Brwydr cynghorydd ag alcohol 'wedi helpu i ddeall heriau pobl eraill yn well'

Mae Elfed Wyn ap Elwyn yn gynghorydd sir dros ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog
- Cyhoeddwyd
Mae Elfed Wyn ap Elwyn yn dweud na fyddai wedi bod yn ŵr, yn dad nac yn gynghorydd sir petai wedi parhau i yfed alcohol, ac mae bellach yn gobeithio "defnyddio ei brofiadau i helpu eraill sy'n wynebu trafferthion tebyg".
Roedd Elfed yn 22 oed pan sylweddolodd fod ganddo broblem ag alcohol, ond dywedodd ei fod yn ofni cyfaddef hynny rhag i bobl edrych i lawr arno.
Mae'r cynghorydd, bellach yn 29 oed, wedi bod yn sobr ers 29 Medi 2019, ac mae newydd gwblhau gradd 2:1 yn y gyfraith gyda'r Brifysgol Agored, ochr yn ochr â magu plant a chwblhau ei ddyletswyddau fel cynghorydd.
"Ma' cael cwblhau'r radd yma jyst fatha rhyw cherry on top," meddai.
Bellach, mae'n dweud bod ei brofiadau wedi rhoi "dealltwriaeth ychwanegol o'r heriau y mae pobl eraill yn eu hwynebu", rhywbeth sydd o gymorth iddo yn ei waith fel cynghorydd.

Elfed a'i deulu ar ôl cwblhau gradd yn y gyfraith gyda'r Brifysgol Agored
Ers rhoi'r gorau i yfed mae'n gallu gweld sut mae wedi newid cyfeiriad ei fywyd.
"Dwi'n teimlo'n wych achos nes i ddathlu mis nôl i heddiw bron, saith mlynedd o beidio cael diod," meddai.
"Dwi'm yn meddwl sa' mywyd i ar y llwybr yma rŵan os o'n i'n dal i yfed.
"Swn i'n sicr ddim yn ŵr, swn i ddim yn dad, a swn i ddim yn gynghorydd."
Mae'n credu na fyddai wedi cyflawni'r pethau sydd ganddo heddiw petai wedi parhau i yfed.
"Ma'n anodd credu os fyswn i wedi cario ymlaen ar y llwybr yna lle fyswn i rŵan. Ma'n siŵr fyswn i mewn lle hyd yn oed mwy tywyll."
'Rhywun yn gallu ffeindio ffordd allan'
Cafodd Elfed gymorth gan Alcoholics Anonymous ar ôl i'w fam drefnu i rywun o'r mudiad gysylltu ag ef.
Roedd siarad â phobl oedd yn deall ei brofiad wedi bod yn gam pwysig tuag at ei adferiad, gan ei helpu i sylweddoli nad oedd angen teimlo cywilydd am ei broblem ag alcohol.
Mae bellach yn gobeithio y gall ei brofiad personol roi gobaith i eraill sy'n wynebu trafferthion tebyg.
"Mae rhywun yn gallu rhoi tystiolaeth bod yna wellhad yn gallu digwydd, a bod rhywun yn gallu, dim bwys faint o dywyll mae pethau'n edrych, ffeindio ffordd allan," meddai.
Mae Elfed wedi bod yn rhan o ymdrechion i gefnogi pobl sy'n wynebu problemau gydag alcohol, gan gynnwys cyfarfod yn yr Eglwys Gatholig ym Mlaenau Ffestiniog.
Mae'n credu y gall rhannu profiadau personol helpu eraill i ddeall bod modd gofyn am gymorth a dechrau ar y daith tuag at adferiad.
"Ma' pob math o heriau yn gallu troi mewn i bethau positif," meddai.
"Ma' deall hynny o fy mhrofiadau personol yn help mawr wrth i fi helpu eraill yn fy nghymuned."

Mae Elfed Wyn ap Elwyn yn gobeithio defnyddio ei brofiadau i helpu eraill
Dechreuodd Elfed astudio'r gyfraith yn Hydref 2021, ac un fuan wedyn daeth y newyddion ei fod ef a'i wraig yn disgwyl efeilliaid. Bellach, mae'n dad i dri o blant.
Mae'n cyfaddef bod cwblhau'r radd wedi bod yn her, yn enwedig wrth geisio dod o hyd i amser i astudio rhwng gofalu am y plant, cyfarfodydd cyngor ac ymrwymiadau eraill.
"Mae o 'di bod yn dipyn o her, dipyn o nosweithiau di-gwsg, ond dwi mor falch bo' fi 'di gorffen â fo," meddai.
"Dwi dal yn dod dros flinder y traethodau ola' yna."
Yn hytrach na chael cyfnodau penodol i astudio, roedd yn gorfod manteisio ar unrhyw gyfle oedd ar gael.
"Oedd o'n jyst trio cael unrhyw amser sbâr i ddweud y gwir, o fin nos neu gynnar iawn yn y bore i gael astudio," meddai.
"Jyst rhoi fy mhen lawr a darllen be' oedd yn rhaid i fi ddarllen a sgwennu unrhyw draethawd hir, a gobeithio am y gorau."

Yn ôl Elfed, mae ei "deulu'n meddwl y byd" iddo
Er gwaethaf yr heriau, llwyddodd i barhau â'i astudiaethau a'i waith fel cynghorydd, rhywbeth y mae'n gorfod cynnwys ei blant ynddo hefyd ar adegau.
"Ma' plant yn dod efo fi i gyfarfodydd weithiau, ac fel arfer yn reit ddistaw..." meddai.
"Ond erbyn hyn ma'r efeilliaid yn gallu bod yn reit uchel, felly dim ond fy merch sy'n cael dod wan! Dwi jyst yn trio ffitio popeth fewn, a gobeithio fydd bob dim yn oce."
'Pleser helpu pobl y ward'
Mae Elfed yn credu bod dod drwy gyfnod anodd yn ei fywyd wedi rhoi persbectif gwahanol iddo fel cynghorydd.
"Ma' na gymaint o brofiadau gwahanol ma' rhywun yn gallu eu rhoi tuag at fod yn gynghorydd," meddai.
Ychwanegodd mai'r peth pwysicaf yw sicrhau ei fod yn gwneud ei orau dros y bobl y mae'n eu cynrychioli.
"Ma' gymaint o bleser bod yn gynghorydd yn y ward a ma' bobl mor glên, a dwi'n trio rhoi fy ngorau i bobl y ward."
"Ma' bywyd yn newid mor gyflym ac ma' rhywun yn gallu edrych yn ôl a jyst teimlo'n ddiolchgar bo' rhywun wedi cyrraedd hyn yn y pen draw."
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.