Carcharu tri am rwydwaith puteindra a masnachu menwyod i rai lleoliadau yng Nghymru

(Chwith i'r dde) George Filip, Leonard Banica ac Alexandru MocoFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

(Chwith i'r dde) George Filip, Leonard Banica ac Alexandru Moco

GanAimee Thomas
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Rwmania wedi'i garcharu am wyth mlynedd a dau fis am redeg rhwydwaith puteindra oedd yn masnachu menywod o Rwmania i'r DU.

Roedd George Filip, 45, yn gyfrifol am ddod â menywod i'r DU i weithio yn y diwydiant rhyw, gyda'r busnes yn gweithredu mewn lleoliadau ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Filip, gyda chymorth ei wraig ar y pryd, Ionela Filip, 35, wedi creu'r busnes a oedd yn gyfrifol am buteindra o leiaf 16 o ddioddefwyr.

Dywedodd yr erlynydd Matthew Cobbe fod y ddau wedi elwa o gannoedd o filoedd o bunnoedd o'r busnes.

Busnes o 'raddfa sylweddol'

Roedd Alexandru Moco, 27, sef brawd Ionela Filip, a Leonard Banica, 41, hefyd yn rhan o'r cynllun.

Clywodd y llys fod y busnes wedi gweithredu am saith mlynedd, rhwng Mehefin 2015 a Hydref 2022.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd o leiaf 16 o ddioddefwyr wedi cael eu cludo i'r DU o Rwmania a Ffrainc i weithio yn y diwydiant rhyw.

Dywedodd Mr Cobbe fod y busnes o "raddfa sylweddol", gyda menywod yn gweithio mewn lleoliadau fel Cwmbrân, Henffordd, lleoliad ger Alton Towers, Stoke-on-Trent, Aberdeen ac Inverness.

Roedd Filip yn trefnu i'r menywod fyw a gweithio mewn tai, gan gynnwys tŷ yng Nghasnewydd.

Roedd y busnes yn cael ei reoli drwy ddefnyddio ffôn symudol, a oedd yn cynnwys gwybodaeth allweddol am weithrediadau'r grŵp.

Llys y Goron CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth yr achos i sylw'r heddlu ar ôl i gymdogion gwyno am weithgareddau amheus mewn eiddo yng Nghasnewydd a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith rhyw.

Ym mis Ionawr 2020, fe wnaeth yr heddlu arestio'r rhai oedd yn gysylltiedig â'r busnes.

Roedd archwiliad o ffôn symudol a ddefnyddiwyd i reoli'r gweithrediadau yn galluogi'r heddlu i ddeall maint y rhwydwaith.

Disgrifiwyd y busnes fel un "prysur iawn ar lefel genedlaethol".

Clywodd y llys nad oedd y menywod wedi cael eu gorfodi i weithio fel puteiniaid.

Fodd bynnag, dywedodd yr erlynydd fod George Filip yn amlwg wedi manteisio ar amgylchiadau'r menywod.

Nid oedd unrhyw awgrym o drais rhywiol, ond clywodd y llys fod nifer fawr iawn o gwsmeriaid yn defnyddio'r gwasanaeth.

Dywedodd y barnwr Vanessa Francis fod rhai o'r menywod wedi cael eu rhoi dan bwysau i gyflawni gweithredoedd rhywiol nad oeddent wedi cytuno iddynt.

Ychwanegodd y barnwr bod pedair haen i'r busnes, gyda George Filip ar y pen uchaf.

Disgrifiwyd Ionela Filip o fod yn yr ail haen yn gweithio fel rheolwr y busnes a'r menywod.

Roedd hi'n gyfrifol am drefnu symudiadau'r menywod, tynnu lluniau ohonynt a chyhoeddi'r lluniau ar wefannau.

Yn aml, roedd y lluniau'n cael eu cyhoeddi o fewn 24 awr i'r menywod gyrraedd y DU.

Roedd hefyd yn cysylltu â chwsmeriaid ac yn helpu i redeg y busnes.

Roedd Leonard Banica yn y drydedd haen ac yn gyfrifol am gyflwyno gweithwyr rhyw i'r busnes.

Tra roedd Alexandru Moco, brawd iau Ionela, yn helpu i gludo'r menywod i apwyntiadau ac yn darparu dulliau atal cenhedlu.

Clywodd y llys fod George Filip, Alexandru Moco a Leonard Banica wedi ffoi o'r DU, tra bod Ionela Filip wedi parhau i redeg y busnes yn yr Alban am ddwy flynedd arall. Cafodd y tri dyn eu harestio eto ar ôl dychwelyd i'r DU.

Filip 'y troseddwr mwyaf cyfrifol'

Disgrifiodd y barnwr Vanessa Francis y busnes fel un "sylweddol a soffistigedig" a oedd wedi gweithredu dros gyfnod o saith mlynedd ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.

Dywedodd taw busnes puteindra masnachol oedd hi, ac er bod y menywod wedi eisiau dod i'r DU i weithio yn y diwydiant rhyw, roedd hynny'n golygu nad oedden nhw o reidrwydd wedi cael eu hamddiffyn rhag camfanteisio.

Wrth ddedfrydu George Filip, dywedodd y barnwr wrtho mai ef oedd "yn amlwg y troseddwr mwyaf cyfrifol".

Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd a dau fis yn y carchar.

Cafodd Ionela Filip ddedfryd o dair blynedd yn y carchar, wedi'i gohirio.

Cafodd Leonard Banica ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis yn y carchar. Dywedwyd ei bod yn debygol y byddai'n treulio hyd at hanner yr amser yna yn y ddalfa ac y byddai'n cael ei anfon o'r wlad pan gaiff ei ryddhau neu cyn hynny.

Cafodd Alexandru Moco ddedfryd o flwyddyn a thri mis yn y carchar a chafodd e wybod ei bod hin debygol y byddai'n cael ei ryddhau ar unwaith ac ei anfon o'r wlad.

Fe fydd George Filip a Leonard Banica yn cael ei alltudio i Rwmania ar ôl cyflawni hanner eu dedfryd. Tra bydd Alexandru Moco yn cael ei alltudio yn syth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig