Y cynhyrchydd teledu, Meinir Siencyn, wedi marw yn 48

Meinir SiencynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Meinir wedi gweithio fel gweithredwr camera, cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu

GanManon WiliamaSara Down-RobertsBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Meinir Siencyn, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu o Lanberis, wedi marw yn 48 oed ar ôl cael triniaeth yn yr Almaen am ganser cam 4 yn y fron a'r esgyrn.

Roedd hi'n adnabyddus i gynulleidfa S4C wedi iddi wneud rhaglenni dogfen am gael diagnosis a thriniaeth canser y fron.

Yn 2026, dychwelodd y canser ac fe gafodd ddiagnosis o ganser cam 4 yn y fron a'r esgyrn - fe arweiniodd hynny at apêl i godi arian at driniaeth arbrofol yn yr Almaen nad oedd ar gael drwy'r GIG.

Yn wreiddiol o'r Wyddgrug roedd ganddi brofiad helaeth fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd rhaglenni a ffilmiau, ac roedd yn gyd-sylfaenydd y cwmni cynhyrchu Snapyn TV gyda'i phartner, Emyr Davies.

Meinir ac EmyrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd y cwmni Snapyn TV gyda'i phartner, Emyr Davies

Fe wnaeth Meinir weithio ar nifer o raglenni teledu gan gynnwys Priodas Pum Mil, Prosiect Pum Mil a Jules Peters: My Cancer Journey.

Pan gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2013 yn 34 oed, penderfynodd ddogfennu'r cyfnod er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r profiad o fyw gyda'r afiechyd.

Yna daeth ail raglen yn edrych ar ei hadferiad flwyddyn ar ôl y driniaeth.

Yn ôl Meinir, roedd y profiad wedi rhoi persbectif newydd iddi a'r hyder i fentro ar ôl cyfnod anodd.

"Os mae rhywbeth yn dod i'ch meddwl a 'da chi am ei wneud o, yna mae'n rhaid cymryd y cyfle," meddai wrth Cymru Fyw yn 2021.

Dywedodd bod colli ei thad i ganser y prostad bron i 15 mlynedd ynghynt hefyd wedi dylanwadu ar ei ffordd o edrych ar fywyd.

"Rŵan os dwi'n cael syniad am rywbeth neu gyfle i wneud rhywbeth dwi'n mynd i droi pethau rownd i'w wneud o," meddai.

Meinir ac EmyrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cododd Meinir a'i phartner, Emyr Davies, arian at driniaeth ganser arbrofol yn yr Almaen yn 2026

Yn ystod cyfnod y pandemig, dywedodd Meinir ei bod wedi ystyried gadael y diwydiant teledu, gan gwestiynu oriau hir y gwaith a natur ansicr bywyd llawrydd.

Ond ar ôl cael ei hannog gan ffrindiau i barhau, penderfynodd sefydlu cwmni Snapyn TV gyda'i phartner, Emyr Davies.

Wrth sôn am ei gwaith ar Priodas Pum Mil, dywedodd ei bod yn mynnu bod y criw'n cael amser am "banad a sgwrs" gyda phobl wrth gyrraedd lleoliad cyn dechrau ffilmio.

Dywedodd hefyd fod ei phrofiad personol o salwch wedi ei helpu i ddeall pobl yn well wrth gyfweld â nhw a chlywed eu straeon.

Ym mis Mehefin 2026, diolchodd Meinir a'i phartner, Emyr, i ffrindiau, teulu a'r cyhoedd am eu haelioni "anhygoel" wrth iddyn nhw godi arian at driniaeth canser arbrofol yn yr Almaen.

Fe gododd yr apêl fwy na £85,000 mewn ychydig ddyddiau.

Mewn fideo a recordiwyd o'i gwely yn yr ysbyty, diolchodd Meinir i'r rhai oedd wedi cefnogi'r apêl, gan ddweud ei bod wedi'i synnu gan "y cyfeillgarwch sydd yna yng Nghymru a ffrindiau fi gyd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig