Dyn wedi marw o nifer o anafiadau wedi gwrthdrawiad Pen Llŷn - cwest

- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn oedd yn gyrru beic modur o nifer o anafiadau wedi gwrthdrawiad â char ym Mynytho, Pen Llŷn, clywodd cwest.
Bu farw Roger Guy Hawcroft ar safle'r digwyddiad.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys ei feic modur du Yamaha, a char VW Polo coch, a ddigwyddodd ar ddydd Sadwrn, 25 Ebrill.
Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon, dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, fod yr heddlu wedi derbyn galwad tua 15:00 gan aelod o'r cyhoedd i'w hysbysu am y gwrthdrawiad.
"Roedd Roger Hawcroft yn gyrru'r beic modur a bu farw o ganlyniad i'r gwrthdrawiad," meddai'r crwner.
Fe wnaeth archwiliad post mortem ganfod ei fod wedi cael sawl anaf yn y gwrthdrawiad.
Dywedodd y crwner fod ymchwiliadau'r heddlu i'r digwyddiad yn parhau, ac mae'r cwest wedi ei ohirio tra bod rheiny'n digwydd.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod wedi marw "yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu, yn y lle yr oedd yn ei garu, gyda'r haul ar ei wyneb a'r môr wrth ei ymyl".
"Er mor drist yr ydym, ni fyddai wedi dymuno dim byd gwahanol ac felly y bu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
