp-gapten Grahame Christie, un o beilotiaid Prydeinig mwyaf nodedig y rhyfel.
Er mor wahanol eu cefndiroedd, yr un oedd nod y tri – osgoi rhyfel trwy godi pontydd rhwng Prydain a'r Almaen Natsïaidd.
Un corff a ddefnyddiwyd ganddynt o 1935 ymlaen i gyrchu'r nod hwnnw oedd yr Anglo-German Fellowship. Gwleidyddion, cewri byd busnes ac aristocratiaid oedd trwch aelodau'r Fellowship, a chroesawai Almaenwyr blaenllaw i wleddoedd yn Llundain ac i rai o dai bonedd y wlad.
Dyma gorff y bu Conwell-Evans yn ysgrifennydd cyflogedig iddo o'r cychwyn.
Fel sydd i'w weld yn y nofel a'r ffilm Remains of the Day, bu tueddiad cryf i ddarlunio'r Fellowship fel haid o Natsïaid Prydeinig. Ond, ym marn Charles Spicer, dim ond rhyw 10% o'r aelodau oedd yn cael eu hatynu'n ideolegol tuag at Natsïaeth, a bu Kristallnacht yn Nhachwedd 1938 yn ergyd i'r Fellowship pan gollodd lawer o'i aelodau.
Lloyd George, Hitler a’r Cymro o Gaerfyrddin
Yr Athro Peredur Lynch yn trafod T.P. Conwell-Evans ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru
Bu Conwell-Evans a'i gymrodyr yn cerdded llwybr moesol amwys o'r cychwyn cyntaf. Ef a ysgogodd ymweliad Lloyd George â Hitler yn 1936, ond erbyn hynny roedd Iddewon yr Almaen eisoes wedi colli'u hawliau dinesig.
Erbyn 1938, roedd Conwell-Evans yn barnu mai gwallgofddyn oedd Hitler. Ddechrau'r flwyddyn honno roedd wedi ceisio trefnu (yn aflwyddiannus) i gorau o'r Almaen gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Erbyn yr haf, drwy'i gysylltiadau â'r diplomydd Almaenig Erich Kordt, daethai'n gyfryngwr rhwng trefnwyr Cynllwyn Oster – cynllwyn gan rai o uchel swyddogion byddin yr Almaen i ddisodli Hitler – a'r llywodraeth Brydeinig.
Un o amodau allweddol gweithredu'r coup oedd gwrthwynebiad cadarn gan Brydain i fwriadau Hitler yn y Sudetenland. Fel arall y gweithredodd Neville Chamberlain.
Yn ystod y Rhyfel Ffug (1939-40), ar ddau achlysur mentrodd Conwell-Evans i Lausanne yn y Swistir i gynllwynio gyda gwrthwynebwyr o'r Almaen. Ond ofer, unwaith eto, fu pob ymdrech i ddisodli Hitler.
'It did not do any good'
Gŵr tawel oedd yn byw'n aml ar ei nerfau oedd Conwell-Evans. Do, fel Lloyd George ac eraill, fe'i rhwydwyd yntau hyd at 1938 gan gyfaredd Hitler.
Ym mis Medi 1939, fe ofynnodd Conwell-Evans i Lloyd George ddefnyddio'i ddylanwad i sicrhau swydd iddo fel ysgrifennydd gwleidyddol i Winston Churchill.
Ond ddaeth dim o hynny, ac erbyn mis Hydref roedd yn feirniadol o agwedd lugoer Lloyd George tuag at y rhyfel. Disgrifiodd Hitler a'r Natsïaid fel y bygythiad mwyaf ('the greatest menace') i wareiddiad Ewrop mewn 1500 o flynyddoedd.
Diflannu oddi ar y llwyfan gwleidyddol fu hanes Conwell-Evans ar ôl 1940 a byw'n encilgar yn Notting Hill gan ymroi i'w ddau brif hoffter – y piano ac arlunio.
Bu'n llythyru yn 1964 gyda Gwynfor Evans. Saesneg yw'r iaith, ac mae'n gresynu ynghylch ei Gymraeg diffygiol ('up to the age of six we spoke Welsh at home and no other tongue').
Mae'n amlwg ei fod yn awyddus i greu darluniad o Gwynfor ac mae'n holi am ffotograff da ohono. Roedd eisoes, meddai, i'w ddifyrru'i hun, wedi cwblhau portread olew o Aneurin Bevan a braslun pastel o Lloyd George.
'I had spent a fortnight in LlG's company in 1936,' meddai, 'when we visited Hitler in his mountain fastness! It did not do any good'.
Bu farw Conwell-Evans yn ei gwsg yn oriau mân 11 Tachwedd 1968.
Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi yng nghylchgrawn Barn ym mis Tachwedd 2024.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2024

- Cyhoeddwyd23 Awst 2016

