Cyhuddo dyn 37 oed o lofruddio dyn 74 oed yn Nhrefddyn

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Bythway ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 37 oed o Gwmbrân wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 74 oed yr wythnos diwethaf.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i eiddo ar Ffordd Bythway yn Nhrefddyn ger Pont-y-pŵl am 16:55 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi'i anafu'n ddifrifol.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaeth ambiwlans a'r ambiwlans awyr, bu farw Nicholas 'Brian' Parfitt yn y fan a'r lle.
Mae Aaron Cook wedi cael ei gyhuddo o'i lofruddio ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.
Mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau o fygwth lladd ac o aflonyddu.
Cyfeirio'r mater at yr IOPC
Dywedodd Heddlu Gwent fod y llu wedi cyfeirio'r digwyddiad at y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), a bod hynny'n "cydfynd â phrosesau arferol".
Does dim manylion pam fod y digwyddiad wedi cael ei gyfeirio at yr IOPC.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Shelly Comley fod "llawer iawn o ddiddordeb wedi bod yn yr ymchwiliad hwn," gan annog pobl i ystyried yr iaith maen nhw'n ei ddefnyddio ar-lein.
Ychwanegodd: "Bydd swyddogion yn aros yn yr ardal wrth i'n hymholiadau barhau, felly os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, siaradwch â'n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
