Gosod cerflun i'r ymgyrchydd 'cudd' Elizabeth Andrews

Mae'r cerflun wedi'i osod ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda
- Cyhoeddwyd
Roedd Elizabeth Andrews yn un o ymgyrchwyr gwleidyddol benywaidd mwyaf dylanwadol dechrau'r 20fed ganrif, ond mae haneswyr yn dweud i'w stori fynd ar goll.
Fe gafodd ei geni ym mhentref glofaol Hirwaun yng Nghwm Cynon yn 1882 ac roedd hi'n credu'n gryf mewn hawliau menywod a phlant.
Ddydd Iau, cafodd cerflun ohoni'n ei ddadorchuddio ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, fel rhan o ymgyrch Monumental Welsh Women.
Y menywod sydd eisoes wedi eu hanrhydeddu fel rhan o'r prosiect i dynnu sylw at arwresau cudd o Gymru yw Betty Campbell, Elaine Morgan, Cranogwen ac Arglwyddes Rhondda.

Elizabeth Andrews (canol) a fu'n ymgyrchu dros hawliau menywod a phlant
Fe gafodd Elizabeth Andrews ei magu yn rhan o deulu difreintiedig, ac roedd yn un o 11 o blant a oedd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
Bu'n rhaid iddi adael yr ysgol yn 13 oed i helpu ei rhieni i gadw dau ben llinyn ynghyd.
"Doedd pobl Hirwaun ddim yn ymwybodol ohoni mewn gwirionedd," meddai'r cynghorydd cymunedol Eryl O'Neil.
"Mae'n rhaid i fi gyfaddef, doeddwn i ddim yn gwybod dim amdani chwaith."
'Addysgwch, cynhyrfwch, trefnwch'
Dywedodd ei hen-hen-nith iddi droi at wleidyddiaeth yn ifanc pan symudodd i'r Rhondda.
"Doedd hi ddim wedi cael addysg lawn, ond roedd hi'n gallu mynd allan a siarad â phobl. Roedd hi'n anhygoel," eglurodd Melinda Hawthorne.
"Hi oedd ysgrifennydd cyntaf urdd y menywod yn y Rhondda, y fenyw gyntaf i fod yn drefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru.
"Ond mae hi'n un arall o'r menywod hyn sydd wedi cael eu cuddio."

Cafodd y cerflun ei ddadorchuddio gan griw Monumental Welsh Women ddydd Iau
Dywedodd Melinda ei bod hi'n cael ei hadnabod gan fenywod lleol fel 'Ein Elizabeth' oherwydd ei bod hi eisiau "cydraddoldeb gwell".
"Ei harwyddair oedd 'addysgwch, cynhyrfwch, trefnwch'," ychwanegodd.
"Mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud ag addysgu pobl am beth oedd eu hawliau, beth oedd ar gael iddyn nhw.
"'Cynhyrfu' oedd cael pobl allan yna ar y strydoedd i gael y pethau sydd eu hangen arnyn nhw, ac yna trefnu hynny."
Fe wnaeth Elizabeth Andrews frwydro dros well gwasanaethau mamolaeth a gofal plant, a helpodd i sefydlu un o'r ysgolion meithrin cyntaf yng Nghymru.

Dyma fodel bach o'r cerflun i Elizabeth Andrews gan y cerflunydd Billie Bond
Fel Trefnydd Menywod cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru - rôl a gafodd ei chreu ar ôl i rai menywod dderbyn y bleidlais ym 1918 - fe wnaeth Elizabeth Andrews sefydlu adrannau menywod.
Un o'i hymgyrchoedd cynharaf oedd cyfieithu taflenni o Saesneg i Gymraeg er mwyn annog menywod i ddefnyddio'u pleidlais.
Ymgyrchodd yn llwyddiannus dros greu baddonau pen pwll i lowyr, i gael gwared â'r peryglon i fenywod a oedd yn gorfod llusgo baddonau tun trwm o ddŵr poeth o'r cartref.
Fe wnaeth hi hefyd chwarae rhan allweddol yn Streic Gyffredinol 1926 a'r cyfnod a ddilynodd, pan gafodd glowyr eu cloi allan am chwe mis nes iddyn nhw dderbyn toriadau cyflog mewn cyfnod hynod gythryblus.
"O'dd hi yn gweld yr effaith hyn ar blant a sut o'n nhw ddim yn cael eu heffeithio gyda pheidio cael digon o fwyd," dywedodd Cerith Mathias o Monumental Welsh Women.
"'Na'th hi ddechrau ymgyrch i helpu mabwysiadu'r plant i deuluoedd oedd yn gallu fforddio helpu nhw.
"Roedd cannoedd o blant yn y Rhondda a thu hwnt wedi mynd i Loegr am gyfnodau bach, wedyn ar ôl y streic, pan aeth pawb 'nôl i'r gwaith, daeth y plant 'nôl.
"Fe wnaeth hynny helpu cymaint o deuluoedd."
'Camu mas o'r cysgodion'
Yn ôl yr hanesydd Dr Elin Jones, roedd y cyfnod wedi'r streic yn un o galedi a thlodi mawr, ac yn un lle daeth menywod cryf i'r amlwg.
"Roedd Vernon Hartshorn ac A J Cook yn arwain y dynion, ac yn 'neud hynny'n gelfydd iawn ac yn ddewr iawn," dywedodd.
"Ond roedd menywod fel Elizabeth Andrews hefyd wedi gwneud eu rhan.
"Dyma'r tro cyntaf i fenywod gymryd rhan i gefnogi'r glowyr.
"Felly mae hi'n enghraifft o fenyw sydd wedi camu mas o'r cysgodion."

Mae Melinda Hawthorne, sy'n perthyn i Elizabeth Andrews, yn falch o gael y cerflun
Dywedodd y cerflunydd Billie Bond bod yn rhaid i blentyn fod yn rhan o'r cerflun oherwydd gwaith Elizabeth Andrews dros eu hawliau.
"Roedd ei llwyddiannau gyda'r baddonau pen pwll yn rhywbeth arall a wnaeth argraff arna' i, felly mae hi'n sefyll ar faddon tun wyneb i waered," ychwanegodd.
"Mae'n hygyrch iawn. Fe allwch chi fynd yn agos ati a'i chyffwrdd. Mae wedi bod mor ddiddorol.
"Gobeithio bod hyn yn deyrnged addas i waddol Elizabeth Andrews ac yn ysbrydoliaeth i genedlaethau'r dyfodol o fenywod yng Nghymru."
Ychwanegodd Helen Molyneux, Cadeirydd Monumental Welsh Women: "Cyn i gerflun Betty Campbell gael ei ddatgelu yng Nghaerdydd, nid oedd un cerflun o Gymraes ag enw yng Nghymru.
"Nawr mae gan Gymru bum cerflun yn adrodd straeon y menywod rhyfeddol hyn sy'n esiampl o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd menywod yn defnyddio eu lleisiau i siarad dros newid."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.