Dau ddyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd

Cerbydau a swyddogion heddlu yn safle'r gwrthdrawiad yn ardal Ringland Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau a swyddogion heddlu yn safle'r gwrthdrawiad yn ardal Ringland, Casnewydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi marw a thri pherson wedi eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiad bod car BMW a beic modur wedi taro ei gilydd ar Heol Aberddawan yn ardal Ringland yn gynnar fore Iau.

Yn ôl Heddlu Gwent, fe wnaeth parafeddygon gadarnhau bod dau ddyn wedi marw yn y lleoliad, a'r gred yw "mai gyrrwr y beic modur a theithiwr ar y piliwn oedden nhw".

Ychwanegodd y llu mai'r gred yw bod "y BMW wedi gadael y safle cyn i'r heddlu gyrraedd".

Mae dyn 18 oed a menyw 40 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac fe gafodd menyw 24 oed ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r tri yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Cerbydau a swyddogion Heddlu Gwent yn ardal y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth a lluniau gan yrwyr a thrigolion lleol all fod o help i'r ymchwiliad

Mae'r heddlu eisiau clywed gan unrhyw un a deithiodd ar hyd Heol Aberddawan rhwng hanner nos a 01:40 fore Iau.

Maen nhw hefyd yn gofyn i drigolion yr heol i edrych ar luniau camera cylch cyfyng wrth iddyn nhw ymchwilio i'r amgylchiadau cyn y gwrthdrawiad.

Fe fydd swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deuluoedd y dynion a fu farw wrth i'r ymchwiliad barhau.

Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru bod criw cerbyd ymateb cyflym wedi cyrraedd lleoliad y digwyddiad ychydig wedi 02:00 a'u bod wedi gadael awr yn ddiweddarach.

'Cyfnod eithriadol o drist ac anodd'

Gan bwysleisio bod ymchwiliad yn mynd rhagddo, dywedodd y cynghorydd lleol, Alex Pimm bod "sibrydion ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd".

"Rwy'n erfyn ar bobl i ymatal rhag dyfalu, fel bod yr awdurdodau'n gallu cynnal ymchwiliad llawn a manwl," dywedodd.

"Mae dau lanc ifanc wedi colli eu bywydau, ac rwy'n cydymdeimlo gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau yn y cyfnod eithriadol o drist ac anodd yma."

Swyddog heddlu wrth y cordon sy'n cau Heol Aberddawan ers y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Swyddog heddlu wrth y cordon sy'n cau Heol Aberddawan ers y gwrthdrawiad

'Awyrgylch o sioc'

Gan ohebydd BBC Cymru, Matt Murray o'r lleoliad

Awyrgylch o sioc sydd yna ar Stad Alway ger safle'r ddamwain. Mae'n dawel ond mae pobl wedi dod o'u cartrefi ac maen nhw wrth ymyl cordon yr heddlu.

Mae pabell fforensig wedi ei gosod lle digwyddodd y gwrthdrawiad ac mae tua wyth o gerbydau heddlu a chordon yn cau Ffordd Aberddawan.

Wrth i mi gyrraedd, roedd yn aneglur beth oedd wedi digwydd. Roedd pobl leol yn gwybod bod dau berson wedi marw ac yn ofni bod achos arall o drywanu wedi digwydd.

Mae yna gofeb o hyd ar y cylchdro er cof am Ryan O'Connor a gafodd ei lofruddio yma yn 2021.

Dywedodd un preswylydd wrtha'i bod y gwrthdrawiad wedi digwydd tua 01:00 ond cafodd eraill eu deffro gan sŵn hofrennydd yr heddlu tua 02:00.

Bues i'n siarad gyda dau berson lleol a ddywedodd wrtha'i eu bod yn 'nabod y bobl sydd wedi marw, a'u bod mewn sioc.

Mae'r marwolaethau, medden nhw, yn "destun pryder" ac yn "hollol dorcalonnus".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig