'Porth Lleuog nid Skull Cove' - Newid enwau Cymraeg yn 'dân ar fy nghroen'

Mae newid enwau llefydd fel Porth Lleuog, ger Abergwaun, yn digwydd yn rhy aml, meddai Hedydd Hughes
- Cyhoeddwyd
Mae pryder bod enwau lleoedd Cymraeg am gael eu colli yn Sir Benfro wrth i bobl ddefnyddio rhai sydd heb unrhyw gysylltiad hefo'r un cynhenid.
Wrth i'r ardal baratoi i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Hedydd Hughes, sy'n weithgar yn ceisio gwarchod a diogelu treftadaeth yr ardal, bod nifer o bobl yn rhannu ei phryderon.
"Ni ddim yn byw yn Disneyland," meddai.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae diogelu enwau cynhenid lleoedd wedi dod yn bwnc llosg.
Mae Cyngor Gwynedd wedi trafod newid enwau Cymraeg ar fapiau OS a chyngor cymuned yn y gogledd wedi gosod arwydd newydd yn y Carneddau i geisio cychwyn ymgyrch ehangach i warchod enwau lleoedd.
Mae awdurdod Parc Eryri bellach yn defnyddio Yr Wyddfa, yn hytrach na Snowdon, ym mhob cyfathrebiad swyddogol ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gwneud penderfyniad tebyg.

Mae Hedydd Hughes yn artist ac yn storïwr sy'n adrodd chwedlau a hanesion ardal Sir Benfro
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd Hedydd Hughes, gafodd ei magu yn ardal Eisteddfod y Garreg Las ac sy'n dal i fyw yno, bod yr ardal yn newid wrth i'r boblogaeth newid.
Meddai: "Mae pobl yn dweud bod Sir Benfro yn lovely ewn ni i fyw fan 'na heb sylweddoli bod gyda ni ein treftadaeth a'n hanes a'n diwylliant ni'n hunain.
"Ac un o'r pethau sy'n dân ar fy nghroen i yw'r ffordd weithiau, a dwi'n gwybod bod lot o bobl yn rhannu fy ngofid i 'da hyn, weithiau mae enwau cynhenid sydd wedi bod ar y bröydd a gwahanol lecynnau yn yr ardal hon yn cael label newydd."
Pwysigrwydd carreg las Sir Benfro yn ddim byd ond stori, medd daearegwr
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Gwefan cofnodi enwau Cymraeg 'ddim yn mynd yn ddigon pell'
- Cyhoeddwyd30 Medi 2025
Dywedodd nad oedd gan yr enwau hyn unrhyw gysylltiad gyda'r enw cynhenid ac mai'r fersiwn newydd sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio gan rai pobl, gan gyfeirio at rywle sy'n agos at ei chartref hi yn ardal Pencaer.
"Mae pobl wedi dechrau galw fe'n Skull Cove, a Porth Lleuog mae e wedi bod erioed," meddai.
"Mae'n anodd ffeindio'r geiriau i egluro i bobl achos 'dyn nhw ddim yn deall yr ystyr tu ôl Porth Lleuog.
"Dyna yw e wedi bod ar y map ers 1860, 1880.
"Dy'n ni ddim yn byw yn Disneyland. Nid Skull Cove yw e - a ddyle fe byth.
"Unwaith mae rhywbeth fel yne'n dechre mynd ar Google Maps dyna ni mae pobl yn mynd i dderbyn bod e'n ffaith, a dyw e ddim yn ffaith."
Dywedodd llefarydd ar ran grŵp Google: "Rydyn ni'n ymgynghori hefo nifer o ffynonellau ac awdurdodau wrth ddiweddaru Google Maps a phan rydyn ni'n enwi lleoedd ar y map.
"Rydyn ni'n arfer gwneud newidiadau i enwau pan maen nhw wedi eu diweddaru mewn ffynonellau llywodraethol neu mewn ffynonellau awdurdodol."
Mae Cyngor Penfro wedi cael cais am sylw.
Artist a storïwr
Mae Ms Hughes yn un o'r gwirfoddolwyr sydd wedi sefydlu gwefan i gasglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun.
Mae hi hefyd yn artist ac yn storïwr sy'n cyflwyno hen chwedlau ac arferion yr ardal ac mae hi wedi gweithio ar brosiect am gyfoeth ieithyddol y sir.
Fe fydd hi'n perfformio yn ystod yr eisteddfod eleni ac fe gafodd ei chomisiynu i greu darn celf wedi'i seilio ar gerdd Pwllderi, gan Dewi Emrys, gafodd eu printio ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las.
Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 16 Gorffennaf ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.