Arestio tri ar amheuaeth o losgi bwriadol ym Môn

BenllechFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae tri o bobl wedi'u harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol ar ôl i gerbyd gael ei roi ar dân ar Ynys Môn.

Cafodd y cerbyd ei losgi y tu allan i gartref ar ystâd Tyddyn Fadog ym Menllech am tua 23:30 nos Sul, cyn i'r tân ymledu i'r tŷ ac achosi difrod.

Mae'r tri wedi eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Cawson nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â lluniau o'r ardal, gan gynnwys fideo camera cerbyd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad gysylltu drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru neu drwy ffonio 101.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.