Pryder am effaith Deddf Dedfrydu ar deulu dyn a laddwyd yn Sir Gâr

Bu farw Aaron Jones ar ôl cael ei daro gan gar wrth fynd â'i gi am dro yn Llanpumsaint ym mis Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd
Mae gweddw dyn a gafodd ei ladd ar ôl cael ei daro gan yrrwr wedi mynegi pryder y gallai'r dyn a achosodd ei farwolaeth gael ei ryddhau'n gynt na'r disgwyl.
Bu farw Aaron Jones, 38 oed ac yn dad i ddau o blant, ar 23 Rhagfyr 2024 ar ôl cael ei daro gan gerbyd mewn digwyddiad taro a ffoi.
Mae ei weddw Lisa Jones o Lanpumsaint wedi derbyn llythyr yn nodi y gallai dedfryd Daniel Wyke gael ei hadolygu o dan ddarpariaethau Deddf Dedfrydu 2026.
Mae'r teulu wedi dweud na fydden nhw'n gwybod tan ddiwedd mis Awst a fydd ei gyfnod yn y carchar yn cael ei leihau.
Mae Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, a Nerys Evans, Aelod Senedd Cymru dros Sir Gaerfyrddin, wedi galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod hawliau a lles teuluoedd dioddefwyr wrth galon unrhyw benderfyniadau.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai nod y newidiadau yw mynd i'r afael â'r argyfwng capasiti mewn carchardai, gan bwysleisio mai diogelwch y cyhoedd a chefnogi dioddefwyr yw eu blaenoriaeth.

Cafodd Daniel Wyke ddedfryd o bedair blynedd a hanner o garchar ym mis Mawrth 2026
Roedd Mr Jones yn mynd â'i gi am dro pan gafodd ei daro ddeuddydd cyn y Nadolig yn 2024, ac fe wnaeth y gyrrwr, Daniel Wyke adael safle'r digwyddiad.
Cafodd Wyke ei garcharu am bedair blynedd a hanner ym mis Mawrth eleni ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd Ann Davies a Nerys Evans fod wynebu'r ansicrwydd ynghylch hyd y ddedfryd yn ychwanegu at alar y teulu.
"Mae'n hanfodol bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwrando ar ddioddefwyr a'u teuluoedd," medden nhw mewn datganiad ar y cyd.
"Rhaid mynd ati gyda'r gofal a'r sensitifrwydd mwyaf mewn unrhyw benderfyniad i fyrhau dedfrydau mewn achosion o'r difrifoldeb hwn."

Roedd Aaron Jones wrth ei fodd gyda cheir a ralio, yn ôl ei deulu a'i ffrindiau
Mae Deddf Dedfrydu 2026 yn golygu y gall rhai carcharorion gymhwyso i gael eu rhyddhau'n gynharach fel rhan o newidiadau i'r system ddedfrydu.
Dywedodd Nerys Evans ei bod hi ac Ann Davies wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder i "geisio sicrwydd y gellir clywed llais a barn teulu Aaron fel rhan o unrhyw broses i adolygu'r ddedfryd".
Fe gododd Ann Davies yr achos yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau, gan ddweud bod yr ansicrwydd yn dod â mwy o ofid i deuluoedd dioddefwyr, a chael "ateb da" gan Arweinydd y Tŷ, Alan Campbell, ei fod yn deall sensitifrwydd yr achos a'r gofid a achoswyd i'r teulu.
Yn dilyn ei anogaeth yntau, mae hi bellach wedi cyflwyno cais i arwain dadl ar y mater yn San Steffan.

Dylai lles teuluoedd sy'n dioddef yn sgil trosedd "fod uwchlaw popeth", medd yr AS Ann Davies, er yr angen i fynd i'r afael â'r ffaith fod carchardai'r DU yn orlawn
Roedd derbyn y llythyr "heb unrhyw sgwrs" o flaen llaw yn "sioc enfawr" i'r teulu, meddai, ac mae gorfod aros hyd at dri mis cyn cael gwybod pa bryd fydd Wyke yn cael ei ryddhau "yn amser hir o dorri calon ac agor briw unwaith eto".
Dywed AS Caerfyrddin ei bod yn deall bod angen mynd i'r afael â'r ffaith bod carchardai'r DU yn orlawn "ond mae'n rhaid i ni roi y teuluoedd sydd wedi dioddef uwchlaw popeth arall - mae'n rhaid i ni ddod â nhw ar y daith hyn gyda ni, ac ar y funed sa i'n siŵr bod hynna'n digwydd".
Gyda'r posibilrwydd y gallai Wyke ond orfod cwblhau traean o'i ddedfryd dan glo, dywedodd: "Dyn lleol, yndyfe, 'nath hwn a'r tebygrwydd yw fe fyddan ni'n cerdded lawr Stryd y Brenin yng Nghaerfyrddin neu lawr yn ganol y dre' a cwrdd â'i gilydd," meddai.
"Fi'n gw'bod o'dd e ddim yn meddwl lladd Aaron ond 'nath e ddigwydd a dwi'n siŵr bod e'n edifarhau yn llwyr.
"Mae e'n ddyn gymharol ifanc hefyd... ond 'wi dal yn gweud, y bobol sydd wedi diodde mae eisie i ni warchod a 'neud yn siŵr taw nhw sydd uwchlaw popeth arall."
Pentref Llanpumsaint yn dod ynghyd i 'gadw atgof Aaron i fynd'
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
Carcharu dyn am achosi marwolaeth cerddwr yn Llanpumsaint
- Cyhoeddwyd30 Mawrth
Dyn wedi cael ei daro gan gar tra'n mynd â'i gi am dro - cwest
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2025
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y llywodraeth yn gweithredu'r newidiadau er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng capasiti mewn carchardai.
Dywedodd llefarydd fod "diogelwch y cyhoedd a chefnogi dioddefwyr" yn flaenoriaeth, gan ychwanegu "na fydd y troseddwyr mwyaf peryglus yn gymwys i gael eu rhyddhau'n gynharach".
Ychwanegodd y bydd "carcharorion sy'n cael eu rhyddhau'n gynnar yn wynebu amodau llym", gan gynnwys cyfyngiadau ar eu symudiadau, tagio electronig a goruchwyliaeth gan y gwasanaeth prawf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.