Torfeydd yn heidio i Tafwyl sy'n dathlu 20 mlynedd yn y brifddinas

- Cyhoeddwyd
Mae torfeydd wedi heidio i'r castell yn y brifddinas ar gyfer Tafwyl ddydd Sadwrn sy'n dathlu 20 mlynedd ers sefydlu'r ŵyl.
Dros y penwythnos mae'r ŵyl yn addo cynnig dros ddeuddydd o adloniant gyda dros 200 o berfformwyr ac amrywiaeth o weithgareddau a stondinau.
Ymhlith y prif artistiaid eleni mae Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris, Martha Elen, Al Lewis, Taran a Sage Todz.
Mae'r ŵyl yn rhad ac am ddim a dydd Sadwrn fe welodd y brifddinas y torfeydd yn ymgasglu er mwyn cael mynediad i'r castell.
I nodi 20 mlynedd ers sefydlu'r ŵyl, bydd Tafwyl yn cynnal cyngerdd "unigryw" nos Sul.

Mae ymwelwyr yn gallu mwynhau perfformiadau ar draws sawl llwyfan - y Prif Lwyfan, Llwyfan yr Ardd, Llwyfan y Ddinas, Gwerinle, Llais ac Y Selar.
Yn ogystal â pherfformwyr Cymreig mi fydd artistiaid rhyngwladol yn perfformio yn y brifddinas hefyd gan gynnwys y band Llydaweg Tanork a'r grŵp Gwyddelig Grooveline.
Am y tro cyntaf erioed, mae Tafwyl hefyd wedi penodi dau lysgennad swyddogol i helpu hyrwyddo'r ŵyl.
Y llysgenhadon yw Rose Datta a Catrin Feelings, dau artist sydd â chysylltiad agos â'r ŵyl ac sydd wedi bod yn rhan o lwyfannau a digwyddiadau Tafwyl dros y blynyddoedd.
Bwriad y rôl yn ôl Tafwyl "yw ysbrydoli pobl ifanc yng Nghaerdydd a thu hwnt i ymfalchïo yn eu hiaith, eu diwylliant a'u creadigrwydd, gan adeiladu ar lwyddiant Tafwyl wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymraeg".

Dywedodd Rose Datta bod Tafwyl wedi bod yn "rhan enfawr o fy nhaith i fel artist".
"O berfformio ar lwyfannau'r ŵyl i weld y ffordd mae'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu a magu hyder, mae wedi chwarae rhan bwysig iawn yn y sîn Gymraeg."
Yn ôl trefnydd Tafwyl, Bethan Jones-Ollerton: "Mae'n anodd credu ein bod ni'n dathlu 20 mlynedd eleni. Mae Tafwyl wedi tyfu'n aruthrol dros y ddau ddegawd diwethaf ac mae dychwelyd i Gastell Caerdydd ar gyfer y dathliad arbennig hwn yn teimlo'n addas iawn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill

- Cyhoeddwyd8 Mehefin

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
