Oedi llawdriniaethau newid rhywedd er mwyn cynnal 'adolygiad brys'

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd ac wedi sefydlu ers 2019

  • Cyhoeddwyd

Mae atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd mewn clinig wedi cael eu hoedi er mwyn "galluogi i adolygiad clinigol annibynnol brys gymryd lle", yn ôl y pwyllgor sy'n comisiynu gwasanaethau arbenigol yn genedlaethol.

Dywedodd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (CBCGC) mewn datganiad eu bod wedi penderfynu oedi atgyfeiriadau am lawdriniaethau o'r fath gan Wasanaeth Rhywedd Cymru (GRhC).

Mae GRhC yn glinig sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd ac felly o dan adain Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Cam rhagofalus yw'r adolygiad, meddai CBCGC a gafodd ei gymryd "ar sail cyngor clinigol i sicrhau bod atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhyw yn cael eu cefnogi gan drefniadau sy'n helpu i sicrhau bod gofal yn ddiogel ac o safon uchel".

"I bwysleisio, oedi ydy hyn ac nid newid parhaol i'r gwasanaeth," meddai'r llefarydd.

"Ar wahân i'r oedi o ran atgyfeiriadau llawfeddygol a llawdriniaethau, mae'r gofal sy'n cael ei ddarparu gan GRhC yn parhau heb newid."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gweinidogion wedi cyfarfod gyda CBCGC brynhawn Gwener i geisio cael "mwy o eglurder" am y penderfyniad.

Ychwanegon nhw eu bod "wedi derbyn sicrwydd mai oedi ydy'r penderfyniad a nid stopio".

Dywedodd CBCGC eu bod yn "cydnabod y bydd yr oedi yma'n achosi ansicrwydd a phryder i gleifion sy'n aros am lawdriniaeth ac i'w teuluoedd".

"Ni chafodd y penderfyniad ei wneud yn ysgafn. Ein blaenoriaeth yw sicrhau gofal diogel o ansawdd uchel."

Esboniodd y pwyllgor fod gwasanaethau eraill GRhC yn parhau heb newid, gan gynnwys therapi siarad ac iaith, cymorth seicolegol, cymorth endocrin a therapi hormon.

Daeth y penderfyniad, yn ôl CBCGC, wedi iddynt wneud gwiriadau ar ansawdd a diogelwch y gwasanaeth yng Ngorffennaf ac Awst 2026.

Roedd y gwiriadau hynny'n dangos bod cyfraddau atgyfeirio Cymru yn 2025-26 yn "sylweddol uwch" na'r rhai a gafodd eu cofnodi mewn clinigau yn Lloegr.

"Cododd hyn gwestiynau ynghylch pam yr oedd mwy o gleifion yn cael eu cyfeirio o Gymru ac os oedd rhai cleifion - nad oeddent yn mynd ymlaen i gael llawdriniaeth - wedi cael eu hasesu'n briodol cyn cael eu cyfeirio."

Ychwanegon nhw eu bod yn "gweithio gydag arbenigwyr profiadol ym maes rhywedd i ddechrau'r adolygiad cyn gynted â phosibl a lleihau unrhyw oedi i gleifion".

'Adolygu pob achos perthnasol'

Ychwanegodd llefarydd y llywodraeth eu bod wedi derbyn sicrwydd gan CBCGC hefyd, y bydd "pob achos perthnasol yn cael ei adolygu".

"Unwaith y bydd gan CBCGC sicrwydd bod asesiadau clinigol priodol ar waith, bydd unigolion yn symud ymlaen i gael llawdriniaeth cyn gynted â phosibl.

"Mae Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal hefyd yn ysgrifennu at gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i geisio cael rhagor o wybodaeth a sicrwydd ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael i'r unigolion sy'n cael eu heffeithio.

"Mae wedi gofyn am sicrwydd bod cyfathrebu digonol a chynhwysfawr yn digwydd gyda'r cleifion sy'n cael eu heffeithio a bod y corff cleifion, Llais, yn cael ei ddiweddaru ym mhob cam."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.