Galw ar bob Gruff, Griff a Gryff i Faes Eisteddfod Yr Urdd 2026

Y cyn-seiclwr proffesiynol Gruff Lewis, Brenin Cymru o 1055-63 Gruffudd ap Llywelyn, yr artist Griff Lynch, a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys
- Cyhoeddwyd
Ym mis Chwefror eleni fe siaradodd Gruff Hughes ar raglen Trystan ac Emma ar BBC Radio Cymru, yn adrodd hanes grŵp Whatsapp a oedd yn llawn pobl â'r enw Gruff.
Roedd dwsinau o 'Gruffs' yn rhan o'r grŵp 'ma, a oedd ond yn derbyn y sillafiad Gruff, gan beidio derbyn yr enwau Griff na Gryff.
Ac o glywed yr eitem radio yma fe gafodd Angharad Prys, sy'n gweithio fel Rheolwr Celfyddydol i'r Urdd, ei hysbrydoli.
Yn siarad ar raglen Trystan ac Emma ar 15 Mai, dywedodd Angharad:
"'Nes i glywed y sgwrs ac o'n i wrth fy modd efo'r syniad bo' 'na grwp Whatsapp wedi ei greu jest am bod ei henwau nhw yr un peth.
"O'n i'n meddwl bod o'n biti bo' nhw ddim yn cael cyfarfod eu gilydd dydi, felly beth am wahodd nhw draw i Steddfod Yr Urdd nos Sul pan ma'r Triban ymlaen, a cawn nhw gyfarfod yn un criw ar Faes Steddfod Yr Urdd."
Rhaglen Trystan ac Emma ar BBC Radio Cymru
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford
Dywed Angharad ei bod wedi gwneud bach o waith ymchwil i weld sawl Gruff, neu amrywiad o sillafiad o'r enw, sy'n aelod o'r Urdd ar hyn o bryd.
"Mae 'na 640 o aelodau o'r Urdd sydd â'r enw Gruff, Griff, Gryff neu Gruffudd. Mae 'na 140 o rheiny sy'n Griff, felly gan fod Yr Urdd i bawb mae gennai gais i'r grŵp Gruff gwreiddiol plîs gawn ni gynnwys pob Gruff/Griff/Gryff?
"Dwi'n dweud yn swyddogol bod 'na groeso i bob un sillafiad o'r enw ddod - yn yr Adlen, 6 o'r gloch nos Sul pan fydd Triban 'mlaen. Yn chwarae bydd Elin Fflur, Fleur de Lys, Gwilym, Cordiau, Buddug a Popeth - fydden nhw perfformio i bawb yn yr Eisteddfod, gan gynnwys bob Gruff, Griff a Gryff!"
Felly, os yr ydych chi'n Gruff, Gruffudd, Griff neu Gryff, ewch i Faes Eisteddfod Yr Urdd ar nos Sul 24 Mai i ehangu'r rhwydwaith!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2025
