Bonnie Tyler mewn coma ar ôl llawdriniaeth frys

Bonnie Tyler yn canu ar lwyfan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bonnie Tyler yn bwriadu perfformio mewn cyngherddau ar draws Ewrop cyn diwedd y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores o Gastell Nedd, Bonnie Tyler wedi cael ei rhoi mewn coma meddygol er mwyn ei helpu i wella ar ôl cael llawdriniaeth frys ym Mhortiwgal.

Cafodd Bonnie Tyler, 74 oed, ei rhuthro i'r ysbyty ger ei chartref yn Faro yn yr Algarve i gael llawdriniaeth ar ei choluddyn.

Dywedodd llefarydd ar ei rhan fod y driniaeth wedi mynd yn dda a'i bod bellach yn gwella.

Cafodd Bonnie Tyler, Gaynor Hopkins yw ei henw go iawn, enwogrwydd rhyngwladol yn y 1980au gyda'i chân Total Eclipse of the Heart, aeth i frig y siartiau yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.

Mae ganddi nifer o ganeuon poblogaidd eraill, gan gynnwys Holding Out for a Hero ac It's a Heartache.

Mae Bonnie Tyler i fod i gynnal cyngherddau ar draws Ewrop yn ddiweddarach eleni i nodi 50 mlynedd ers i'r gân Lost in France lwyddo yn y siartiau yn Ewrop.

Mae perfformiadau wedi'u trefnu ym Malta, yr Almaen, y DU a sawl gwlad arall.

Cafodd Bonnie Tyler MBE yn 2023 am ei chyfraniad i gerddoriaeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig