Llafur â 'dim dewis' ond pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol - Ken Skates

Ken SkatesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates, arweinydd dros dro Llafur Cymru, y byddai'r cynnig yn "fargen wael i addysg"

GanTeleri Glyn Jones
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Llafur Cymru wedi dweud na fydd ganddynt "ddewis arall" ond pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol, oni bai bod eu gofynion yn cael eu bodloni.

Fel llywodraeth leiafrifol, mae'n rhaid i Blaid Cymru sicrhau cefnogaeth o leiaf chwe Aelod o'r Senedd o'r pleidiau eraill, er mwyn pasio'r gyllideb atodol.

Mi oedden nhw wedi cynnig £80 miliwn dros ddwy flynedd ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i geisio sicrhau cefnogaeth Llafur.

Mae Ken Skates, arweinydd dros dro Llafur Cymru, wedi dweud wrth raglen Politics Wales y BBC y byddai'r cynnig yn "fargen wael i addysg".

Wrth siarad ar ran Llywodraeth Cymru, cyhuddodd y Dirprwy Weinidog Nerys Evans Lafur o "chwarae gwleidyddiaeth" gydag arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, gofal plant a phrydau ysgol am ddim, a'u hannog i ddychwelyd i'r trafodaethau cyn y bleidlais ddydd Mawrth.

Mae'r gyllideb atodol hon yn dyrannu'r cyllid ychwanegol a gafodd Llywodraeth Cymru ers i'r gyllideb derfynol gael ei gosod (gan y llywodraeth Lafur flaenorol) cyn yr etholiad.

Mae gwariant ychwanegol Llywodraeth Lafur y DU ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn swm ychwanegol sylweddol.

Nid yw'r arian hwnnw wedi'i glustnodi at y diben hwnnw gan Lywodraeth Cymru, sy'n gallu dewis ei wario fel y mynna, ond mae Llafur Cymru a phleidiau eraill eisiau gweld mwy ohono'n cael ei wario ar ADY.

'£40 miliwn yn fargen wael i addysg'

Mae Plaid Cymru wedi cynnig £40 miliwn y flwyddyn am ddwy flynedd i'r sector ac wedi addo gwella cynaliadwyedd yn y tymor hir.

Ond wrth siarad ar Politics Wales, cadarnhaodd arweinydd dros dro Llafur, sydd ar hyn o bryd yr unig ymgeisydd yn ras arweinyddiaeth y blaid, eu bod wedi gwrthod y cynnig sydd ar y bwrdd.

"Mae ein cais yn syml iawn," meddai.

"Mae'n £100 miliwn ar gyfer addysg, yn benodol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

"Os na chawn ni'r fargen deg honno ar gyfer addysg, yna mae arnai ofn na fydd gennym unrhyw ddewis arall ond pleidleisio yn erbyn y gyllideb. Nid ydym yn dymuno gwneud hynny.

"Ond mi ydan ni'n credu ei bod yn hollbwysig bod mwy o arian yn mynd i addysg, yn enwedig gan fod y llywodraeth yma wedi derbyn dros £300 miliwn yn benodol oherwydd cynnydd yng ngwariant Llywodraeth y DU.

"Dwi'n credu fod £40 miliwn eleni yn fargen wael i addysg, ac y byddai £40 miliwn y flwyddyn nesaf hefyd yn fargen wael i addysg.

"Rydym wedi bod yn glir iawn y dylid neilltuo lleiafswm o £100 miliwn ar gyfer addysg, yn benodol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Mae ein pobl ifanc yn haeddu hynny."

Nerys Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cyhuddodd y Dirprwy Weinidog Nerys Evans Lafur o "chwarae gwleidyddiaeth

Hefyd ar y rhaglen, ymatebodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans, gan gyhuddo Llafur o "chwarae gwleidyddiaeth", gan ychwanegu bod "£80 miliwn ar gyfer ADY yn llawer mwy" na'r hyn yr oedd Llafur wedi bwriadu ei wario yn y gyllideb pan oeddent mewn grym.

Fe wnaeth Nerys Evans gydnabod fod ADY angen "mwy o fuddsoddiad" a dywedodd fod eu cynllun i "gynyddu capasiti, edrych ar opsiynau ar gyfer adnabod ADY yn gynnar, ac edrych ar hyfforddiant" yn gynllun "cynaliadwy".

Mae'r gyllideb atodol hefyd yn cynnwys cynlluniau i wario £145 miliwn ychwanegol ar y GIG, £55 miliwn ar ofal plant, a £15 miliwn ar brydau ysgol am ddim.

Dywedodd Nerys Evans fod y Blaid Lafur wedi "dweud geiriau cynnes am gefnogi'r polisi hyn, yn enwedig o ran amseroedd aros" yn y gorffennol, ac anogodd Lafur "i edrych eto ar y gyllideb atodol a'n cefnogi pan ddaw'r bleidlais honno yr wythnos nesaf".

Bydd y bleidlais ar y gyllideb atodol yn cael ei chynnal yn y Senedd ddydd Mawrth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.