Ble mae mynwentydd fwyaf 'arswydus' Cymru?

Bran ar garreg beddFfynhonnell y llun, Getty Images
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn ôl llên gwerin Cymru mae'r llen rhwng ein byd ni a'r byd goruwchnaturiol ar ei deneuaf ar Noson Calan Gaeaf.

Yn hanesyddol roedd pobl yn credu bod mynwentydd yn fannau trothwyol – lleoliadau lle'r oedd y byd go-iawn a'r byd ysbrydol yn gallu gwrthdaro.

Ond faint wyddoch chi am hanes a thraddodiad mynwentydd Cymreig? Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes rhai o fynwentydd arswydus Cymru.

GanElin Tomos
Hanesydd

Am ganrifoedd roedd y Cymry yn osgoi ymweld â mynwentydd – yn ogystal â chroesffyrdd a chamfeydd – ar Noson Calan Gaeaf gan eu bod yn credu bod ysbrydion yn ymgynnull yn y mannau hyn.

Serch hynny, tra bod rhai yn gochel rhag eu mynwent leol dros gyfnod Calan Gaeaf roedd eraill yn ysu i gysylltu â'r ochr draw ac felly'n mentro'n unswydd i blith y beddau.

Eglwys Llangatwg ym Mhowys, darlun o 1840Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru / Wikimedia Commons
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Llangatwg ym Mhowys, darlun o tua'r flwyddyn 1840

Byddai rhai'n casglu yn y fynwent ar Noson Calan Gaeaf er mwyn clywed ysbrydion yr ardal yn sibrwd enwau'r rheiny a oedd i farw o fewn y flwyddyn.

Un fynwent sydd â chysylltiad arbennig â'r arfer yma ydy mynwent Eglwys Sant Digain yn Llangernyw, Sir Conwy. Yn ôl y sôn, mae ysbryd hynafol o'r enw Angelystor yn ymddangos bob Calan Gaeaf ac ar 31 Gorffennaf i adrodd enwau'r rheiny fydd yn marw ymhen y flwyddyn.

Eglwys Sant Difan yn Llangernyw, ble honnir bod ysbryd o'r enw Angelystor yn ymddangos bob Calan Gaeaf Ffynhonnell y llun, John Thomas / Wikimedia Commons
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Sant Difan yn Llangernyw, ble honnir bod ysbryd o'r enw Angelystor yn ymddangos bob Calan Gaeaf

Yn ei gyfrol Welsh Folk-Lore: A Collection of the Folk-Tales and Legends of North Wales, mae'r hynafiaethydd, Elias Owen, yn adrodd hanes gŵr o'r enw Shôn Ap Rhobert a oedd yn grediniol nad oedd ysbryd yn trigo ym mynwent Eglwys Sant Digain. Un Calan Gaeaf, penderfynodd fentro yno ac er syndod a dychryn iddo, am hanner nos fe glywodd yr ysbryd yn adrodd ei enw a bu farw'n fuan wedyn.

Arfer arall – a oedd yn amrywio rhyw fymryn o ardal i ardal – oedd y traddodiad o geisio darganfod pwy y byddech chi'n ei briodi.

Ar Noson Calan Gaeaf, roedd yn rhaid rhedeg o amgylch yr eglwys leol sawl gwaith cyn edrych trwy dwll y clo lle byddai wyneb eich darpar ŵr neu wraig yn ymddangos yng nghorff yr eglwys. Os mai arch oedd i'w gweld mae'n debyg y byddai'r sawl a oedd yn sbecian yn marw cyn priodi.

Eglwys Sant Peris, Nant PerisFfynhonnell y llun, Library of Congress / Wikimedia Commons
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Sant Peris, Nant Peris

Y tu hwnt i gyfnod Calan Gaeaf, yn rhyfedd ddigon, roedd mynwentydd yn gallu bod yn llefydd i ddathlu a mwynhau hefyd.

Yn Sir Drefaldwyn, byddai plwyfolion yn osgoi claddu cyrff ar ochr ogleddol y fynwent fel bod digon o le i gynnal gemau amrywiol fel ymladd ceiliogod a chwarae â phêl.

Roedd arferion tebyg i'w gweld mewn mannau eraill o Gymru hefyd; ym 1785 cwynodd Archddiacon Henry Thomas Payne bod criwiau o bobl ifanc gwyllt yn casglu ym mynwent Llangatwg yn Sir Frycheiniog i ddawnsio'n rheolaidd. Nododd bod nifer o fynwentydd yn yr ardal yn cael eu defnyddio fel mannau i bobl ddawnsio!

Mae gan Eglwys Sant Gwynno yn Llanwynno, fynwent ac iddi hanes diddorol gan gynnwys cerrig beddi cyn hyned ag 1606.

Yma hefyd mae man gorffwys y rhedwr llwyddiannus Griffith Morgan (1700-1737) neu 'Guto Nyth Brân'. Ei ras enwocaf oedd yr un olaf iddo'i rhedeg, lle trechodd ŵr o'r enw Prince trwy redeg 12 milltir mewn 53 munud. Ar ddiwedd y ras, mae'n debyg bod Siân ei gariad, wedi ei guro mor galed ar ei gefn nes i'r ergyd ei ladd! Gosodwyd carreg ar ei fedd dros ganrif wedi ei farw.

Y fynwent tu allan i Eglwys Sant Gwynno sy'n fan gorffwys i'r rhedwr enwog Guto Nyth BrânFfynhonnell y llun, Gareth James / Wikimedia Commons
Disgrifiad o’r llun,

Y fynwent tu allan i Eglwys Sant Gwynno sy'n fan gorffwys i'r rhedwr enwog Guto Nyth Brân

Mae gosod cerrig beddi parhaol mewn mynwentydd yn arfer lled ddiweddar. Yn y gogledd byddai anwyliaid yn plannu coed bytholwyrdd neu blanhigion amrywiol er mwyn nodi bedd. I'r rheiny a oedd wedi marw'n ifanc byddai teulu a chyfeillion yn plannu eirlysiau, fioledau neu friallu ar eu beddau. Rhosod neu wyddfid wedyn ar orffwysfa unigolion oedd wedi aeddfedu a thansi, ruw neu frigwlydd ar y rhai a oedd wedi cyrraedd oedran teg.

Mae mynwentydd Cymru yn fwy na mannau gorffwys i'r meirw yn unig. Maent yn lleoliadau unigryw llawn straeon ac arferion sy'n datgelu sut roedd Cymry'r gorffennol yn deall bywyd, marwolaeth a'r byd o'u cwmpas.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig