Cyn-chwaraewr Cymru Kenny Jackett wedi marw yn 64 oed

Kenny Jackett cyn chwarae i Gymru yn erbyn Yr Alban yn 1985Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Kenny Jackett 31 cap dros Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr Cymru a chyn-reolwr Abertawe Kenny Jackett wedi marw yn 64 oed.

Cafodd Jackett ei eni yn Watford, ond roedd yn gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei dad, ac aeth ymlaen i ennill 31 cap rhwng 1982 a 1988.

Bu'n cynrychioli Watford trwy gydol ei yrfa fel chwaraewr, cyn gorfod ymddeol yn 28 oed oherwydd anafiadau.

Aeth ymlaen i reoli Abertawe, Millwall, Wolverhampton Wanderers, Portsmouth a Leyton Orient.

Yn fwyaf diweddar bu'n gyfarwyddwr pêl-droed Gillingham, cyn iddo ymddiswyddo fis Tachwedd 2024 oherwydd rhesymau meddygol.

Kenny Jackett yn dathlu ennill Tlws y Gynghrair gydag Abertawe yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jackett yn dathlu ennill Tlws y Gynghrair gydag Abertawe yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006

Fe gymrodd Jackett yr awenau gan Brian Flynn fel rheolwr Abertawe yn 2004, gyda'r clwb yn y drydedd adran ar y pryd.

Sicrhaodd yr Elyrch ddyrchafiad yn ei dymor llawn cyntaf wrth y llyw, cyn colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor canlynol.

Ond fe lwyddodd Abertawe i ennill Tlws y Gynghrair y tymor hwnnw, gyda buddugoliaeth dros Gaerliwelydd yn Stadiwm y Mileniwm.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.