'Colled ddinistriol': Teyrngedau i chwaraewr rygbi ifanc o'r gogledd

Jack Cameron Wynne DaviesFfynhonnell y llun, RGC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jack Cameron Wynne Davies yn aelod o Rygbi Gogledd Cymru a Chlwb Rygbi Caernarfon

GanGwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i chwaraewr rygbi ifanc yn dilyn ei farwolaeth annisgwyl.

Roedd Jack Cameron Wynne Davies, yn 24 oed ac o Ynys Môn.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Clwb Rygbi Caernarfon ac Rygbi Gogledd Cymru (RGC) eu bod yn "cyhoeddi marwolaeth un o'n chwaraewyr, Jack Cameron Wynne Davies, yn 24 oed yn unig".

Ychwanegodd y clybiau fod Jack wedi ymuno â Chlwb Rygbi Caernarfon yn 12 oed cyn datblygu drwy'r grwpiau oedran a dod yn rhan o lwybr datblygu RGC.

Ar ôl astudio Addysg Gorfforol a Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd am dair blynedd, dychwelodd i chwarae i Gaernarfon ac RGC, gan ailymuno â'r timau hŷn yn 2023.

Dywedodd y ddau glwb ei fod yn "rhan allweddol o deulu RGC a CR Caernarfon", gan ychwanegu bod ei farwolaeth yn "golled ddinistriol i bawb sy'n gysylltiedig â'r ddau glwb".

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb oedd yn ei adnabod yn ystod yr amser anodd hwn," medden nhw.

Mewn teyrnged, dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn "hynod o drist" o glywed am ei farwolaeth sydyn.

"Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Jack, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb yn RGC yn ystod yr adeg hynod o anodd hon."

'Ergyd drom i lawer'

Dywedodd Clwb Pêl-droed Llanfairpwll mewn teyrnged fod y golled yn "ergyd drom i lawer".

"Wedi ei fagu dafliad carreg o Maes Eilian, bu Jack yn cynrychioli'r clwb iau fel rhan o dîm chwedlonol Celtiaid Llanfairpwll cyn mynd ymlaen i gynrychioli'r clwb hŷn," meddai'r datganiad.

"Hyd yn oed wedi ei ddyddiau chwarae ddod i ben, roedd Jack wastad yn fodlon ei gymwynas i fod o gymorth lle gallai."

Dywedodd y clwb fod Jack yn "bêl-droediwr campus a chwaraewr rygbi arbennig", gan ychwanegu ei fod "yn annwyl, yn garedig, yn gymwynasgar ac yn ffrind i gymaint".

"Mae'n meddyliau, ein gweddiau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu, ffrindiau ac anwyliad Jack."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.